Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

io yno gyda derbyniad neillduol am bedair blynedd, o herwydd arosiad y gweithiau, a gwasgariad llawer o'r gymydogaeth, derbyniodd alwad oddi-wrth yr eglwys yn Mrynbiga, a chymerodd ei gofal yn 1852. Yn 1861, gorfodwyd ef gan lesgedd i roddi y weinidogaeth i fyny. Yna aeth i fyw i Lansantffraid, Maldwyn, heb fod yn mhell o Lanfyllin, lle genedigaeth ei wraig. Bu farw yno Medi 16eg, 1863. Ymadawodd o'r byd mewn teimladau nefolaidd iawn. Dywedai nad oedd un cwmwl rhyngddo ag wyneb ei Dad nefol. Claddwyd ef wrth gapel y Sarnau.

Dyn lled fychan o gorff, ond bywiog a lluniaidd iawn, oedd Mr. Williams. Yr oedd yn hynod o serchus a chyfeillgar; yn gyfaill didwyll iawn, ac yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf. Fel pregethwr, yr oedd yn gryno, chwaethus, a melus; a medrai bregethu yn y Saesoneg a'r Gymraeg yn rhwydd a diwall. Dichon, ar y cyfan na fu ei ddefnyddioldeb a'i lwyddiant yn y weinidogaeth yn gyfartal i'w gymhwysderau i'r gwaith; a dichon nad oedd ynddo y cwbl ymroddiad hwnw i ysbryd y gwaith sydd bob amser mor hanfodol i lwyddiant ynddo.

TYNEWYDD, MYNYDDISLWYN.

Yn ol y traddodiad yn yr ardal, cafodd yr achos yn y lle hwn ei ddechreu gan chwech o bersonau a ymneillduasant o'r Eglwys blwyfol, yn mysg pa rai yr oedd Mr. Thomas Walters, yr hwn wedi hyny a ddewiswyd yn weinidog i'r gynnulleidfa newydd.

Gellir cymhwyso y sylwadau a wnaethom ar ddechreu hanes eglwys y New Inn at ddechreuad yr achos hwn hefyd yn ei gysylltiad ag Eglwys y plwyf. Nis gallwn brofi fod Thomas Walters, a'r pump eraill a gydweithredent ag ef yn nechreu yr achos, wedi bod aelodau yn Mhenmain cyn i weinidogaeth y Methodistiaid ddylanwadu arnynt, er fod hyny yn lled debygol, ond y mae yn sicr fod Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn, a thaenu ei changhenau dros holl blwyf Mynyddislwyn fwy na chan mlynedd cyn i Mr. Howell Harries, nac un Methodist arall, erioed weled y lle. Bu yma ddiwygiadau nerthol tua deng mlynedd ar hugain cyn dechreuad y Diwygiad Methodistaidd. Byddai Mr. John Harries, Penmain, yn arfer pregethu gyda dylanwad mawr yn y Sychbant, a manau eraill, i dorfeydd lluosog tua dechreu y ddeunawfed ganrif:[1] felly nid anialwch gwyllt oedd y plwyf hwn pan ddaeth Methodistiaeth gyntaf iddo, ond tir wedi ei arloesi. Yr oedd eglwys Penmain ar y pryd yn lluosog a llewyrchus iawn, a'r Bedyddwyr hefyd yn lled gryfion yn y plwyf hwn a'r plwyfydd cylchynol. Gellir dyweyd yn ddibetrus fod Ymneillduaeth yn mhlwyf Mynyddislwyn, pan ymwelodd Howell Harries gyntaf a'r lle, mor gryfed, yn ol cyfartaledd y trigolion, ag ydyw yno yn bresenol. Yr offeiriad a wasanaethai y plwyf ar y pryd oedd David Perrott. Pan glywodd ef am fwriad Harries i ymweled a'r lle, ysgrifenodd lythyr bygythiol ato i'w wahardd; nis gellir, gan hyny, gasglu fod gwr hwn yn debygol o fagu llawer o dduwiolion yn ei eglwys.[2] Mae yn bosibl fod cychwynwyr achos y Tynewydd, fel llawer eraill o Ymneillduwyr a unasant a'r Methodistiaid, wedi bod yn cymuno yn achlysurol yn

  1. Jones's History of Aberystruth, tudalen 142, 143.
  2. Rees's Nonconformity in Wales, tudalen 366. ,