"Bum heddyw yn Mhenmain, ond cefais fy arbed i bregethu gan wr ieuangc, Daniel Lewis, Tai'rlan. Ei destyn oedd Heb. ii. 3. Efe a lefarodd yn dda o ddyn ieuangc." Mae yn debygol ei fod wedi dechreu pregethu rai misoedd o leiaf cyn hyn, fe allai flwyddyn neu ddwy. Yn fuan wedi symudiad yr athrofa o Abergavenny i Groesoswallt, cynghorwyd Mr. Lewis gan ei gyfaill Mr. Jenkin Lewis, yr hwn a fagesid yn yr un ardal ag yntau, ac oedd yn awr yn is-athraw yn Nghroesoswallt, i fyned yno i'r athrofa, yr hyn a wnaeth. Bu yno am dair blynedd ar ei draul ei hun. Yn y flwyddyn 1788 neu '89, urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys a gyfarfyddai yn Rhydymardy a'r Cwmmawr, gerllaw Abertawy. Bu yno am oddeutu pymtheg mlynedd yn gysurus a llwyddianus iawn. Tua diwedd y flwyddyn 1803 neu ddechreu 1804, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Zoar, Merthyr, a symudodd yno, ond ni chafodd fawr gysur tra y bu yno. Yr oedd y capel cyntaf yn Zoar newydd gael ei adeiladu, a'i ragflaenydd, Mr. Howell Powell, newydd ymfudo i'r America, gan adael y capel dan faich o ddyled digon trwm i lethu yr achos ieuangc. Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Lewis yno, bu raid iddo barotoi i fyned i ffwrdd i Loegr, er casglu at ddyled y capel. Yr oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon annymunol, ond yr oedd y gofidiau a'i dilynodd yn llawer gwaeth. Mae y diweddar Dr. Jenkyn, yn nghofiant Mr. Evans, Zoar, yn yr Evangelical Magazine am Awst 1834, wedi rhoddi hanes yr helbul hwn, ac nis gallwn ni ei osod allan yn well nag yn ei eiriau ef. "Or diwedd" meddai, "dewiswyd y Parch. Daniel Lewis o'r Cwmmawr, gerllaw Abertawy, yn weinidog. Yr oedd Mr. Lewis yn ddyn santaidd ac addfwyn, ac yn ei ddull o gyflawni dyledswyddau y weinidogaeth yr oedd llawer iawn o dynerwch a boneddigeiddrwydd Cristionogol. Prin yr ymsefydlodd gyda y gynnulleidfa ieuangc hon cyn iddo gael teimlo oddiwrth ofidiau a thrallodion dyled capel. Yn anffodus mae yn y Dywysogaeth lawer o enghraifftiau o eglwysi gweinion yn myned i ddewis gweinidog, yn benaf i'r dyben iddynt gael dyn cymwys i fyned o gylch y wlad i gasglu at ddyled y capel. Mae yr arferiad ddrygionus hon wedi troi allan mor ddinystriol i heddwch y cyfryw eglwysi, ac wedi effeithio yn ddrwg ar enw, defnyddioldeb, a duwioldeb y cyfryw weinidogion. Daliwyd Mr. Lewis ar unwaith yn rhwydau niweidiol y peirianwaith cardotyddol hwn (begging machinery). Bu raid iddo adael ei eglwys a'i deulu lluosog a chynyddol, a myned i Loegr a Llundain, ar fath o wibdaith weinidogaethol i gasglu arian. Yr oedd yr eglwys yn cael ei gwneyd i fyny, agos yn gwbl, o lowyr, mwnwyr, &c., y rhai nid oeddynt yn unwedd yn ddynion cymhwys i farnu pa dreuliau oedd yn ofynol ar daith o'r fath ag yr oeddent hwy wedi gyru eu gweinidog iddi; y canlyniad fu, pan aethpwyd i wneyd i fyny y cyfrifon, i'r bobl annghymwys hyn fyned i wrthddadleu yn erbyn y treuliau. Rhanodd yr eglwys, ac aeth gwrthwynebwyr y gweinidog addfwyn a rhagorol mor ystyfnig, chwerw, ac aflywodraethus, fel yr ymneillduasant i ffurfio eglwys ar eu penau eu hunain." Yn y gymanfa bedair sirol a gynaliwyd yn Nhredwstan Mehefin 24ain a'r 25ain, 1807, daeth achos y terfysg hwn dan sylw, pryd y "penderfynwyd mewn perthynas i'r ymrafael yn nghapel Zoar, Merthyr Tydfil, fod y gweinidog wedi ymddwyn yn llariaidd, yn onest, yn gyfiawn, ac yn ffyddlon, ac mai ei ddyledswydd yw parhau yn ei ymdrechiadau gweinidogaethol." Un engraifft yw hon o ddegau, o'r helbul a'r gofid, y gorfu i weinidogion teilwng fyned trwyddynt wrth adeiladu a thalu am gapeli yn yr oesau a aethant heibio.
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/152
Prawfddarllenwyd y dudalen hon