achos wedi myned rhagddo mor rhagorol. Mae yr aelodau yn bresenol yn rhifo tua dau gant neu ychwaneg, ac yn eu mysg amryw ddynion galluog ac o safle gymdeithasol barchus.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
JENKIN LEWIS, D.D. Ganwyd ef yn y Brithdir Uchaf, plwyf Gelligaer, Morganwg, Awst 12fed, 1760. Yr oedd ei rieni, Malachi a Cecilia Lewis, yn aelodau yn hen gapel Cefncoedycymer, Merthyr; y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol Mr. Phillip Charles. Er fod Mr. Charles, a'r rhan fwyaf, os nad pawb o'i eglwys, yn gogwyddo yn fawr at Arminiaeth, yr oedd yn eu mysg amryw ddynion gwir grefyddol, y rhai yr oedd eu Harminiaeth hyd etto heb sychu i fyny eu teimladau crefyddol a'u difrifoldeb Puritanaidd. Rhai felly, fel yr ymddengys, oedd rhieni Jenkin Lewis. Yr oeddynt yn selog dros grefydd deuluaidd, a byddai eu tri mab, o ba rai Jenkin oedd yr henaf, bob un yn ei dro yn gweddio yn y ddyledswydd deuluaidd. Ar ol bod rai blynyddau mewn ysgol yn Merthyr, lle y dechreuodd ddysgu Lladin a Groeg, aeth Jenkin Lewis pan yn ddwy-ar-bymtheg oed i'r athrofa Annibynol i Abergavenny, ar draul ei rieni. Nid hir y bu yno heb deimlo tuedd i fyned yn fyfyriwr rheolaidd i'r sefydliad, ond yr oedd ei olygiadau Arminaidd yn rhwystr iddo gael ei dderbyn, o herwydd fod y Bwrdd Cynnulleidfaol yn gofyn cyffes ffydd gan bob myfyriwr a dderbynid. Wedi dyweyd ei ofid meddyliol wrth rai o'i gydfyfyrwyr, yn enwedig Mr. B. Jones, wedi hyny o Bwllheli, ac wrth ei athraw hynaws, Dr. B. Davies, symudwyd o'i feddwl bob gwrthddadl yn erbyn Calfiniaeth, a chymeradwy wyd ef i sylw y Bwrdd Cynnulleidfaol. Cymeradwyid ei achos gan ei weinidog, Mr. P. Charles, a dau o ddiaconiaid yr eglwys, a chan Mr. Phillip Dafydd, Penmain, a Mr. Thomas Davies, Hanover, fel gweinidogion adnabyddus o'r gwr ieuangc. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Mawrth 1778. Ymroddodd a'i holl egni i fyfyrio tra y bu yn yr athrofa, ac ennillodd iddo ei hun air da ei athraw a phawb o'i gydfyfyrwyr. Tua phum' mis cyn fod ei amser yn yr athrofa i fyny, rhoddodd ei athraw ei swydd i fyny, ar ei symudiad i goleg Homerton. Dewiswyd Dr. E. Williams yn ganlyniedydd iddo, ond gan na symudai y Dr. o Groesoswallt, bu raid symud y sefydliad o Abergavenny i gartrefle yr athraw. Trwy gymellion taer llwyddodd y Dr. i gael gan Mr. Lewis fyned i Groesoswallt i fod yn is-athraw, fel y buasai yn flaenorol yn Abergavenny. Aeth yno yn Mehefin 1782, a bu yno hyd Tachwedd 1783, pryd y cydsyniodd a galwad oddi-wrth eglwys yn Wrexham. Ar ol bod yno yn pregethu ar brawf am flwyddyn, urddwyd ef Tachwedd 3ydd, 1784. Yr oedd y Meistriaid Scott, o Drayton; Armitage, o Gaer; Williams, o Groesoswallt; Lloyd, o Ddinbych; a Jones, o Bwllheli, yn gweinyddu yn yr urddiad. Parhaodd yn weinidog parchus yn yr eglwys hono hyd ei symudiad i Manchester yn Hydref 1811.
Wrth ysgrifenu at y Bwrdd Cynnulleidfaol, i roddi ei swydd i fyny fel athraw, yn Medi 1791, dywed Dr. Williams, "Yr wyf wedi gwneyd fy meddwl i fyny, yn gymaint ag i'r sefydliad gael ei symud i'r lle hwn ar fy nghais i, na bydd i mi roddi fy swydd i fyny nes y byddo golwg am ganlyniedydd i mi; ac os tueddir y Bwrdd i ofyn am wasanaeth y person sydd mewn golwg genyf fi, y mae genyf sail i gredu fod ei amgylchiadau