offeiriad yn yr holl esgobaeth yn byw yn eu plwyfydd, sef Dr. David Powell, o Ruabon; Dr. William Morgan, o Lanrhaiadr-yn-mochnant, a pherson Llanfechain, yr hwn oedd yn bedwar ugain mlwydd oed.[1] Mae tystiolaeth y merthyr, John Penry, mewn iaith rymus, yn cadarnhau gwirionedd yr hyn a ddywed Strype. "Dywedir," medd Penry, "fod Cymru mewn cyflwr gweddol dda, gan fod ynddi lawer o bregethwyr er's hir amser. Mwyaf cywilydd gan hyny iddynt hwy ydyw na buasai y bobl wedi cael gwell addysg ganddynt. Yr wyf yn beiddio haeru, a sefyll at fy haeriad, pe chwilid holl goflyfrau Cymru, nas gellid cael enw y sir, y dref, na'r plwyf, lle y bu am ysbaid chwech mlynedd yn olynol, o fewn y naw-mlynedd-ar-hugain diweddaf, gymaint ag un gweinidog duwiol a dysgedig yn gwneyd gwaith athraw effeithiol a chymeradwy. I ba ddyben gan hyny y soniwch wrthyf am y segurwyr yn yr Eglwysi Cadeiriol, y rhai ni chymerent boen i ddy sgu y bobl, os ydynt yn alluog i wneyd hyny? Os wyf yn traethu yr hyn nad yw wirionedd, cerydder fi, a bydded i mi gael dyoddef fel enllibwr, ond os gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, pa ham na chaniateir i mi ei draethu? Mi a wn yn dda yr edrychir yn y dyddiau hyn ar unrhyw beth a ddywedir yn erbyn personiaid, fel yr edrychid ar waith Amos yn prophwydo yn Bethel, ac y cyfrifir ef yn ymyriad a materion gwladol. O ddyddiau truenus! Y fath amseroedd blinion a ddaeth arnom, pan na feiddir dywedyd dim yn erbyn lladron a llofruddwyr eneidiau, amddiffynwyr pob rhyw drachwant, gorthrymwyr beilchion, yn fwy na thebygol i'r Pab, dyna chwalwyr gwirionedd Duw, penbyliaid diddysg, arweinwyr deillion, halen wedi diflasu, meddwon, godinebwyr, llwynogod a bleiddiaid, tom a llaid, i fod yn fyr, cut moch pob math o aflendid, gwarth a gwaradwydd y weinidogaeth sanctaidd. Ie, ni feiddir agoryd genau yn erbyn y tylwyth hyn, heb i hyny gael ei gyfrif yn ymyriad a'r llywodraeth. Er fod yr holl drueni, yr anwybodaeth a'r anfoesoldeb sydd yn y wlad, wedi cael ei achosi yn benaf gan yr esgobion a'u harweinwyr deillion eraill, etto, ni feiddia neb ddyweyd hyny, heb gael ei gyfrif yn ddyhiryn aflonydd, ac yn wrthryfelwr yn erbyn y llywodraeth. O'm rhan i, gan hyny, fe gaiff y prophwyd Malachi ymdrin a chwi, a barned y darllenydd pa un a ddylai ei eiriau eich taro a'ch dychrynu yn ofnadwy. 'Mab a anrhydedda ei dad,' medd y prophwyd, 'a gweinidog ei feistr, ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn?' medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi esgobion Cymru, y rhai a ddirmygwch ei enw. Os dywedwch, yn mha beth y dirmygasom ei enw? Atebir mai wrth offrymu y dall, y cloff, a'r clwyfus, i'r weinidogaeth sanctaidd, a dyweyd nad yw hyny yn ddrwg, ac felly, yr ydych yn dirmygu enw yr Arglwydd, oblegid eich bod yn eich ymddygiad yn dyweyd nad yw y weinidogaeth yn deilwng o barch. Canys yr ydych chwi yn gwybod, ac y mae holl Gymru yn gwybod, eich bod wedi derbyn
- ↑ Strype's Annals of the Reformation. Vol. IV., pp. 293.