Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anogodd hwy yn 1828, i edrych allan am gynnorthwywr iddo yn y weinidogaeth. Yn y flwyddyn hono, daeth Mr. Thomas Harries, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ysgol ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, heibio ar ei daith, a chafodd ei hoffi gan y bobl, fel y rhoddasant alwad iddo yn ddioed. Urddwyd ef Mai 18ed, 1828. Parhaodd Mr. George ei gysylltiad a'r eglwys am tua blwyddyn wedi urddiad Mr. Harries. Pan welodd fod y gweinidog ieuangc yn alluog i gyflawni y gwaith yn effeithiol, rhoddodd ef y gofal yn gwbl i fyny, a chymerodd ei le fel aelod yn y New Inn, yn agos i'w aneddle. Bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn manau eraill yn yr ardal, hyd derfyn ei oes.

Bu sefydliad Mr. Harries yn y lle yn fendith ddirfawr i'r eglwys a'r holl ardalwyr; adfywiodd yr achos, cynyddodd y gwrandawyr, ac ychwanegwyd llawer at nifer yr aelodau. Torodd adfywiad nerthol allan yn mhen ychydig fisoedd ar ol sefydliad Mr. Harries, yr hwn a barhaodd am agos i ddwy flynedd. Effaith yr adfywiad hwn oedd corffoliad yr eglwysi yn Tabor, Maesycwmwr, a Salem, Trelyn. Cangen uniongyrchol o'r Ty—newydd yw Tabor, ac y mae cychwyniad yr achos yn Salem i'w briodoli i raddau mawr i lafur Mr. Harries a rhai o bobl y Tynewydd. Parhaodd defnyddioldeb a pharch Mr. Harries yn gynyddol hyd derfyn ei oes fer. Bu farw er galar i ganoedd, yn ddyn ieuangc 31 oed, yn 1837.

Wedi marwolaeth Mr. Harries, buwyd yn agos ddwy flynedd cyn gallu taro wrth neb a fernid yn gymhwys i lenwi ei le. O'r diwedd rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Moses Ellis, Talybont, Ceredigion, ac yn niwedd y flwyddyn 1839 sefydlodd Mr. Ellis yma, a bu yn nodedig o ddefnyddiol a pharchus gan yr eglwys a'r holl ardal hyd ei farwolaeth. Cafodd tymor gweinidogaeth Mr. Ellis ei hynodi gan amryw adegau o lwyddiant ac adfywiadau gwresog. Ychwanegwyd ugeiniau, os nad canoedd, at yr eglwys yn ystod y saith mlynedd ar hugain y bu ef yma, ac nis gwyddom i'r achos syrthio i farweidd-dra neillduol am gymaint ag un flwyddyn trwy yr holl amser. Pa le bynag y byddai syrthni neu oerni, byddai bywyd a thân yn wastad i raddau mwy neu lai yn y Tynewydd. Er i ugeiniau o'r aelodau a'r gwrandawyr gael eu gwasgaru o'r ardal o herwydd marweidd-dra y gweithiau glo, parhaodd y gynnulleidfa heb fawr o leihad i'w ganfod ynddi trwy y blynyddau. Ychydig cyn marwolaeth Mr. Ellis, anogwyd James Williams, mab i un o'r diaconiaid, i ddechreu pregethu. Yn fuan wedi hyny aeth i'r athrofa i Gaerodor, ac y mae er 1868 wedi ymsefydlu fel gweinidog yn Ruardean, sir Gaerloew.

Heblaw y llwyddiant ysbrydol fu ar yr achos yn amser Mr. Ellis, aeth rhagddo hefyd yn rhagorol mewn pethau amgylchiadol. Yn y flwyddyn 1846 adeiladwyd addoldy y Garn, yn Abercarn, er mwyn cyfleusdra yr aelodau a breswylient yn y lle poblog hwnw. Corffolwyd yno eglwys, ac ar ol i Mr. Ellis fod yn ei gwasanaethu am ychydig o flynyddau rhoddodd hi i fyny, a dewisasant weinidog iddynt eu hunain. Yn 1847, adeiladwyd ty ysgol yn ymyl y Tynewydd, yr hwn sydd wedi bod yn wasanaethgar iawn at gynal ysgol ddyddiol. Yn 1855, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd cadarn a phrydferth yn ei le, yr hwn a gynnwysa rai ugeiniau o eisteddleoedd yn fwy nag a gynnwysai yr hen dy.

Mae yr eglwys oddiar farwolaeth Mr. Ellis hyd yn bresenol heb allu cael neb i sefydlu fel gweinidog yn eu mysg. Yn 1867, buasent yn rhoddi galwad i Mr. Richard Foulkes Edwards, (Risiart Ddu o Wynedd), oni buasai i'w iechyd ei orfodi i gymeryd mordaith i'r America. Ar ei ym-