arall yn yr ardal; ac felly y bu. Buont yn yr Eglwys dros yr haf cyntaf, ond pan ddaeth y gauaf, bu raid iddynt ranu eu hysgol i wahanol anedd-dai, o herwydd fod yr Eglwys yn rhy oer. Yr oedd erbyn hyn angen am lyfrau. Aeth John Evans i Ferthyr, lle y cafodd ychydig o lyfrau at ddysgu darllen, am y rhai y bu yn rhaid iddo dalu tair ceiniog yr un. Wedi hyny aeth i Abergavenny i edrych am Feiblau, ond ni lwyddodd i gael ychwaneg na dau, y rhai a gostiodd iddo ddeg swllt yr un. Yn mhen ychydig wedi hyny, cawsant bedwar Beibl yn rhad trwy Mr. Davies, yr offeiriad; ac yn fuan drachefn llwyddodd John Evans i gael deuddeg Beibl a chwech Testament; y Beiblau am bedwar swllt a chwecheiniog yr un, a'r Testamentau am ddau swllt a thair ceiniog yr un, gan Mr. Bevan, offeiriad Crughowell. Cariodd y baich llyfrau yn llawen ar ei gefn o Grughowell i'r Brynmawr. Wedi cael ychydig gopiau o Hyfforddwor Mr. Charles, dysgwyd ef yn awyddus, ac ar ol hyny aed trwy Gatecism Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Erbyn hyn yr oedd yr ysgol wedi myned yn lluosog ac enwog, a thrwy ei llwyddiant aeth y gynnulleidfa yn rhy lucsog i "Dy Solomon" i'w chynnwys, ac felly penderfynwyd adeiladu capel yn ymyl ty a elwid y "Caban Gwyn," ar lechwedd y mynydd yn agos i waith Nantyglo. Galwyd y capel newydd yn Horeb. Agorwyd ef Gorphenaf 19eg a'r 20fed, 1820. Yr oedd trefn cyfarfodydd yr agoriad fel y canlyn: Nos Fercher, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni, (wedi hyny gweinidog y lle), a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, a Mr. B. Moses, New Inn, oddiwrth Mat. xxviii. 20; ac Esay xxvii. 3. Yr ail ddydd, am 10, gweddiodd Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr, a phregethodd Mr. D. Jones, Llanharan, Mr. E. Jones, Pontypool, (yn Saesoneg), a Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 1 Ioan iv. 10; Act. xvi. 30, 31; a Salm lxxxiv. 2. Am 3, gweddiodd Mr. E. Davies, Hanover, a phregethodd Mr. T. Davies, Cymar, Mr. T. B. Evans, Ynysgau, (yn Saesoneg), a Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Sal. cii. 16; Mat. xvi. 26; ac Esay lx. 7. Am 6, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni, a phregethodd Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr, oddiwrth Ioan vi. 27. Felly yr agorwyd capel cyntaf eglwys Rehoboth.
Bu Mr. Thomas, Penmain, yn dyfod yma yn fisol am tua thair blynedd ar ol agoriad y capel, yna o herwydd gwaeledd ei iechyd, a'i awydd am i Mr. Stephenson sefydlu yn eu plith, rhoddodd eu gofal i fyny, ac anogodd hwy i roddi galwad i Mr. Stephenson, yr hyn a wnaethant, ac efe a ymsefydlodd yn eu plith yn y flwyddyn 1823, ond yr oedd wedi bod yn eu gwasanaethu yn fynych trwy ystod y pum' mlynedd blaenorol. Rhifyr aelododau pan yr ymgymerodd ef a'r weinidogaeth oedd dau-ar-hugain. Pan dderbyniodd yr alwad ni ddarfu iddo ar unwaith symud yno o Rhymni, ond deuai drosodd ddau Sul o bob mis. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fuan i raddau mawr, fel cyn pen pedair blynedd yr oedd Horeb y Caban Gwyn wedi myned lawer yn rhy fychan i gynnwys y gwrandawyr, ac y bu raid edrych am le cyfleus i adeiladu capel helaethach. Ond ni chafwyd y llwyddiant hwn heb fesur o drallod yn gysylltiedig ag ef. Y gofid cyntaf a gafwyd yno oedd yn nglyn a dysgybliad dynes o gymmeriad amheus. Trodd rhai yn bleidiol i'r ddynes, ac ymneillduasant o'r eglwys, gan geisio gosod i fyny achos newydd yn agos i Bont Clydach. Mae yn ymddangos i'r terfysg hwn gyfodi yn fuan wedi i Mr. Stephenson ddechreu ei weinidogaeth, oblegid pasiwyd y penderfyniad canlynol yn nghymanfa Pontypool ar y 7fed o Awst, 1823, gyda golwg ar y terfysgwyr: "Na