"Ychydig o hanes y Parch. Thomas Powell, gynt o Aberhonddu. Yr oedd yn enedigol o Drefcastell, neu yn agos i'r lle. Cafodd ysgol dda gan ei dad pan oedd yn ieuangc. Aeth i gadw ysgol i Lanelli, Brycheiniog. Yr amser hwnw ymunodd a'r eglwys oedd yn Llangattwg, dan ofal Mr. Davies. Oddiyno aeth i athrofa Wrexham, a bu yno bedair blynedd, dan y Parch. Jenkin Lewis. Cafodd alwad yn Ninbych, pan oedd yn ymadael a'r athrofa, i fod yn weinidog iddynt hwy, a chafodd ei barchu yn fawr ganddynt. Pan oedd yn Ninbych, priododd ferch yn mhlwyf y Battel, yn agos i Aberhonddu, unig ferch ei thad a'i mam. Yr oedd ei rhieni yn amaethwyr cyfrifol, cyfoethog, ac yn berthynasau o bell i Mr. Powell. Yn y cyfamser yr oedd eglwys y Plough heb un gweinidog, ac yn mhen ychydig cafodd alwad gan yr eglwys hono, a symudodd o Ddinbych i Aberhonddu, a bu yn llwyddianus iawn yno. Yn y tymor y bu yno ychwanegwyd at yr eglwys lawer o ugeiniau. Yr oedd yn hoff iawn gan ei frodyr yn y weinidogaeth am dano. Symudodd o Aberhonddu i Frynbiga.
Gallaf ddyweyd hyn am dano; yr oedd fel cyfaill yn ffyddlon, didwyll, a charedig; fel gweinidog, yr oedd yn llafurus mewn astudio pregethau, ac yn ei holl gylch gweinidogaethol; a'i bregethau yn felus ac arddeledig. Yr oedd yn cael ei hoffi gan yr holl eglwysi cymydogaethol.
Darfu iddo argraffu amryw draethodau: 1. Yn mhlaid y Gymdeithas Genhadol. 2 Traethawd ar Gristion o fewn ychydig. 3 Traethawd ar Fedydd Babanod. 4 Cyfieithodd Calfin ar y Salmau. Yr eiddoch mewn gwir serch.
Tanyrallt, Chwefror 9fed, 1870.
DAVID WILLIAMS.
N.B.—Nis gallaswn nodi y blynyddau y bu yn aros yn un man.
Dear Dr. Do not wonder if there is a blunder. The old hand is 91 years of age since the 27th of last January, and the old eyes are of the same age to the moment."
Gadawn y llythyr hwn o eiddo y patriarch anrhydeddus i lefaru drosto ei hun. Ac nid oes genym ond ychwanegu yr amseriadau a adawyd allan ganddo ef. Yn y flwyddyn 1781 y ganwyd Mr. Powell. Yn 1804 yr aeth i'r athrofa, ac ar y 27ain o Hydref, 1808, yr urddwyd ef yn Ninbych. Symudodd oddiyno i Aberhonddu yn 1814, ac o Aberhonddu i Frynbiga yn 1828. Bu farw Chwefror 4ydd, 1842, yn 61 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Brynbiga.
EDWARD WILLIAMS. Mab ydoedd ef i'r pregethwr galluog hwnw, David Williams, Merthyr Tydfil. Ganwyd ef Rhagfyr, 7fed, 1798. Cafodd ei aelodi yn eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais, Merthyr, yn 1814 a chyn hir wedi hyny dechreuodd bregethu. Symudodd o Ferthyr i Gaerphili, ac yn y flwyddyn 1826, ymadawodd a'r Methodistiaid, a der—byniwyd ef yn aelod yn y Groeswen, gan Mr. Hughes. Yn nechreu y flwyddyn 1829, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Bethesda-y-fro, Morganwg, ac urddwyd ef yno Mawrth 19eg, yr un flwyddyn, yn gynnorthwywr i'r Hybarch Thomas Williams, yr emynwr enwog. Yn niwedd flwyddyn 1830, derbyniodd alwad o'r Main a Meifod, sir Drefaldwyn; a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yno Tach. 29ain a'r 30ain. Arosodd yno am ddwy flynedd, yna symudodd i Lansantsior a Moelfra, sir Ddinbych, lle y bu hyd ryw bryd yn y flwyddyn 1838, pryd y derbyniodd alwad o Lanfairmuallt, ac y symudodd i'r lle hwnw. Bu yno yn barchus a chymeradwy iawn hyd 1848, yna symudodd i Gwmbran, Mynwy. Ar ol llafur-