Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu yn yr iaith Saesonig, a'i fod yn ddyn ieuangc nodedig o ddoniol, anfonwyd am dano i Loegr mor fore a'r flwyddyn 1744, a byddai yn fynych yn pregethu yn lle Mr. Whitefield yn y Tabernacle, cyn ei fod yn bedair-ar-hugain oed. Bu am rai blynyddau yn cynnorthwyo mewn gwahanol fanau yn Lloegr, ac yn neillduol yn Lime Street, Llundain, hen eglwys yr enwog Dr. Goodwin. Yn 1749 cafodd ei urddo yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Maidstone, Kent, a bu yno yn llafurio gyda llwyddiant a phoblogrwydd annghyffredin am bedair blynedd ar hugain. Mae yn Bu farw yn gymharol o ieuangc Rhagfyr 11eg, 1772, yn 51 oed. anrhydedd i blwyf Mynyddislwyn fod y fath ddyn enwog wedi cael ei eni ynddo, ond nid yw yn anrhydedd i'r hen drigolion na buasai rhai o honynt yn cadw mwy o hanes am dano. Yr oedd Herbert Jenkins ag Edmund Jones yn gyfeillion mawr.[1]

REHOBOTH, BRYNMAWR.

Er fod yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanelli, sir Frycheiniog, etto gan fod yr eglwys a gyferfydd ynddo, oddiar y dechreu, yn perthyn i gyfundeb eglwysi Annibynol Mynwy, ac mai yn mhlwyf Aberystruth y dechreuwyd yr achos, ac yr arferai y gynnulleidfa ymgynnull, hyd o fewn tair blynedd a deugain yn ol; yn nglyn a hanes eglwysi Mynwy y mae lle priodol hanes yr eglwys hon.

Fel y nodasom, yn mhlwyf Aberystruth y dechreuwyd yr achos hwn, ac ar ryw olwg gellir olrhain ei ddechreuad yn ol am fwy na dau cant o flynyddau, er nad yw yr eglwys bresenol ond cant a chwe' mlwydd oed. Yr oedd Ymneillduaeth wedi ymdaenu yn y plwyf hwn mor foreu ar flwyddyn 1646, os nad rai blynyddau yn foreuach. Nid oes genym un prawf pendant fod Mr. Wroth, Mr. Cradock, a'u cydlafurwyr wedi bod yn pregethu yma cyn y rhyfel cartrefol, ond y mae pob sail i dybied eu bod, ac y mae tystiolaeth Mr. Cradock fod yr efengyl wedi ymdaenu dros y mynyddoedd rhwng Brycheiniog a Mynwy "fel tân mewn tô gwellt,"[2] a bod yno tuag wyth cant o bobl wedi cael eu henill at yr Arglwydd, rhwng 1640 a 1646, yn profi tuhwnt i ddadl fod llawer o bobl grefyddol yn rhwym o fod y pryd hwnw yn y plwyf hwn, canys gwna i fynu ran fawr o'r "mynyddoedd rhwng Brycheiniog a Mynwy." Cafodd Aberystruth, a'r plwyfydd cymydogaethol, eu bendithio yn helaeth a gweinidogaeth rhai o brif bregethwyr Cymru, o derfyniad y rhyfel yn 1646, hyd adferiad Siarl II. yn 1660, megys Jenkin Jones, Ambrose Mostyn, Walter Cradock, Vavasor Powell, ac yn neillduol, Henry Walter.

Mae Mr. Edmund Jones, yn ei hanes o'r plwyf hwn, wedi cofnodi llawer o ffeithiau o berthynas i helynt Ymneillduaeth yma o'r dechreuad, ond gan ei fod mor boenus o ddisylw o amseriad y gwahanol ddigwyddiadau a grybwylla, a'i fod yn aml yn eu camamseru, mae yn anhawdd gwneyd defnydd o'r defnyddiau a gynwysa ei lyfr. A ganlyn yw y prif ffeithiau a gofnoda: Yn amser y werinlywodraeth yr oedd yma ryddid cyflawn i'r Ymneillduwyr, cyn belled ag yr oedd a fynai cyfraith y tir a hyny, ond o herwydd gelyniaeth y werin annuwiol, anfynych y goddefid i'r puritan-

  1. Timpson's Church History of Kent, tudalen 337
  2. Timpson's Church History of Kent, tudalen 337