Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aberystruth. Ond tra yr oedd yr eglwys yn Ebbwy Fechan yn ennill tir, yr oedd y gangen o Benmain yn Ebbwy Fawr yn colli tir o flwyddyn i flwyddyn. Dywed Phillip Dafydd, wrth gofnodi claddedigaeth dwy o'r aelodau yn Nghorphenaf, 1777. "Yr oeddynt ill dwy yn perthyn i Ddyffryn Ebbwy. Mae y cyfarfodydd yn y lle hwnw yn debygol o gael eu rhoddi i fyny yn fuan, oblegid nid oes yno yn awr ond pedwar neu bump o aelodau sydd yn perthyn i Benmain." Parhaodd Mr. P. Dafydd fyned yno am tua dwy flynedd ar ol hyn, ac yna rhoddodd y lle i fyny.

Ar ol i'r eglwys yn Mhenyllwyn fod yn ymgynnull yno am ychydig o amser symudasant i Waengoodwin, neu "Ty Solomon," fel y gelwid ef yn

"fel gyffredin, ac yno y buont yn ymgynnull hyd nes yr adeiladwyd y capel cyntaf. Bu Mr. Edmund Jones yn gwasanaethu yr eglwys fechan hon unwaith yn y mis hyd yn agos i derfyn ei oes. Gweinyddid yma ar y Sabbothau eraill gan bregethwyr cynnorthwyol a'r mwyfyrwyr o athrofa Abergavenny, ac wedi hyny y myfyrwyr o athrofa Iarlles Huntingdon yn Nhrefecca.—Bu yr Iarlles yn garedig iawn i'r achos hwn yn ei wendid. Anfonodd wely ac awrlais i Dy Solomon at wasanaeth y pregethwyr a ymwelent a'r lle. Yr oedd yma bregethwr cynnorthwyol o'r enw David Thomas, yr hwn a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw "Dafydd Nantmelyn." Dyn lled fyr ei ddoniau, ond o fuchedd dda ydoedd. Yehydig amser cyn terfyn ei oes yr oedd Mr. Edmund Jones yma ar Sabboth gwlyb iawn yn cadw cyfarfod cymundeb; ac ar ddiwedd y gwasanaeth dywedodd, "Y mae hi yn gwlawio yn drwm iawn heddyw, ac os bydd hi fel hyn mis i heddyw ni byddaf fi yn alluog i ddyfod yma, a rhag i chwi fod heb neb i ranu yr ordinhad i chwi, mi a ordeiniaf Dafydd Nantmelyn yn awr," ac heb ymgynghori ychwaneg a neb gosododd ei ddwylaw yn y fan ar ben Dafydd, a gweddiodd ei urddweddi. Prin yr ydym yn credu i'r eglwys gydnabod Dafydd fel ei gweinidog, ond y mae yn ymddangos iddo lafurio yno yn ol ei allu hyd ei farwolaeth.[1] Yr oedd Mr. Thomas, Penmain, wedi cymeryd gofal yr achos cyn marwolaeth Mr. Edmund Jones, a bu yn ymweled a'r lle yn fisol hyd nes i Mr. Stephenson gael ei ddewis yn weinidog.

Pan gychwynwyd gweithiau haiarn Nantyglo, lluosogodd y boblogaeth, a daeth rhai dynion crefyddol i'r ardal oeddynt yn aelodau gyda'r Annibynwyr cyn dyfod yma. Bu y rhai hyny yn llawer o adgyfnerthiad i'r achos bychan. Rai blynyddau cyn adeiladu y capel teimlid fod angen am ysgol Sabbothol yn y lle. Y ddau fuont yn offerynol i gychwyn yr ysgol Sul oedd John Evans o ardal yr Aber, a John Price o Lanwrtyd. Mae Ꭹ ddau wedi cael eu casglu at eu tadau er's blynyddau bellach. Darfu i John Evans ysgrifenu ychydig o hanes ei lafur ef a'i gyfaill wrth gychwyn y sefydliad, ac y mae ei ysgrif yn awr ger ein bron, ond yn anffodus nid oes ynddi un amseriad o'r dechreu i'r diwedd, yr hyn sydd yn lleihau gwerth yr hanes yn fawr. Yr ydym yn barnu mai ryw amser o'r flwyddyn 1812 i 1815 y cychwynwyd yr ysgol Sul yma. Yr amser hwnw yr oedd offeiriad o'r enw Davies yn gwasanaethu plwyf Aberystruth. Yr oedd yn ddyn da, ac yn un o'r dynion mwyaf diddrwg a rodiodd y ddaear erioed, ond yr oedd yn hynod o ddidalent. Gwelsom ef amryw weithiau yn ei henaint. Aeth John Evans a John Price at yr offeiriad i fynegu eu bwriad i gychwyn ysgol Sul; cymeradwyodd yntau y peth, a dywedodd yn garedig wrthynt y cawsent gadw yr ysgol yn yr Eglwys, gan nad oedd un lle cyfleus

  1. Ysgrif Mr. D. S. Lewis yn y Diwygiwr am 1842, tudalen 847.