Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Jenkin Lewis o ddechreuad ei fywyd cyhoeddus hyd ddydd ei farwolaeth yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o'i gydnabod. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn hynod o wylaidd ac addfwyn ei dymer, a nodedig o foneddigaidd yn ei ymddygiad at foneddig a gwreng.

Buom yn siarad a degau o ddynion a'i hadwaenent yn dda, ac ni ddygwyddodd i ni gyfarfod a neb nad oedd yn rhoddi gair da iddo. Yr oedd wedi gwneyd y defnydd goreu o'i amser yn yr ysgolion a'r athrofa, fel yr oedd yn ysgolhaig da; cyfrifid ef hefyd yn bregethwr cyflawn a difai; ac yr oedd ei dduwioldeb yn cael ei gydnabod gan bawb; ac mewn ychwanegiad at y pethau anhebgorol a gwerthfawr hyn, yr oedd rhywbeth yn ei ymddangosiad a'i ddull o ymddwyn, pa le bynag yr elai, yn gorfodi dynion o bob sefyllfa a chymmeriad i'w barchu.

Tua chwe' mis cyn ei farwolaeth derbyniodd y teitl o Athraw Duwinyddiaeth, o un o brif athrofau America. O herwydd ei wyleidd-dra gwaharddai ei gyfeillion i'w gyfarch fel doctor, ond ni bu neb erioed yn gwisgo y teitl hwnw oedd yn addasach i'w wisgo nag ef.

Bu Dr. Lewis yn briod ddwy waith. Ei wraig gyntaf oedd Miss Jones, o Goedyglyn, gerllaw Wrexham, yr hon a briododd Ebrill 24ain, 1785, ac a fu farw Mawrth 15fed, 1802. Ei ail wraig oedd Mrs. Armitage, gweddw Mr. W. Armitage, gweinidog Annibynol yn Nghaerlleon Gawr. Priododd hi ynTachwedd 1803, a bu farw Ionawr 21ain, 1818. Ni bu iddo blant o un o'i wragedd.

Ni ddeallasom fod Dr. Lewis, fel Mr. Thomas, Penmain, a rhai eraill o'i gydoeswyr, yn nodedig am ffraethineb ei attebion, ond clywsom un hanesyn am dano sydd yn werth ei gofnodi. Yr oedd amryw o'r hen grefyddwyr, yn ei oes ef, yn barnu mai rhyw fath o foethau meddyliol i ddynion y byd oedd papurau newyddion, ac nad oedd yn gweddu i broffeswyr crefydd eu darllen o gwbl. Un prydnawn daeth gwr o'r syniad hwnw i dŷ Dr. Lewis, a chafodd ef yn darllen ei bapur newydd. "Beth, Mr. Lewis!" ebe fe, "Ai darllen y papur newydd yr ydych chwi?" "Ie," ebe yntau, "yr wyf am wybod pa fodd y mae fy Nhad yn llywodraethu y byd."

BENJAMIN BYRON.Ganwyd ef yn y flwyddyn 1790, ond nis gwyddom yn mha le, ac y mae hanes boreu ei oes yn gwbl anhysbys i ni. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Hoxton, Llundain, a dechreuodd ei fywyd gweinidogaethol yn Lincoln, lle yr urddwyd ef tua y flwyddyn 1821. Yn 1831 symudodd oddiyno i'r Casnewydd, a bu farw yno, Mawrth 2il, 1841.

Yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yr oedd Mr. Byron yn ddyn nodedig o gywir a diddichell. Yr oedd ei onestrwydd uwchlaw drwgdybiaeth, ond dichon y buasai mwy o fwyneidd-dra ac arafwch yn fanteisiol iddo rai prydiau. Yr oedd ei sel dros ryddid gwladol a chrefyddol, o bosibl, yn ei gario i eithafion weithiau. Fel y nodasom yn barod, bu ei frwdfrydedd fel gwleidiadwr (politician), yn mron a'i arwain i ofid yn amser y cyffroad Siartiaidd. Yr oedd yn bregethwr eglur a galluog iawn, ac ar amserau yn nodedig o hyawdl. Yr oedd ganddo ddylanwad diderfyn dros y rhai a'i hadwaenai yn drwyadl, ac a ddeallent ei gymmeriad. Ystyriai pobl ei ofal iddynt gael colled ddirfawr yn ei farwolaeth.

THOMAS PARRY. Ganwyd ef yn Abergele, yn sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1811. Nid oedd un eglwys Annibynol yn Abergele y pryd hwnw, nac am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain ar ol hyny; ac nid ydym wedi cael allan pa fodd y gogwyddwyd meddwl Thomas Parry at yr Annibynwyr;