Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/156

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol ei agoriad, yn nghyd a'r llôg a dalwyd tra y bu dyled yn aros, ydoedd 3891p. 5s. 10c., a thalwyd y cwbl cyn dechreu y flwyddyn 1862.

Yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Barfield, rhoddwyd galwad i Mr. Frederick Pollard, o Saffron Walden, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Medi 24ain, 1854. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Pollard, cynyddodd y gynnulleidfa yn fawr, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Nid hir y bu Mr. Pollard yma cyn i fesur o oerni fyned rhyngddo a'r diaconiaid. Er na fu yma unrhyw derfysg o'r dechreu i'r diwedd, terfynodd y diflasdod rhyngddynt yn ymadawiad Mr. Pollard, a thri ar ddeg ar hugain o'r aelodau gydag ef, i ddechreu achos newydd yn y dref. Cymerodd hyn le Rhagfyr 20fed, 1857. Daw yr achos a ddechreuwyd y pryd hwn gan Mr. Pollard dan ein sylw etto.

Y gweinidog nesaf yn Dock Street oedd Mr. Alexander McAuslane, o Dunfermline, Scotland. Dechreuodd ef ei weinidogaeth Medi 5ed, 1858. Enillodd Mr. McAuslane sylw y dref yn ddioed. Yr oedd ei weinidogaeth yn nodedig o boblogaidd a llwyddianus tra y bu yma. Bu galwad yn fuan am wneyd cyfnewidiadau y tu fewn i'r addoldy, er cael ychwaneg o eisteddleoedd. Yn Ionawr 1862, hysbysodd Mr. McAuslane ei fwriad i ymadael, i gymeryd gofal yr eglwys yn Finsbury Chapel, Llundain, ac ymadawodd Chwefror 11eg, er galar mawr i'r eglwys a'r gwrandawyr, a holl Ymneillduwyr y dref a'r gymydogaeth. Dyn o ysbryd cyhoedd, llawn sirioldeb a gweithgarwch ydyw, ac yr oedd ei ymadawiad yn golled i'r sir yn gyffredinol.

Dilynwyd Mr. McAuslane gan Mr. John H. Lochore, o Paisley, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma Medi 7fed, 1862. Bendithiwyd llafur Mr. Lochore a llwyddiant anghyffredin, fel yr oedd nifer y cymunwyr agos yn gymaint arall, ar derfyniad y drydedd flwyddyn o'i weinidogaeth, ag ydoedd ar y dechreu. Yn y flwyddyn 1867, gorfodwyd Mr. Lochore i roddi y weinidogaeth i fyny, gan gystudd blin iawn. Cymaint oedd serch yr eglwys a'r gynnulleidfa ato, fel y cyfranasant o dri i bedwar cant o bunau at dysteb iddo ar ei ymadawiad. Wedi cael ychydig dros flwyddyn o orphwysiad, adferodd ei iechyd i'r fath raddau fel yr ymgymerodd a'r weinidogaeth drachefn yn Llanelli, sir Gaerfyrddin.

Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. J. Kennedy, o Croydon, gerllaw Llundain, ac efe yw y gweinidog yma yn awr. Mae pob arwyddion yn bresenol y bydd Mr. Kennedy yn gysurus a llwyddianus yn y cylch pwysig hwn. Mae pob argoel hefyd ei fod yn ddyn gweithgar ac o ysbryd cyhoedd, ac felly nis gall lai na chael ei hoffi gan ei frodyr yn y weinidogaeth. Fel hyn yr ydym wedi olrain hanes yr eglwys o'i chychwyniad hyd yn bresenol. I hanes cyflawn o'r achos, yn llawysgrifen Thomas Jones, Ysw., un o'r diaconiaid, yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau uchod.

Er nad oes ond 55 o flynyddau er pan ffurfiwyd yr eglwys hon, y mae yn awr dan ofal y nawfed gweinidog. Nis gwyddom yn iawn pa fodd i gyfrif am y cyfnewidiadau mynych hyn yn y weinidogaeth. Dichon mai y prif reswm ydyw fod yr eglwys ar ei chychwyniad wedi cael ei breintio a gwasanaeth un o'r gweinidogion uwchaf eu safle yn yr enwad, a'i bod o hyny allan yn awyddu am gael gwasanaeth gweinidogion o safle a thalentau uwch nag y mae pwysigrwydd y cylch a swm y gyflog yn ei deilyngu. Pa fodd bynag, anfantais i achos yw newid gweinidogion yn fynych, ac wrth ystyried mor aml y bu y cyfnewidiadau yma, mae yn syndod fod yr