Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurio yma am ddeng mlynedd. Yr ydym wedi methu cael allan pa bryd y dechreuodd ac y diweddodd y deng mlynedd hyny. Yr oedd Mr. Skinner yma yn 1808. Ar derfyniad ei amser yma, symudodd i Ruxton, yn sir Henffordd. Nid ydym yn gwybod dim yn ychwaneg o'i hanes. Arol ei ymadawiad ef, bu raid i'r gynnulleidfa fechan roddi y capel i fyny, mae yn debygol i'r hwn oedd ag arian arno; a buont drachefn yn ymgynnull mewn tai-anedd, yn neillduol yn nhy un Mr. James Jenkins, yn James Street. Byddai Mr. Thomas, Nebo, ac eraill, yn fynych yn ymweled a'r ddiadell fechan, ac yn pregethu iddynt. O'r diwedd, yn y flwyddyn 1822, adeiladwyd capel bychan yn St. Mary Street, ond yr oedd y gynnulleidfa yn rhy wan i dalu am dano, ac oni buasai i'r llafurus David Thomas, Nebo, gasglu tua 500p. ato, ni allesid ei adeiladu o gwbl. Yn fuan ar ol adeiladu y capel, daeth Mr. Thomas Loader, y pryd hwnw o Dublin, heibio. Hoffodd y dref a'r gymydogaeth, a phan ddeallodd fod yno achos gwan gan yr Annibynwyr, penderfynodd ymsefydlu yn eu plith fel gweinidog. Yma y treuliodd Mr. Loader weddill ei oes. Gan ei fod yn bregethwr derbyniol, yn ddyn nodedig o dda, ac yn wr cyfoethog, bu yn foddion i godi yr achos i sylw, a chasglu cynnulleidfa dda. Yn 1842, adeiladwyd y capel presenol yn Glendower Street, yr hwn sydd lawer yn harddach a helaethach na'r un blaenorol. Yn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. David Blow, Aberhonddu, i ddyfod yn gydweinidog a Mr. Loader, a bu yma am bedair blynedd. Yn 1850, daeth Mr. W. M. Paul, o Halstead yma i gydweinidogaethu a Mr. Loader, ac ymadawodd yntau yn 1855. Yn Mehefin y flwyddyn hono, darfu i Mr. Loader, o herwydd henaint, ymneillduo o'r weinidogaeth. Yn niwedd yr un flwyddyn, rhoddwyd galwad i Mr. William Campbell, M.A., o Sydenham. Bu ef yn gweinidogaethu yma hyd 1868, pryd y symudodd i gymydogaeth Llundain. Yn Awst, yr un flwyddyn, cafodd Mr. Henry Baker, o'r athrofa Orllewinol, ei urddo yma, ac ymadawodd yn Chwefror 1870.

Achos cymharol o wan yw yr achos yn Nhrefynwy wedi bod o'i gychwyniad. Yr oedd trwy dymor gweinidogaeth Mr. Loader yn barchus, ac edrychid i fyny ato gan drigolion y dref, o herwydd fod y gweinidog yn foneddwr cyfoethog; ond os bu ei gyfoeth ef ar un olwg yn fantais i'r achos, bu ar yr olwg arall yn niwed mawr iddo, trwy i'r bobl gael eu cadw heb ddeall na chyflawni y ddyledswydd o gyfranu, yn ol fel y llwyddodd yr Arglwydd hwy, at gynaliaeth crefydd. Anfynych y mae cyfoeth gweinidogion, mwy na gwaddolion eglwysig, wedi bod yn fantais i'r achos. Gan fod cyfranu at grefydd yn ddyledswydd grefyddol, yn gystal a gweddio, cymuno, a gwrandaw y gair, ni ellir dysgwyl gwir lwyddiant lle y byddo yn cael ei hesgeuluso.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS LOADER. Ganwyd ef yn Basingstoke, Hampshire, yn y flwyddyn 1774. Yr oedd ei rieni yn bobl gyfoethog, ac felly cafodd ef addysg o'r radd uwchaf. Ymunodd a chrefydd yn ieuangc. Ar ol bod am rai blynyddau yn fyfyriwr yn athrofa Dr. Bogue, urddwyd ef yn Fording—bridge yn 1795. Bwriadai unwaith fyned allan i India fel cenhadwr, ond o herwydd gwrthwynebiad yr East India Company i'r gwaith cenhadol, gosodwyd rhwystrau ar ei ffordd. Yn 1815, penodwyd ef yn athraw