corffolwyd un yn Mhenyllwyn yn agos i weithiau Nantyglo, gan Mr. Edmund Jones, ac y mae yr eglwys hono yn parhau hyd y dydd hwn yn Rehoboth, Brynmawr. Cangen o eglwys Mynyddislwyn neu Benmain, fu yn cyfarfod yn Gelligrug, Abertylerwy, Tynyfid, Tynyllwyn, a manau eraill o 1646 hyd 1780.[1] Bu addoliad hefyd yn cael ei gynal yn lled gyson o 1740 hyd 1764 mewn gwahanol anedd-dai, gan Mr. Edmund Jones, er budd i aelodau ei eglwys ef yn Mhontypool, y rhai a gyfaneddant yn y plwyf hwn.
Mae yn ymddangos fod y rhan fwyaf o'r Annibynwyr a breswylient yn y plwyf hwn tua y flwyddyn 1762 yn cyfaneddu yn Nghwm Ebbwy Fawr; canys yr oedd y Bedyddwyr, er's mwy na haner canrif wedi meddianu y rhan fwyaf o Gwm Ebbwy Fechan, neu Gwm yr Eglwys; ond tua y flwyddyn hono daeth John Thomas, myfyriwr yn athrofa Abergavenny, a phregethwr doniol annghyffredin, i bregethu yn lled gyson i Gwm yr Eglwys, i dŷ un Edward Jones, sef Penllwyn, a'r canlyniad fu i ddiwygiad nerthol dori allan yno, ac i amryw gael eu hennill at grefydd. Rhoddwn hanes ymweliadau John Thomas a'r Blaenau yn ei eiriau ef ei hun: "Daethum i Abergavenny yn niwedd y flwyddyn 1761, a phan ddaethum yma gyntaf i ymosod i ddysgu llyfrau Lladin, a gweled y fath annuwioldeb yn y dref, a'r fath glaiarwch yn y gynnulleidfa, yr oedd fel yn newid tywydd arnaf, ac ofn colli tir yn fy ysbryd; am hyny, byddwn yn arfer myned weithiau fy hun i blith y llwyni coed, ar lan yr afon Wysg, i weddio ganol dyddiau, lle y byddai yn felus arnaf, ac yn cadw fy enaid mewn hwyl nefol. Ar un tro, pan yr oeddwn ar weddi, daeth fel llais at fy ysbryd yn dyweyd wrthyf am edrych i'r lan y tu arall i'r afon, a myned y ffordd hono i'r mynyddau i bregethu, a bod gan yr Arglwydd waith i mi i'w wneuthur y ffordd hono. Yn mhen ychydig ar ol hyn daeth un ataf gan daer ddymuno arnaf i ddyfod i Flaenau Gwent, rhwng y mynyddau i bregethu. Gyda syndod addewais fyned, gan gredu alw o'r Arglwydd fi, ac felly yr aethum, a'r noswaith gyntaf y lleferais yn nhy Edward Jones, cefais flaenffrwyth; gwr y ty ac un arall a gawsant eu hargyhoeddi; a thros dalm o amser, yn agos bob tro y deuwn i'r parthau yma i bregethu byddwn yn clywed fod rhai o'r newydd yn cael eu deffroi. Rhyw gyffroad a dorodd allan trwy y gymydogaeth, a drysau newydd yn cael eu hagor i bregethu yr efengyl, a'r tai yn llawn o wrandawyr. Dymunwyd arnaf ddyfod i bregethu i dy cyfarfod y Bedyddwyr, a rhai a gawsent eu dihuno yma. Llawer noswaith y bu yn werthfawr arnaf yn y Blaenau, i ymddyddan a gweddio gyda fy mhlant ysbrydol. Yn mhen ychydig Mr. Jones, o Bontypool, a osododd yn nghyd eglwys yn nhy Edward Jones, i gyfranu yr ordinhadau yn eu plith, ac y mae yn y parthau hyny eglwys hyd heddyw."[2]
Dyma ddechreuad yr eglwys flodeuog yn Rehoboth, Brynmawr. Pan gorffolodd Edmund Jones hi yn 1764, nid oedd rhif yr aelodau ond un-ar-ddeg. Mae yn ddigon tebyg fod y Bedyddwyr wedi myned a niferi o ddychweledgion John Thomas, ac y mae yn bosibl fod rhai o honynt wedi ymuno a'r gangen o eglwys Penmain, yn Nghwm Ebbwy Fawr. Cynyddodd yr eglwys yn Mhenyllwyn yn raddol, fel nad oedd rhif yr aelodau fawr dan ddeg-ar-hugain yn 1779, pan gyhoeddwyd hanes plwyf