Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, yr hwn a orfodwyd i roddi y weinidogaeth i fyny yn mhen dwy flynedd o herwydd gwaeledd ei iechyd. Wedi bod tua dwy flynedd heb un gweinidog, darfu i ran o'r eglwys, yn groes i ewyllys y rhan arall, roddi galwad i un Jonathan Davies, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, a nai i'r diweddar Mr. Davies, Cana, sir Gaerfyrddin. Urddwyd ef yma yn 1838. Bu yma yn agos i ddwy flynedd, ond blin iawn oedd agwedd pethau trwy yr holl amser. Aeth oddiyma i Victoria, ac oddiyno i Dredegar, ac y mae er's tuag wyth mlynedd ar hugain bellach wedi ymuno a'r Bedyddwyr. Yr ydym yn gadael y gweddill o'i hanes i haneswyr yr enwad hwnw i'w gofnodi, os gwelant yn werth gwneyd hyny.

Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. David Lewis, y gweinidog presenol, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Mr. Davies, Penywaun; ac urddwyd ef yma Ebrill 15fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan y Meistriaid Rowlands, Pontypool; Davies, Penywaun; Powell, Brynbiga; Rees, Casgwent; Powell, Hanover; ac Evans, Maesaleg.

Mae Mr. Lewis wedi bod yma bellach am ddeng mlynedd ar hugain yn barchus a llwyddianus. Aelod gwreiddiol o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, ydyw, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn fuan ar ol ei urddiad yn Llanfaple, dechreuwyd achos ganddo yn Ragland, yr hwn a ddaw etto dan ein sylw. Yn y flwyddyn 1855, aed i'r draul o 45p. i adgyweirio y capel yn Llanfaple, a thalwyd y cwbl ar unwaith gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Mae Mr. Lewis yn ei lythyr atom yn crybwyll am farwolaeth Mr. Thomas Parry, un o'r diaconiaid, ac y mae yr hyn a ddywed am y gwr da hwnw yn werth ei gofnodi er siampl i holl ddiaconiaid ac aelodau ein heglwysi:—"Yn ddiweddar collais hen gyfaill anwyl, sef Mr. Thomas Parry, Cefn—ddwy—glwyd. Bu yn ddiacon yn yr eglwys am lawer o flynyddau, a chyflawnodd ddyledswyddau ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn Gristion o ymarweddiad teilwng; yn 'Israeliad yn wir.' Un o dymer ddistaw a heddychlon ydoedd, ac o galon lawn o haclioni. Cyfranai yn haelionus at bob achos da. Yr oedd yn ganwr rhagorol, ac yr oedd yn mhob ystyr yn ddyn gwir ddefnyddiol. Nid wyf erioed yn cofio ei weled yn absenol o'r cyfarfod gweddi, oddieithr ei fod yn glaf. Bu ef, a'i henafiaid o'i flaen, yn brif gynalwyr yr achos yma. Efe a fu farw Awst 13eg, 1869, yn 62 oed. Mae yn dda genyf allu dyweyd fod ei fab, yr hwn sydd yn ddwy-ar-hugain bed, yn dilyn siampl ei dad. Efe yw blaenor y canu, ac y mae yn weithgar a defnyddiol iawn yn yr ysgol Sabbothol. Yn wyneb pob cyfnewidiad mae yn dda genyf allu hysbysu fod yr achos yn myned rhagddo yma. Cafodd amryw bobl ieuaingc eu hychwanegu at y eglwys y flwyddyn ddiweddaf, y rhai, wrth yr olwg bresenol, fydda yn ddefnyddiol gyda yr achos."

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DANIEL LEWIS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1761, yn Tai'rlan, yn mhlwyf Merthyr Tydfil. Pan yn llangc ieuangc anfonwyd ef gan ei rieni i'r ysgol i Abergavenny, ac yno y derbyniwyd ef gan y Dr. Benjamin Davies yn aelod o'r eglwys yn Castle Street. Mae yn debygol hefyd mai yno y dechreuodd bregethu; ond pa bryd nis gwyddom. Yn nyddlyfr Mr. Phillip Dafydd am Rhagfyr 28ain, 1783, cawn y cofnodiad canlynol: