Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd i'r gweinidog gan Mr. Phillips, Neuaddlwyd, oddiar 1 Tim. iv. 15; ac i'r eglwys gan Mr. W. Jones, Rhydybont, oddiar 1 Cor. xvi. 10. Am 2, gweddiodd Mr. W. Jones, Penybont; a phregethodd y Meistriaid W. Lewis, Tredwstan, (yn Saesoneg), oddiar Mat. viii. 22; a G. Hughes, Groeswen, oddiar 1 Cor. xiii. 13. Am 6, gweddiodd Mr. John Phillips, Neuaddlwyd; a phregethodd y Meistriaid T. Jones, myfyriwr, Neuaddlwyd, oddiar Mat. xxviii. 18; a P. Griffiths, Alltwen, oddiar Heb. i. 2.

Mae Mr. Davies yn awr yn dechreu yr wythfed flwyddyn a deugain o'i weinidogaeth, ac mor fywiog mewn corff a meddwl a phe byddai yn llangc ugain oed. Rhodded yr Arglwydd iddo lawer o wedd ei wyneb, a llwyddiant mawr o hyn hyd derfyn ei oes.[1]

BRYNBIGA.

Nodasom yn hanes Llanfaches a Hanover fod Ymneillduaeth wedi cymeryd cryn afael yn y dref hon a'r gymydogaeth yn lled gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac iddi ddal ei gafael yma am rai blynyddau wedi dechreu y ddeunawfed ganrif. Yr oedd yn y dref hon gynnulleidfa dan ofal y doniol Hugh Pugh, yr hwn a fu farw tua 1709, ond y mae yn ymddangos i'r achos wywo yn fuan ar ol ei farwolaeth ef, ac nad oedd yma ond ychydig neu ddim o'i weddillion tua y flwyddyn 1743, pan y dechreuodd Mr. Abraham Williams, sylfaenydd yr achos sydd yma yn bresenol, ddyfod i bregethu i'r dref. Os nad oedd rhai o hen aelodau Hugh Pugh heb farw ar gychwyniad yr achos presenol, mae yn ddiau fod rhai o'u hiliogaeth yn y dref a'r gymydogaeth yn teimlo rhyw beth at yr achos yn wahanol i'r hyn fuasai disgynyddion dynion paganaidd yn deimlo. Yr hanes a gawn am ddechreuad yr achos presenol sydd fel y canlyn:—Yr oedd yma bump o bobl grefyddol aelodau yn awr yn y New Inn—lle yr oedd cymdeithas grefyddol, er fod yr eglwys heb ei ffurfio yno etto. Unodd y rhai hyn a Mr. Abraham Williams i osod i fyny addoliad crefyddol yn y dref, tua y flwyddyn 1743. Nid oedd yr un o honynt ond y pregethwr ei hun yn meddu dawn i ganu, gan hyny, cafwyd gan ryw bump eraill a fedrent ganu, i fyned yno yn lled gyson o'r New Inn. Yn mhen amser ffurfiwyd yno eglwys, nis gwyddom pa bryd, ond y mae yn ddigon tebygol mai tua yr un amser ag y corffolwyd eglwys y New Inn; neu efallai mai yn 1756, pryd yr urddwyd y gweinidog cyntaf yn y New Inn.

Mewn anedd-dai y buwyd yn addoli yma am lawer o flynyddau. Tua y flwyddyn 1770 yr adeiladwyd y capel yma, a chan iddo gael ei adeiladu yn agos iawn at gapel y Bedyddwyr teimlodd y brodyr hyny i raddau yn dramgwyddus, ac edrychasant arno fel amcan i ddrygu eu hachos hwy.[2]

Tua yr amser yr adeiladwyd y capel, neu yn fuan ar ol hyny, cyfododd gwr ieuangc doniol ac anarferol o boblogaidd i bregethu yma, ac mewn parthau eraill o'r sir, o'r enw Jehoiada Brewer.[3] Bu ef yma am rai blynyddau yn gynorthwyol iawn i'r achos, a bu yn ei noddi ar ol iddo ymadael a'r lle, ac am flynyddau wedi marwolaeth Mr. Williams. Ei enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr yn ngweithredoedd y capel, yr hon, o herwydd

  1. Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau pwysicaf yn yr hanes hwn i lythyrau dyddorol a dderbyniasom oddiwrth Mr. Davies, gweinidog presenol y New Inn.
  2. Hanes y Bedyddwyr tudalen 676.
  3. James's Nonconformity in Birmingham, tudalen 124.