byddai i feibion rhwyg, neu Shismaticiaid Nantyglo, gael eu cefnogi gan neb a berthyn i'n cyfundeb ni; trwy drugaredd y mae genym ddigon o addoldai yn y gymydogaeth hono, nid oes arnom eisiau yn awr ond llenwi rhai hyny ag Israeliaid yn wir." Aeth achos y rhwygwyr hyn yn fuan i'r dim, ond yr oedd yr eglwys yn Horeb yn cynyddu yn gyflym. Bu ychydig o deimladau annymunol yn yr eglwys drachefn, o herwydd methu cydweled am y man mwyaf priodol i adeiladu y capel newydd. Mynai rhai aros yn y Caban Gwyn, er ei fod ar gongl annghyfleus o'r ardal, ac allan o ganol corff y boblogaeth; eraill a ddadleuent dros ei adeiladu ar y Brynmawr, tua milldir oddiwrth y Caban Gwyn, a chafodd y blaid hono y mwyafrif o'i hochr. Pa fodd bynag, anfoddlonodd rhai o'r aelodau ac ymadawsant a'r achos am flynyddau. "Wedi penderfynu ar y lle, yr anhawsder nesaf oedd cael modd at adeiladu, oblegid yr oedd aelodau y gynnulleidfa oll yn dlodion, fel nas gallent wneyd nemawr; ac nid hawdd ychwaith fuasai iddynt gaol neb i ymddiried arian ar lôg iddynt. Fel yr oedd Mr. Stephenson ryw dro yn adrodd ei gwyn yn nhy Mr. John Thomas, masnachydd, Brynmawr, dyna Mrs. Thomas yn troi at ei gwr, ac yn dyweyd, 'Jack, rhaid i ti gymeryd ato; nid oes dim arall i'w wneyd;' ac felly y bu. Yr oedd Mr. a Mrs. Thomas ill dau y pryd hwnw yn ddibroffes. Cymerodd Mr. T. yr holl faich arno ei hun: gofalodd am y gwaith, darparodd ddefnyddiau, a gosododd ei geffyl ei hun i lusgo y rhan fwyaf o'r ceryg ato yn ddidraul, edrychodd ar ol yr adeiladwyr, gofalodd am arian, talodd am y defnyddiau a chyflogau y gweithwyr, nes y gorphenwyd y capel eang a phrydferth am 700p., a galwyd ef Rehoboth, o herwydd fod yr Arglwydd yn eangu arnynt. Gofalwyd drachefn gan yr un gwr am y ddyled a'r llôg nes eu llwyr ddileu; a pha beth bynag oedd y llôg talodd Mr. Thomas y cwbl o'i logell ei hun heb ofyn dim i'r eglwys ond y corff."[1] Agorwyd y capel newydd ar y 7fed a'r 8fed o Dachwedd, 1827, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol: J. Jones, Talgarth; D. Davies, New Inn; H. Jones, Tredegar; M. Jones, Merthyr; L. Powell, Caerdydd; D. Lewis, Aber; W. Lewis, Tredwstan; G. Hughes, Groeswen; J. Harrison, Aberdare, &c. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd 70. Er fod 700p. yn swm mawr i cyn lleied o bobl dlodion, etto trwy ddiwydrwydd diflino Mr. Stephenson yn casglu ar hyd a lled y wlad, ond yn benaf trwy haelioni cartrefol, talwyd y cwbl mewn dwy flynedd a deg mis.
Yr oedd diwygiad crefyddol wedi dechreu yn y Caban Gwyn cyn agoriad Rehoboth, ac wyth o bersonau yno yn ymgeiswyr am aelodaeth. Wrth dderbyn y rhai hyn ar y Sul cymundeb dywedai Mr. Stephenson wrth bob un o honynt, "Yr wyf yn rhoddi i chwi ddeheulaw cymdeithas yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân." Yn nghyffroad ei feddwl ar ol dyweyd felly wrth saith, trodd oddiwrthynt at y bwrdd gan annghofio yr wythfed; sisialodd un o'r diaconiaid wrtho ei fod wedi pasio heibio yr wythfed oedd i gael ei dderbyn; ar hyny trodd yn ol at hwnw, a chyd a theimladau drylliog, ymaflodd yn ei law a dywedodd, "Yr wyf yn dy dderbyn dithau yn enw y Drindod o bersonau." Ar hyny, torodd y dorf allan i floeddio. Yn y teimladau nefol hyny y symudwyd i'r capel newydd, a pharhaodd yr adfywiad yno am yn agos i dair blynedd. Byddid fynychuf bob mis yn derbyn o ddeg i ddeg-ar-hugain o bersonau.
Cyfnod pwysig yn hanes yr eglwys hon oedd dechreu y flwyddyn 1832.
- ↑ Cofiant Mr. Stephenson, tudalen 52, &c.