Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel pregethwr, yr oedd yn nodedig o afaelgar, melus, ac effeithiol. Nid oedd unrhyw fawredd yn ei bregethau fel cyfansoddiadau, nac yn ei ddull yntau o'u traddodi, ond yr oedd ynddynt ryw eneiniad nefol a orfodai gwrandawyr i'w teimlo. Anfynych iawn y clywsom ef yn pregethu heb doddi ei wrandawyr. Byddai bob amser yn myfyrio ei bregethau yn ofalus, ac yn eu hysgrifenu yn drefnus, fel y mae yn awr yn ei law ysgrifen dros ddwy fil o honynt; a chan mai yn y Saesoneg yr ysgrifenai hwynt gan amlaf, mae yn sicr, pe cyhoeddid hwynt, y byddent yn dderbyniol iawn gan filoedd o bregethwyr cynnorthwyol ar hyd a lled y deyrnas. Maent yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o'r pethau dienaid sydd yn myned dan yr enw Sketches and Skeletons of Sermons, ac yn cael cylchrediad dirfawr yn mysg y Saeson. Yn misoedd olaf ei fywyd yr oedd rhyw nefolrwydd goruwchddynol yn mhregethau Mr. Ellis. Yr oedd yn hawdd i'w wrandawyr ddeall ei fod yn addfedu yn gyflym i wlad well, a'i fod

"Yn dechreu profi eisoes
Beraroglau'r gwledydd draw.”

Terfynwn yr hanes byr yma am ein hanwyl frawd gyda chofnodiad o un peth nodedig a adroddodd wrthym amryw weithiau: Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo symud i Fynyddislwyn, pan ydoedd yn lletya yn nhy yr hen Gristion anwyl, Phillip Williams, breuddwydiodd un bore ei fod yn nghwmni Mr. Williams o'r Wern, a'u bod yn cerdded rhagddynt fraich yn mraich nes iddynt fyned yn mlaen at y palas prydferthaf a welsai erioed. Yr oedd rhodfeydd ardderchog o flaen y palas, a phan oeddynt yn dynesu at y drws, daeth dau was ardderchog eu gwisgoedd a'u hymddangosiad yn mlaen atynt, ac ymaflasant yn mreichiau Mr. Williams gan ei arwain yn mlaen, a phan oeddynt wrth y drws, agorodd gweision eraill oeddynt oddifewn y drws, ac aeth Mr. Williams rhag ei flaen i'r palas, ond dywedodd un o'r gweision wrth Mr. Ellis, "Nid wyt ti i gael dyfod i mewn yma heddyw." Ar hyny deffrodd. Pan ddaeth i lawr adroddodd ei freuddwyd wrth y teulu. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny cawsant y newydd fod Mr. Williams wedi marw ar y bore y breuddwydiasai Mr. Ellis, a chyn pen dwy awr ar ol y pryd yr ydoedd yn breuddwydio.[1]

*****

Crybwyllasom enw HERBERT JENKINS yn yr hanes blaenorol. Gan ei fod yn enedigol o'r gymydogaeth hon, ac iddo gyfodi i enwogrwydd mawr fel gweinidog Annibynol, tybiwyd mai nid anmhriodol fyddai rhoddi ychydig o'i hanes yma. Cafodd ei eni yn rhywle yn y rhan isaf o blwyf Mynyddislwyn yn y flwyddyn 1721. Ymddenygys fod ei rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn amgylchiadau cysurus. Bu ef am ryw faint o amser yn yr ysgol yn Nghaerodor, dan ofal Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y Bedyddwyr. Yr ydym yn anhysbys o'r amser a'r lle yr ymunodd a chrefydd, ond tybiwn mai aelod gwreiddiol o eglwys Mr. Edmund Jones ydoedd. Ymddengys ei fod yn un o'r rhai cyntaf yn y parthau hyn a ymunodd a phlaid Mr. Howell Harries. Yr oedd wedi dechreu pregethu tua y flwyddyn 1740, pryd nad oedd dros 19eg oed; ac yn Nghymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid, yr hon a gynaliwyd yn y Watford, yn Ionawr, 1742, rhestrir ef yn mysg y cynghorwyr cyhoeddus. Gan ei fod yn medru

  1. Yr ydym yn cydnabod ein rhwymau am lawer o'r ffeithiau pwysicaf yn yr hanes blaenorol i'r llythyrau cynwysfawr a dderbyniasom oddiwrth ein cyfeillion Mr. D. Seys Lewis, Mr. B. Mathews, a Mr. J. Mathews, Castellnedd.