Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hono cafodd y brodyr William Rees, yn awr o Abertawy, D. Seys Lewis, Thomas Williams, Samuel Smith, a John Davies eu neillduo yn ddiaconiaid, heb i un teimlad gofidus gael ei achosi gan eu dewisiad. Yr oedd rhif yr aelodau yn awr yn 250, a chafodd y gweinidog gryfhad nodedig i'w ysbryd wrth gael y fath nifer o ddiaconiaid, a rhai o honynt yn anarferol o alluog a gweithgar i ddal ei freichiau i fyny.
Yn mhen tua deuddeng mlynedd aeth Rehoboth yn rhy gyfyng i gynwys y torfeydd a gyrchent yno, a bu raid ei ail adeiladu. Cafodd Tabor, capel y Bedyddwyr, ei roddi yn garedig at wasanaeth y gynnulleidfa tra y buwyd yn ail adeiladu y capel.
y capel. Tra yr oeddynt yn ymgynnull yno torodd diwygiad nerthol allan, yr hwn a barhaodd yn boeth iawn am tua blwyddyn ar ol i'r gynnulleidfa fyned i'r capel newydd. Ychwanegwyd at yr eglwys yn ystod yr adfywiad hwn o bedwar i bum' cant o aelodau.
Traul adeiladaeth y capel presenol oedd 1292p. 2s. 2c. Agorwyd ef ar yr 20fed a'r 21ain o Orphenaf, 1840, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid Daniel, Pontypool; Stephens, Brychgoed; Protheroe, Llangynydr; Griffiths, Blaenafon; Ellis, Mynyddislwyn; Williams, Troedrhiwdalar; Rowlands, Pontypool; Jenkins, Salem, &c. "Ni wnaed un cynyg ar fyned oddiamgylch y wlad i gasglu at y capel gwych a chyfleus hwn, ond ymosodwyd o ddifrif, fel dynion mewn ysbryd gweithio, at gasglu yn gyson ac egniol gartref, a chesglid yn fisol wrth y drysau y symiau o 10p., 15p., 20p., ac weithiau 24p., ac uchod, heblaw yr ymdrechion ychwanegol a wneid ar ryw amserau ac achlysuron neillduol; fel yr oeddid erbyn canol yr haf 1847 wedi dileu yr holl ddyled anferth hono, a'r llôg yn nghyd a phob treuliau eraill, a swm o rai degau o bunoedd yn ngweddill mewn llaw."[1]
Er mor llwyddianus y bu y gweinidog da hwn i Iesu Grist yn nygiad yn mlaen bethau amgylchiadol yr achos, yr oedd ei lwyddiant yn y rhan ysbrydol o waith y weinidogaeth, sef ennill eneidiau at yr Arglwydd yn fwy. Tua chwe' mlynedd ar hugain y bu yn gweinidogaethu yn y Caban Gwyn a Rehoboth, ac yn ystod y tymhor hwnw ychwanegwyd o bymtheg cant i ddwy fil o bobl at yr eglwys. Nis gwyddom am un gweinidog mewn cyn lleied o amser, a dderbyniodd gynifer o aelodau. Cafodd dri adfywiad anarferol o nerthol yn nhymor ei weinidogaeth, ac ar ganol y diweddaf o honynt, pryd yr oedd o 400 i 500 yn y gyfeillach heb eu derbyn, cymerwyd ef i wlad well. Bu farw o'r geri marwol yn y flwyddyn 1849.
Yn mis Mawrth, 1850, rhoddodd yr eglwys alwad i un o'i meibion ei hun i ddyfod yn weinidog iddi, sef Mr. William Jenkins, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Nghapel Iwan a Llwyn-yr-hwrdd, gerllaw Castellnewydd Emlyn. Bu Mr. Jenkins yn llafurio gyda pharch a llwyddiant mawr yn ei fam-eglwys o 1850 hyd 1866, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Pentreestyll, Abertawy, ac y symudodd yno. Cadwodd Mr. Jenkins gyfrif manwl o'i gyflawniadau cyhoeddus fel gweinidog yn Rehoboth, o fis Mawrth 1850 hyd fis Awst 1861, yr hwn a ddengys iddo yn y tymor hwnw fod yn rhyfeddol o lafurus a llwyddianus. Mae y cyfrif fel y canlyn: Derbyniwyd 844 o aelodau i'r eglwys, claddwyd 226 gan Mr. Jenkins ei hun, heblaw y rhai a gladdwyd gan eraill pan fyddai ef
- ↑ Cofiant Mr. Stephenson, tudalen 69, &c.