Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrofa dduwinyddol i'r Annibynwyr yn Dublin. Ar ol bod yno am bum' mlynedd gorfodwyd ef gan waeledd iechyd Mrs. Loader i ymadael oddiyno. Yn 1822, sefydlodd yn Nhrefynwy, lle y bu, fel y gwelsom, yn foddion i gyfodi achos gwan a dinod i barch a sylw. Er iddo yn 1855, roddi i fyny y weinidogaeth, parhaodd hyd derfyn ei oes i roddi pob cymhorth a fedrai i'r achos. Bu farw Mawrth 28ain, 1858, yn 84 oed.

Yr oedd Mr. Loader yn cael ei gyfrif yn bregethwr da, yn ysgolhaig rhagorol, yn Gristion teilwng, ac yn weinidog da i Iesu Grist. Yr oedd yn nodedig am ei garedigrwydd a'i barodrwydd i estyn cymhorth i'w frodyr tlodion yn y weinidogaeth.

Gan fod Mr. Blow, Mr. Paul, Mr. Campbell, a Mr. Baker yn fyw, nid oes galwad am i ni gofnodi eu hanes.

LLANFAPLE.

Llanfaple sydd blwyf bychan yn cynwys 156 o drigolion, tua phum' milldir o dref Abergavenny, heb fod yn mhell o'r brif ffordd o'r dref hono i Drefynwy. Yn 1662, cafodd Charles Williams, un o'r ddwy fil," ei droi allan o Eglwys y plwyf hwn. Os oedd ganddo ef ychydig ddysgyblion yn y gymydogaeth, yr oedd eu henwau a'u coffadwriaeth wedi eu colli oesau cyn cychwyniad yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol.

Cafodd yr achos hwn ei ddechreu yn gynar yn y ganrif bresenol trwy offerynoliaeth John Jayne, Ysw. a Mr. William Watkins. Yr oedd Mr. Jayne yn aelod ac yn bregethwr yn y New Inn. Symudodd i'r gymydogaeth hon, i dyddyn o'r enw Pwll-y-ci, ac yn fuan wedi iddo sefydlu yma dechreuodd bregethu mewn gwahanol dai yn yr ardal. Yr oedd y rhag—grybwylledig, Mr. William Watkins, Tynewydd, yn gefnogwr gwresog iddo. Ond yn fuan cyfododd person y plwyf a rhai o'i gyfeillion, wrthwynebiad iddynt, fel y bu raid iddynt, er mwyn diogelwch, drwyddedu ty at bregethu ynddo. Yn fuan wedi hyny adeiladwyd capel ar ddarn o dir o eiddo Mr. Jayne, yr hwn a roddodd yn rhad, mewn gweithred ddiogel. Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel. Tua yr amser hwnw, os nad ychydig cyn hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Lewis, y pryd hwnw o Zoar, Merthyr Tydfil, i sefydlu yma fel gweinidog ar yr eglwys ieuange. Hoffid Mr. Lewis yn fawr gan yr ardalwyr, a bu yn foddion i ennill llawer o eneidiau at yr Arglwydd yn nhymor byr ei weinidogaeth. Symudwyd ef yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn y flwyddyn 1813, pryd nad oedd ond 52 oed. Ar ol marwolaeth Mr. Lewis bu yr eglwys am ddeng mlynedd heb un gweinidog sefydlog. Mai 28ain, 1823, urddwyd Mr. Thomas Rees, aelod gwreiddiol o Zoar, Merthyr, yn weinidog yma. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn:—Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed; pregethwyd ar Natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. E. Skeel, Abrgavenny; pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Jones, Pontypool; ac ar Ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Lewis, Tredwstan. Parhaodd Mr. Rees i lafurio yma hyd 1833, pryd y symudodd i Gasgwent. Bu ei weinidogaeth yma yn dderbyniol a llwyddianus. Cafodd amryw eu hychwanegu at yr eglwys, ac yr oedd pawb yn teimlo fod ei ymadawiad yn golled fawr i'r eglwys a'r ardal. Dilynwyd Mr. Rees gan Mr. James