ef yn fawr gan weinidogion ac eglwysi cymydogaethol. Efe a gafodd ei benodi i bregethu yn angladd yr enwog Ebenezer Jones, Pontypool. Diau pe cawsai ddechreu ei weinidogaeth yn foreuach yn ei oes, a phe buasai yn cael ei gynal fel ag i roddi ei holl amser at waith y weinidogaeth, y buasai yn fwy defnyddiol, ac yn fwy adnabyddus trwy y Dywysogaeth. Mae llawer o ddynion rhagorol fel y gwr da hwn, a allasent fod wedi cyrhaedd enwogrwydd cenhedlaethol, wedi cael eu cadw dan gudd trwy eu holl fywyd gan amgylchiadau anffafriol.
THOMAS HARRIES. Ganwyd ef yn niwedd Awst neu ddechreu Medi, 1806, yn mhlwyf Llansaint, yn agos i Gydwely, sir Gaerfyrddin. Enwau ei rieni oedd Jacob a Mary Harries. Yr oeddynt ill dau, er yn isel yn eu hamgylchiadau bydol, yn bobl grefyddol iawn, a'i fam yn fwy nodedig na'r cyffredin am ei doniau, ei defnyddioldeb, a'i duwioldeb. Yr oedd hi yn fath o arweinyddes yn nghyfarfodydd y bobl ieuangc, a byddai yn aml yn siarad ac yn gweddio yn gyhoeddus yn y cyfryw gyfarfodydd. Thomas oedd yr ieuengcaf o bump o blant. Bedyddiwyd ef gan Mr. John Abel, Cydwely, Medi 24ain, 1806. Pan yn blentyn ieuangc dangosai alluoedd gafaelgar a medr i ddysgu yn yr ysgol. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc iawn gan Mr. David Griffiths, Capel Sul, Cydwely, a than nawdd Mr. Griffiths y dechreuodd bregethu. Ar ol iddo ddechreu pregethu, gwnaeth yr eglwys yn Nghapel Sul gasgliad i'w gynnorthwyo i fyned i ysgol Ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin. Nis gwyddom pa cyhyd y bu yn yr ysgol yn Nghaerfyrddin, ond tra y bu yno yr oedd yn hynod o boblogaidd fel pregethwr. A'r ol ymadael a'r ysgol, bu am ychydig amser yn cadw ysgol ei hun yn Nghydwely. Yn nechreu y flwyddyn 1828, fel y nodasom, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys y Tynewydd, ac yno y treuliodd weddill ei oes, mor gymeradwy ac anwyl gan bobl ei ofal ag y gallasai gweinidog fod. Bu farw yn mlodau ei ddyddiau Medi 18ed, 1837, a chladdwyd ef o dan yr areithfa, lle y buasai am ddeng mlynedd yn pregethu "yr ymadrodd am y groes." Gadawodd un o'r gwragedd hawddgaraf yn weddw, a dau blentyn yn amddifaid, a lluaws o gyfeillion mewn galar dwys ar ei ol.
O ran corff, un lled fychan a nodedig o eiddil ei ymddangosiad oedd Mr. Harries. Yr oedd golwg egwan ei gorff wrth ei fod yn esgyn i'r areithfa yn creu math o deimlad tyner tuag ato yn yr holl gynnulleidfa. O herwydd eiddilwch annghyffredin ei gorff nid oedd ei lais ond gwan, ond yr oedd mor beraidd a seiniau melusaf yr eos, nes y chwalai teimladau ei wrandawyr yn ddrylliau. Ond os un gwan o gorff ydoedd, yr oedd yn un cryf iawn o feddwl. Yr oedd ei bregethau oll yn drefnus, cryno, a chynwysfawr, ac er na byddai, ond anfynych, dros o bum' munyd ar hugain i haner awr yn pregethu, teimlai ei holl wrandawyr, call a ffol, eu bod wedi cael tâl cyflawn am eu trafferth yn dyfod i'w wrandaw.
Yr oedd yn ddyn nodedig o graffus i adnabod dynion, ac i ddeall amgylchiadau, ac yn un o synwyr cyffredin tu hwnt i nemawr a adnabuom erioed. Tra yr oedd yn rhy lygadgraff a gochelgar i neb_allu ei rwydo, ni adawsai argraff ar neb ei fod yn ddyn dwfn cyfrwys. Yr oedd ganddo gydgyfarfyddiad dedwydd iawn o ymddangosiad diniwed yr oen a challineb y sarph. Perchid ef gan bawb o'i gydnabod, nid oddiar ei ofn, ond o anwyldeb tuag ato. Yr oedd ynddo rywbeth i swyno pawb a'i gwelai, ac a'i gwrandawai, i deimlo rhyw gynesrwydd tuag ato.
Clywsom Mr. Jones, Gwynfau, yn adrodd yr hanesyn canlynol am dano: Ychydig