Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi marwolaeth Mr. Walters, yn 1794, bu yr eglwys am ryw yspaid yn cael ei gwasanaethu gan weinidogion cymydogaethol; ond ryw amser cyn dechreu y ganrif bresenol, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Walters, yr hwn a fu am rai blynyddau yn gweini yr ordinhadau yn y Tynewydd, mewn cysylltiad a'r New Inn. Anfynych y byddai Mr. Walters yn ymweled a hwy, ond gan fod yr eglwys mor dra rhagorol am ei doniau, a bod tri phregethwr cynnorthwyol derbyniol yn aelodau ynddi, nid oeddynt yn teimlo cymaint oddiwrth absenoldeb ac esgeulusdod yr hwn a gyfrifid fel gweinidog.

Yn y flwyddyn 1809, bu farw aelod defnyddiol iawn o'r eglwys hon o'r enw William Morgan, y Tiler, yn 58 oed. Efe a ddechreuodd yr ysgol Sabbothol yma, a pharhaodd yn athraw gweithgar a ffyddlon tra y bu byw. Yn nechreu y flwyddyn 1811, rhoddodd Mr. Thomas Walters ei weinidogaeth i fyny, ond gan ei fod ef, a'i ewythr, Thomas Walters y cyntaf, wedi ymgyfeillachu llawer a'r Methodistiaid trwy eu hoes, yr oedd rhyw gymaint o'r elfen Fethodistaidd yn parhau yn yr eglwys, a phan aed i son am ddewis gweinidog drachefn, bu hyny yn achos o ymraniad. Mynai y rhan Fethodistaidd o'r eglwys ddewis John Davies o'r Penllwyn-Bach yn weinidog, ond William George a ddewiswyd gan y rhan Annibynol; a chan fod y blaid hono yn llawer lluosocach, ennillasant y dydd, a'r canlyniad fu i'r lleill ymadael, a gosod i fyny eglwys Fethodistaidd yn Gelligroes. Enwir y rhai canlynol yn mysg y rhai a ymadawsant i Gelli—groes: John Davies, y pregethwr; Henry Jones, Tynyllwyn, pregethwr arall, a adwaenid wedi hyny, fel y Parch. Henry Jones, Llaneurwg; Shon William Harry, ac Anne ei wraig, a Harry Lewis Edmund. Ar ol ymadawiad y cyfeillion hyn, cydunwyd yn unfrydol i urddo Mr. William George. Cymerodd ei urddiad le Gorphenaf 4ydd, 1811. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: Yr hwyr blaenorol, pregethodd Mr. Rees Davies, Casnewydd, oddiar Sal. lv. 6; a Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, oddiar Sal. lxxxix. 15. Am 10, yr ail ddydd, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. James Williams, Llanfaches; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. E. Jones, Pontypool; derbyniwyd y gyffes ffydd a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Davies, Casnewydd; traddodwyd siars i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiar 2 Tim. ii. 15, a siars yr eglwys gan Mr. E. Jones, oddiar Heb. xiii. 7. Yr oedd Mr. D. Thomas, Penmain, hefyd yn bresenol yno.

Yr oedd Mr. George trwy holl dymor ei weinidogaeth yn cyfaneddu yn Mhontypool, ac yn ymddibynu yn benaf am gynnaliaeth ei deulu ar ei waith fel meistr seiri yn ngweithiau haiarn Pontypool. Deuai drosodd bob Sabboth i Fynyddislwyn, a phregethai yno yn y bore, yna dychwelai adref, a phlegethai fynychaf yn yr hwyr yn Ebenezer neu New Inn. Er nad oedd yr eglwys yn cael ychwaneg o'i wasanaeth nag un bregeth yn yr wythnos, etto, gan ei fod ef a'r bobl mor llawn o dân nefol, parhaodd yr achos mewn sefyllfa lewyrchus iawn, ac "fel aelwyd o dân yn y coed" trwy yr holl amser y bu yn weinidog yno. Derbyniodd yn ystod ei weinidogaeth gant ac wyth ar hugain o aelodau, ac yn eu plith ddau a gyfodasant wedi hyny i fod yn bregethwyr defnyddiol, sef Mr. John Mathews, Castellnedd, a'i frawd Mr. William Mathews, Rhydri. Cafodd yr eglwys yn nhymor Mr. George ei bendithio ag amryw ddiwygiadau tanllyd a grymus iawn. Gan ei fod yn myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau, ac yn cyfaneddu rhwng saith ac wyth milldir oddiwrth ei bobl,