yn Siloa, Llanelli, sir Gaerfyrddin. Symudodd yn fuan oddiyno i Cardley, wedi hyny i East Grinstead, ac y mae yn awr yn Bromsgrove.
John Hughes. Dechreuodd bregethu yn 1847. Urddwyd ef yn Victoria, Mynwy, Mehefin 13eg, 1850. Mae yn awr ar symud o'r Aber, Brycheiniog, i Langadog, sir Gaerfyrddin.
John Jenkins. Yn awr o gapel Seion, Abertawy. Y mae efe yn frawd i Mr. William Jenkins.
Hugh E. Thomas, diweddar o Birkenhead, yn awr o Pittsburg, America. Yn Rehoboth y derbyniwyd ef ac y dechreuodd bregethu.
Joseph Farr. Yr hwn sydd newydd symud o Groesos wallt i Mount Stuart Square, Caerdydd.
Daniel Evans. Ar ol bod tua thair blynedd yn athrofa y Bala, ymfudodd i America yn 1867.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID STEPHENSON. Mab i gyfreithiwr o Gaerfyrddin, o'r enw Stephenson, o ddynes ieuangc o ardal Llandilofawr, oedd y gweinidog enwog a rhagorol hwn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784. Gan na fu ei dad a'i fam yn briod, cafodd ei roddi i ddieithriaid i'w fagu, ond gan ei fod yn llestr etholedig gan yr Arglwydd, i gario trysorau yr efengyl i filoedd o eneidiau, fe drefnodd Rhagluniaeth, nid yn unig fagwraeth dda i'w gorff, ond hefyd addysg grefyddol i'w feddwl o'i febyd. Cafodd ei ddwyn i fyny yn nhy un John Evans, neu "Shion Pencelli," fel y gelwid ef yn gyffredin. Yr oedd John Evans yn ddyn da a chrefyddol, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Nghlos-y-graig, gerllaw Castellnewydd Emlyn. Ymddengys i John Evans wneyd ymdrech ffyddlon i blanu egwyddorion crefyddol yn meddwl ieuengaidd David Stephenson, ac i'w ymdrechion fod yn llwyddianus. Pan yn un-ar-bymtheg oed, o herwydd yr ofnai y buasai ei dad dideimlad yn ei anfon i ffwrdd i'r môr, ymadawodd David Stephenson a thy ei dad—maeth, ac aeth tua Merthyr i geisio ennill ei fara heb fod yn ymddibynol ar eraill. Cartrefodd ar Gefncoed-y-cymer, lle y bu am tua deng mlynedd. Yn fuan wedi iddo fyned i'r lle hwnw ymunodd ag eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais, Merthyr. Bu yn ffyddlon iawn yn dilyn y moddion, ac yn neillduol yr Ysgol Sabbothol, ac ennillodd iddo ei hun air da gan bawb o'i gydnabod, fel bachgen ieuangc nodedig o ddiddrwg, pur ei ymarweddiad, a diwyd a chyson fel crefyddwr. Yn mhen ychydig flynyddau ymadawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn Zoar, Merthyr, a phan ymadawodd cangen o'r eglwys hono, i fyned i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Bethesda, Merthyr, acth yntau gyda hwynt.
Tua y flwyddyn 1810 ymunodd mewn priodas a gwraig weddw o'r enw Mrs. Howells, yr hon fu yn gydymaith ffyddlon iddo hyd o fewn tair blynedd i derfyn ei oes. Cawsant lawer o siomedigaethau, croesau, a thlodi yn mlynyddau cyntaf eu bywyd priodasol, ond dygodd Rhagluniaeth hwy trwy y cwbl heb ddianrhydeddu crefydd. Tua y flwyddyn 1811 symudasant i Rymni. Yr oedd yno ychydig o ddynion crefyddol perthynol i'r tri phrif enwad Ymneillduol, yn cydaddoli mewn anedd-dai. Yn mysg yr ychydig bobl hyn y dechreuodd David Stephenson arfer ei ddoniau fel pregethwr, yn mis Ebrill 1813. Dywedir mai yn nhy Daniel Rees, yn Nhredegar, y traddododd ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Gyda chynydd y