Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ABRAHAM WILLIAMS. Mewn ychwanegiad at yr hyn a ysgrifenasom am dano ef yn hanes y New Inn, gallwn grybwyll iddo dreulio ei holl fywyd, o'i briodas i'w farwolaeth, yn ymyl y dref hon, mewn amgylchiadau bydol nodedig o gysurus.

JEHOIADA BREWER. Bu y gwr enwog hwn yn pregethu yma am rai blynyddau, yn gynorthwyol i Mr. A. Williams, er nad ymddengys iddo gael ei urddo yma. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752, o rieni cyfrifol iawn. Dywed rhai mai yn y Casnewydd y ganwyd ef, ac eraill mai yn Mhontypool, ond yr ydym ni yn tybied mai Brynbiga yw lle ei enedigaeth. Cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd yn ieuangc iawn yn y Bath, dan weinidogaeth Mr. Glascott, un o bregethwyr Iarlles Huntingdon. Dechreuodd bregethu yn ngwres ei gariad cyntaf, a chyn ei fod yn ddwy-ar-hugain oed yr oedd yn adnabyddus trwy holl Fynwy, a rhai o'r siroedd cymydogaethol, fel pregethwr grymus a phoblogaidd anarferol. Yn 1780, dewiswyd ef yn weinidog cynulleidfa y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, lle y llafuriodd gyda llwyddiant mawr am dair blynedd. Yn 1783, symudodd i Sheffield. Yn 1796, symudodd oddiyno i Carr's Lane, Birmingham. Bu yno hyd 1802, pryd, o herwydd rhyw annghydwelediad, yr aeth ef a chorff y gynulleidfa allan, pan nad oedd wedi pregetha ond un Sabboth yn y capel ar ol ei ailadeiladu. Cymerasant adeilad fawr yn Livery Street, lle y buont yn ymgynull am bymtheg mlynedd. Yn 1816, prynasant dir yn Steelhouse Lane, a gosodwyd careg sylfaen y capel i lawr yno yn y flwyddyn hono, ond cyn i'r lle gael ei orphen yr oedd y gweinidog enwog wedi ei symud i gysegr gwell. Bu farw Awst 24ain, 1817, yn y chweched flwyddyn a thriugain o'i oed. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth gan yr enwog Timothy East.[1]

WILLIAM GEORGE. Gwnaethom grybwylliad am ei enw ef yn hanes Llanfaches. Ganwyd ef yn mhlwyf Llansoi, derbyniwyd ef yn aelod yn y New Inn, urddwyd ef yn Mrynbiga yn 1789, a symudodd i Ross yn 1794, nid yn 1799, fel y camarweiniwyd ni i osod i lawr yn hanes Llanfaches. Ymddengys iddo ymadael o Ross yn 1801, ond nis gwyddom i ba le yr aeth oddiyno. Mae yn debygol mai tra fu yn Brynbiga y bu yn cymeryd rhan yn y weinidogaeth yn Llanfaches.

EBENEZER JONES. Rhoddasom gofnodiad byr am Mr. Jones yn nglyn a hanes Ebenezer, Pontypool, ond y mae yr hyn a ganlyn a gawsom oddiwrth ei ferch ychydig ddyddiau yn ol, yn werth ei gofnodi: Cafodd ei gyfyngu i'w dy tua blwyddyn cyn ei farwolaeth. Y nos cyn iddo farw mynodd yr holl deulu—y plant, y gwasanaethwyr, a'r gweithwyr i'w ystafell. Eisteddai yno yn ei hen gadair, ac aeth trwy wasanaeth crefyddol cyflawn, gan bregethu ei bregeth olaf oddiwrth y geiriau, "Am hyny awn yn hyderus at orseddfaingc y gras, &c." Bu farw yn yr Arglwydd y dydd canlynol.

THOMAS POWELL. Er mwyn cael gwybodaeth gywir a chyflawn am hanes boreuol Mr. Powell, ysgrifenasom at yr Hybarch David Williams, Troedrhiwdalar, i holi yn ei gylch, ac wele yr atebiad a gawsom air yn ngair:

  1. Memorials Nonconformity at Rodborough, tudalen 59, &c.