ei oes. Yr oedd mwy o ol darllen dynion a'u harferion ar ei bregethau, nag oedd o ol darllen llyfrau. Iaith yr aelwyd a arferai, ac er ei fod trwy hyny, i raddau, yn iselhau urddas gwasanaeth crefyddol, yr oedd y cwbl a ddywedai yn berffaith ddealladwy i'w holl wrandawyr. Byddai fynychaf am yr haner awr gyntaf o'i bregeth yn siarad yn lled wasgarog a dibwynt, ond cyn y diweddai byddid yn lled sicr o gael ganddo ryw ergydion agos a nodedig o darawiadol, ac os cai ychydig o hwyl byddai yn anarferol o effeithiol. Er nad oedd yn ganwr yr oedd ei lais yn beraidd a dylanwadol iawn.
Nid ydym yn barnu fod Mr. Stephenson yn feddianol ar gymaint o fedr i drafod a llywodraethu dynion ag y mae llawer yn feddwl.
Yr oedd yn graftus i adnabod dynion, ond yr oedd lawer yn rhy wylaidd ac ofnus i fod yn lywodraethwr medrus, ac y mae yn sicr y buasai ef a'r eglwys lawer gwaith wedi cael gofidiau dirfawr oddiwrth ddynion anhywaith, oni buasai ei fod mor ddedwydd a chael ei gylchynu gan nifer o ddiaconiaid mor alluog a rhagorol, nad oes un gweinidog yn Nghymru wedi cael eu rhagorach.
Mae hanes y dyn da hwn, o'i enedigaeth i'w fedd, yn un o'r enghraifftiau rhyfeddaf o ddoethineb a gofal Rhagluniaeth. Cafodd ei fwrw i'r byd yn faban diymgeledd—magwyd ef gan estroniaid, ond rhai tyner, crefyddol, a gofalus; bu yn llengcyn dieithr a diberthynasau, am flynyddau yn nghanol profedigaethau ofnadwy y gweithfaoedd; ond ymgysylltodd a chrefydd, a daliodd ei afael ynddi trwy bob profedigaeth; cafodd ei droi a'i drybaeddu gan siomedigaethau a thlodi, a'i wrthwynebu yn chwerw, gan hyd yn oed ddynion crefyddol, ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus; ond trwy y cwbl gweithiodd ei ffordd rhagddo nes dyfod yn un o'r gweinidogion mwyaf llwyddianus yn y Dywysogaeth. Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw ein golwg ni."
Yn 1851, cyhoeddwyd cofiant helaeth i Mr. Stephenson, gan ei fab, wedi ei ysgrifenu yn alluog gan Mr. Jenkins, yn awr o Bentreestyll, a Mr. Evan Evans, Nantyglo.
TREFYNWY,
Mae yr hanes sydd genym am ddechreuad yr achos Annibynol yn y dref hon yn dra diffygiol. Cafodd Mr. Nicholas Cary, un o'r "ddwy fil," ei droi allan o eglwys y plwyf yn 1662, ond nid arosodd yma wedi hyny, eithr symudodd i Lundain, lle y bu farw. Os oedd ganddo yma ychydig ddysgyblion, cawsant eu gadael heb neb ond y Penbugail i ofalu am danynt. Nid oes genym hanes i un Ymneillduwr fod yn pregethu yn y dref hon am fwy na chan' mlynedd wedi ymadawiad Mr. Cary. Ryw amser rhwng 1770 a 1780, dechreuwyd cynal addoliad gan yr Annibynwyr yma mewn anedd-dai. Nid ydym wedi cael enw y pregethwr, neu y pregethwyr, a arferent gynnorthwyo yma ar y pryd, ond yr ydym yn lled sicr fod Mr. Jehoiada Brewer yn un o honynt, ac o bosibl mai efe fu y prif offeryn i gychwyn yr achos yma. Yn mhen rhyw gymaint o amser, nis gwyddom yn gywir pa flwyddyn, adeiladwyd yma gapel trwy gymorth, a than nawdd Iarlles Huntingdon, a bu y myfyrwyr o'i hathrofa hi yn Nhrefecca yn dyfod drosodd yn rheolaidd i bregethu ynddo. O'r diwedd, rhoddwyd meddiant o'r capel i Mr. Isaac Skinner, gweinidog Annibynol, a bu ef yn