Llanfyllin; W. Davies, Llangollen; Thomas Phillips, Neuaddlwyd; Hugh Lloyd, Towyn, ac Azariah Shadrach, Aberystwyth. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Nhalybont yn nodedig o dderbyniol, a pharhaodd yno yn barchus a rhyfeddol o lwyddianus hyd nes i ryw ysbryd drwg ddyfod i mewn i'r eglwys, mewn cysylltiad a therfysg eglwysig yn Machynlleth. Arweiniodd hyny Mr. Ellis i wneyd i fyny ei feddwl i ymadael a'r lle, er galar dwys i ganoedd o'r ardalwyr. Yn 1839, derbyniodd alwad oddi-wrth eglwys y Tynewydd, Mynyddislwyn, a symudodd yno. Bu ei weinidogaeth yn y Tynewydd yn rhyfeddol o dderbyniol a llwyddianus hyd derfyn ei oes. Parhaodd i bregethu gyda naws nefolaidd hyd o fewn tua mis i'w farwolaeth. Terfynodd ei yrfa mewn tangnefedd, Gorphenaf 2il, 1866, a chladdwyd ef yn mynwent y Tynewydd ar y chweched dydd o'r un mis, sef o fewn dwy flynedd a deugain, ond un diwrnod, i'r dydd yr urddwyd ef yn Nhalybont. Yr oedd tua deg ar hugain o weinidogion Ymneillduol, a dau offeiriad, yn ei angladd. Pregethwyd yn y capel gan T. Rees, Abertawy, a J. Mathews, Castellnedd, a thraddodwyd anerchiadau ar lan y bedd gan amryw weinidogion, ac yn eu plith gan Berson y plwyf. Bu Moses Ellis, fel ei Arglwydd, dros y rhan fwyaf o'i oes " yn wr gofidus a chynefin a dolur." Yn dair ar ddeg oed, fel y crybwyllwyd, llosgwyd ef yn arswydus yn y gwaith glo, a bu yn ddyoddefydd oddiwrth y ddamwain hono hyd derfyn ei oes. Tua deng mlynedd ar hugain cyn ei farwolaeth, syrthiodd oddiar ei anifail ac ysigodd ei fraich, a bu yn dyoddef oddiwrth hyny yn gyson, ac ar brydiau byddai ei boenau yn angerddol, nes i'r aelod dolurus gael ei thori ymaith tuag un mis ar bymtheg cyn ei farwolaeth. Gwellhaodd yn dda mewn ymddangosiad ar ol tori y fraich ymaith, ond yn mhen rhai misoedd trodd yr afiechyd oedd yn y fraich i mewn i'r corff, a rhoddodd derfyn buan ar ei fywyd.
Bu Mr. Ellis yn briod ddwy waith. Dynes ieuangc dduwiol iawn o ardal Llangeitho, ac aelod o eglwys Ebenezer, Llangybi, oedd ei wraig gyntaf. Priododd hi Gorphenaf 27ain, 1831, a chymerwyd hi oddiwrtho gan angau Chwefror 1af, 1833, ac yn mhen wyth awr a deugain ar ol y fam bu farw yr unig blentyn a adawsai ar ei hol. Claddwyd y fam a'r plentyn yr un dydd yn nghapel Talybont. Mai 21ain, 1849, priododd Mr. Ellis ei ail wraig, sef gweddw ei ragflaenor Mr. Harries, ac ynddi hi cafodd "ymgeledd gymhwys" yn holl ystyr yr ymadrodd. Rhodd Duw iddo ef oedd y wraig ragorol hon, ond cafodd y trallod o'i cholli fwy na dwy flynedd cyn ei farwolaeth ei hun. Cawsant un ferch, yr hon sydd yn awr heb dad na mam, ond yn cael ei hymgeleddu yn gysurus gan Dad yr amddifad.
Fel dyn, yr oedd Mr. Ellis yn hytrach yn bruddaidd a llwfr, ond mae yn debygol fod hyny yn codi yn fwy oddiar y cystudd parhaus yr oedd yn ddarostyngedig iddo, nag oddiar ddim cyfansoddiadol ynddo. Yr oedd Mrs. Ellis yn gydymaith nodedig o gyfaddas iddo, gan ei bod hi yn wastad yn siriol a bywiog ei hysbryd, gyferbyn a'i brudd-der a'i lwfrdra ef.
Fel Cristion, yr oedd yn un o'r dynion mwyaf nefolfrydig y cawsom erioed y fraint o fod yn eu cymdeithas. Pethau crefyddol a nefol yn wastad yr hoffai siarad am danynt. Yr oedd unrhyw ymddyddan a ymylai ar fod yn gellweirus a phechadurus bob amser yn boen iddo. Pan fyddai wrtho ei hun darllen llyfrau crefyddol, myfyrio, a gweddio fyddai ei holl waith, ac fel effaith o hyny yr oedd rhyw naws grefyddol arno yn mhob cymdeithas.