Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gyhoeddi yn 1567. Er i waith dirfawr, er dwyn y Diwygiad yn mlaen, gael ei gyflawni yn Lloegr yn nheyrnasiad byr Edward VI., nid ymddengys i braidd ddim gael ei wneyd yn Nghymru yn y blynyddoedd hyny. Pan esgynodd Mari i'r orsedd, ac y cafodd Pabyddiaeth drachefn ei gwneyd yn grefydd sefydledig, cafwyd yn Lloegr dros dri chant o bersonau y rhai a gymerasant eu llosgi yn hytrach nag ymwrthod a'u Protestaniaeth, heblaw amryw ugeiniau a ffoisent i'r cyfandir am ddiogelwch, ac a ddychwelasant ar farwolaeth y frenhines. Ond ni chafwyd ond tri merthyr yn holl Gymru, ac mae yn debygol mai tri Sais oedd y rhai hyny yr Esgob Farrar, yr hwn a losgwyd yn Nghaerfyrddin; Rawlins White, yn Nghaerdydd, a William Nichol, yn Hwlffordd. Yr oedd dau neu dri o Gymry yn mysg y ffoedigion a ddiangasant i'r Cyfandir. Y gwir yw, yr oedd cenedl y Cymry, yn offeiriaid, a phobl yn hollol Babyddol, neu ddifater ynghylch pethau crefyddol, ac yn gorwedd yn y gaddug dywyllaf. Yr oedd yr offeiriaid Cymreig yn yr oes hono mor anwybodus, anfoesol, a diegwyddor ag unrhyw genhedlaeth o offeiriaid a fu erioed yn y byd. Pan ddarfu i Harri VIII. fwrw ymaith iau y Pab, dilynwyd ef gan offeiriaid Cymru. Pan ddygid y Diwygiad yn mlaen gan Cranmer, ac eraill, yn nyddiau Edward VI., nes hollol Brotestaneiddio ffurfiau a gwasanaeth yr Eglwys, nid ydym yn cael fod un o offeiriaid Cymru yn beio nac yn canmol y gwaith. Pan adsefydlwyd Pabyddiaeth gan Mari, troisant hwy oll yn Babyddion gyda hi, a phan ddygwyd Protestaniaeth yn ol gydag esgyniad Elizabeth i'r orsedd, mae corph offeiriaid y dywysogaeth, gyda chwech neu saith o eithriadau, yn troi yn ol at grefydd y pen coronog. Nid ymddengys eu bod yn gofalu am ddim ond cadw eu bywioliaethau, a phorthi eu nwydau anifeilaidd. Dywed Dr. Meyrick, esgob Bangor, yn 1560, nad oedd ond dau offeiriad yn ei holl esgobaeth yn medru pregethu o gwbl, a digon tebygol na fedrai y ddau hyny wneyd dim amgen na darllen pregethau. Nid yn unig yr oeddynt yn ddidalent at waith y weinidogaeth, ond yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn amddifaid o gymhwysder moesol at y fath waith cysegredig. Yr oedd cadw gordderch-wragedd yn beth cyffredin yn eu mysg. Yn 1563, cymerwyd un offeiriad i'r awdurdodau fel un cymhwys i fod yn esgob yn Bangor, yr hwn a gadwai dair o ordderch-wragedd.[1] Tra yr oedd yn naturiol disgwyl i bethau fod yn yr agwedd waradwyddus yma, yn amser y cyfnewidiad oddiwrth Babyddiaeth i Brotestaniaeth, gallesid yn naturiol ddisgwyl am wellhad gydag amser, ond fel arall y bu. Yn 1587, cyhuddwyd Dr. William Hughes, Esgob Llanelwy, o gamdrin ei esgobaeth, a phan wnaed ymchwiliad, cafwyd fod yr esgob yn dal un-ar-bymtheg o'r bywiolaethau cyfoethocaf yn ei law ei hun, fod y rhan fwyaf o'r bywiolaethau goreu yn meddiant personau nad oeddynt yn cyfaneddu yn y wlad o gwbl, fod gwr a ddaliai un o'r bywiolaethau cyfoethacaf yn llettya mewn tafarndy, ac nad oedd ond tri

  1. Strype's Life of Archbishop Parker. Vol I., pp. 404—5. Ed. 1821.