Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. William Thomas, yr hwn a grybwyllasom yn barod. Erbyn diwedd y flwyddyn 1814, ychwanegwyd naw eraill atynt.

Ar ol bod yn cael eu gwasanaethu gan wahanol weinidogion hyd ddiwedd y flwyddyn 1814, llwyddasant i gael gan yr enwog Jenkin Lewis, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i Manchester, i addaw dyfod atynt am bump neu chwech Sabboth. Dechreuodd ei lafur ddydd Nadolig 1814, yr hwn oedd yn Sabboth y flwyddyn hono. Cyn iddo ymadael, cawsant ganddo dderbyn galwad i ddyfod yn weinidog iddynt, a dechreuodd ei weinidogaeth yn eu mysg Mawrth 8fed, 1815.

O'r pryd hwnw hyd ei farwolaeth yn 1831, bu yn myned i mewn ac allan o'u blaen, ac yn cael edrych arno gan bawb fel "Gwr Duw." Er na ddarfu iddo gasglu cynnulleidfa luosog iawn, llwyddodd i sefydlu achos ag yr oedd yr holl dref yn gorfod edrych yn barchus arno. Yr oedd y rhai a'i hadwaenai yn dda, ac a fedrent ddeall gwerth ei weinidogaeth, yn ei gyfrif yn un o'r dynion goreu ar y ddaear. Mae y rhaggrybwylledig Wm. Thomas, yr hwn a ellir ystyried fel tad yr achos hwn, wedi ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr, yn mhen blynyddau ar ol dechreuad gweinidogaeth Mr. Lewis yn eu plith, "Pe gofynid i mi, A gawsoch chwi eich siomi yn ngweinidogaeth Mr. Lewis? atebwn, Yn mhell, pell iawn i'r gwrthwyneb y bu. Mae wedi myned yn mhell tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad a goleddwn i ar y dechreu, ac y mae yn myned well well o hyd. Yr wyf yn galaru na byddai yn cael ei derbyn yn well, ac na byddai mwy o arwyddion gweledig o lwyddiant arni. Ond yr wyf fi yn meddwl nad oes gan Mr. Lewis un achos i edifarhau iddo ddyfod i'r Casnewydd, ac yr wyf fi yn bendithio Duw am iddo ei ddwyn ef yma, ac am yr holl wirioneddau gogoneddus a wrandewais tra yn eistedd dan ei weinidogaeth." Ysgrifenai un arall o'r aelodau am dano yn mhen blynyddau ar ol hyn: "Mae fy adgofion am dano yn hyfryd iawn; ei ddull hynaws a serchus; ei ymddygiad mwyn at bawb, yn enwedigol yr ieuengctyd; yn nghyd a'i fywyd santaidd. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn nes at berffeithrwydd nag un dyn a adnabum erioed." Ond er rhagored dyn oedd Mr. Lewis, cafodd ofid yn ei gysylltiad a'i eglwys yn y Casnewydd. Heb fod yn faith wedi iddo sefydlu yno, daeth rhyw destyn cynen i'r eglwys, ac ar ol cryn ystwr a gofid, ymadawodd nifer o'r aelodau; yr hyn yn mhen amser a arweiniodd i ddechreuad yr achos yn y Tabernacle. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am achosion na natur y terfysg hwn. Y cwbl a wyddom ydyw iddo gymeryd lle.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol marwolaeth Mr. Lewis, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Byron, o Lincoln. Ar y Sul cyntaf yn Hydref 1831, y pregethodd Mr. Byron yma gyntaf. Derbyniodd yr alwad, a sefydlodd yn y lle yn ddioed. Er fod Mr. Byron yn ddyn gwahanol iawn yn ei gorff, ei feddwl, ei ddull o bregethu, ac o ymwneyd a dynion, i'w ragflaenydd hynaws a boneddigaidd, etto, gan ei fod yn ddyn gwir dda, a nodedig o alluog a llafurus, perchid ef yn fawr gan ei bobl. Yr oedd i raddau yn fyrbwyll, ac anwyliadwrus ar ei eiriau, a thrwy hyny yn achlysurol yn cyfodi teimladau annymunol a thramgwyddus mewn rhai personau. Gan ei fod yn rhyddfrydwr brwdfrydig mewn pethau gwladol a chrefyddol, bu yn agos a thynu ei hun i ofid, a'r achos i warth, yn amser terfysg y Siartiaid, yn 1839. Yr oedd John Frost, blaenor y Siartiaid yn Mynwy, yn arfer gwrandaw Mr. Byron, a rhai o'i deulu yn aelodau ei eglwys. Rhwng y naill beth a'r llall, bu yr achos hwn dan fesur o gabledd y pryd hwnw, er nas gallwyd profi fod dim yn feius yn y gweinidog