boblogaeth lluosogodd y crefyddwyr, ac aeth y gwahanol enwadau ar eu penau eu hunain. Yr oedd yr ychydig Annibynwyr yn Rymni yn cael eu hystyried yn gangen o eglwys Bethesda, Merthyr. Yn mhen ychydig flynyddau teimlent awydd am urddo Mr. Stephenson yn weinidog iddynt eu hunain, gan mai anfynych y gallasai Mr. Jones, Bethesda, ymweled a hwynt. Gwrthwynebwyd hyny dros amser gan weinidogion Merthyr, ac un o brif aelodau yr eglwys fechan yn Rymni, ond o'r diwedd torwyd trwy bob gwrthwynebiad, ac urddwyd ef ar y 27ain o Fehefin, 1821. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistriaid D. Thomas, Llanfaches; T. B. Evans, Ynysgau; D. Lewis, Aber; D. Davies, Penywaun; G. Hughes, Groeswen; E. Jones, Pontypool, ac eraill. Yn mhen dwy flynedd ar ol ei urddiad, cymerodd ofal yr eglwys yn Nantyglo, mewn cysylltiad a Rymni. Byddai yn myned ddau Sabboth o bob mis o Rymni i Nantyglo, ac yn fynych ar nosweithiau o'r wythnos, tra yr oedd bob dydd yn gorfod gweithio yn galed er cynal ei deulu. Tua y flwyddyn 1825, symudodd i Nantyglo, a rhoddodd ofal yr eglwys yn Rymni i fyny. Ymgysegrodd o hyny allan i waith y weinidogaeth, heb ddilyn unrhyw alwedigaeth fydol. Bu yn Nantyglo a'r Brynmawr o hyny hyd derfyn ei oes, ac fel y nodasom, yn annghyffredin o lafurus a llwyddianus.
Bu farw, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, o'r geri marwol, Awst 22ain, 1849. Ei destyn olaf yn y capel, nos Sul Awst 12fed, oedd "Fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd." Pregethodd ychydig drachefn mewn angladd y dydd Iau canlynol, a chymerwyd ef yn glaf y nos hono. Parhaodd mewn poenau mawr hyd y dydd Mercher canlynol, pryd y bu farw. Claddwyd ef dan fwrdd y cymundeb yn nghapel Rehoboth. Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan T. Rees, Cendl, y pryd hwnw, H. Daniel, Pontypool, a D. Davies, New Inn.
Fel dyn, yr oedd Mr. Stephenson yn nodedig o wylaidd, hynaws, a dirodres. Talp o ddiniweidrwydd ydoedd. Tynai bawb a'i hadwaenai i'w garu a'i barchu, ond nid oedd neb yn ei ofni. Yr oedd ei dynerwch a'i garedigrwydd yn ddiarhebol. Nid oedd dim yn drahaus, haerllug, ac anfwyn yn ei dymer, ei agwedd, na'i eiriau. Mae rhai dynion nodedig o wylaidd ac addfwyn yn wrthddrychau diystyrwch gan bobl anfoesgar; ond nid felly efe. Er na ddywedai air garw wrth neb, ac nad oedd dim yn ei ymddangosiad a arweiniai neb i dybied ei fod yn ddyn gwrol, diofn, a phenderfynol, etto yr oedd ganddo gymaint o ddylanwad dros y dihyrod mwyaf difoes a meddw yn y gymydogaeth ag unrhyw ddyn yn yr holl fro. Dystawai twrf meddwon pan wnelai ef ei ymddangosiad, a thalai pawb, gwar ac anwar, barch iddo.
Yr oedd yn Gristion o dduwioldeb diamheuol, ac o'r cymmeriad mwyaf difrycheulyd. Bu yn nechreuad ei grefydd dan wasgfauon dirfawr yn nghylch ei gyflwr, a pharhaodd trwy ei oes i ddal cymundeb agos a'r Arglwydd. Tynerwch cydwybod, a phurdeb ymarweddiad oedd ei brif nodweddau fel Cristion, ac nid prudd-der wynebpryd a gorawydd am wthio siarad crefyddol i bob ymddyddan. Yn mlynyddau cyntaf ei fywyd crefyddol arferai dreulio nosweithiau cyfain mewn gweddi, a byddai yn gwneyd hyny ar amserau yn agos hyd ddiwedd ei oes. I'r ffaith ei fod yn dywysog gyda Duw, yr ydym yn ddiau i briodoli y dylanwad rhyfeddol oedd ganddo dros ddynion.
Yr oedd ynddo ryw fawredd fel pregethwr a'i cyfodai yn mhell uwchlaw y cyffredin, er nad oedd mewn un wedd i'w resu gyda phrif bregethwyr