i'r swydd sanctaidd, ddyhirod, crwydriaid segur, sydd yn myned o gylch y wlad dan yr enw ysgolheigion, oferwyr, a dynion newynllyd, y rhai a ymwthiasant i'r weinidogaeth wedi methu ennill eu bara mewn un alwedigaeth arall. Yr ydych yn goddef rhai yn y weinidogaeth y gwyddys ou bod yn odinebwyr, yn lladron, yn frolwyr, yn dyngwyr a rhegwyr, ie, rhai y gellir dyweyd am danynt yn ngeiriau Job, Meibion yr ynfyd, a meibion y rhai anenwog, gwaelach na'r ddaear.' Onid ydych wrth osod y cyfryw yn y weinidogaeth yn dyweyd nad yw gwasanaeth yr Arglwydd yn deilwng o barch."[1]
Os awgryma rhai fod Penry yn siarad mewn iaith rhy gref oddiar ragfarn at yr Eglwys Sefydledig, ac os gwrthoda rhai ei dystiolaeth ar gyfrif hyny, mae y tystiolaethau canlynol y fath nas gall yr eglwyswr mwyaf rhagfarnllyd eu gwrthod, oblegid tystiolaethau eglwyswyr selog ydynt. Yn Gorphenaf, 1623, ymwelodd Dr. Lewis Baily, esgob Bangor, a gwahanol blwyfydd ei esgobaeth. Nid yw ei arglwyddiaeth yn canmol dim a wnelid yn un o'r plwyfydd, ond dywed am y lleoedd canlynol fel hyn:—
ΜΟΝ.
LLANFAIRPWLLGWYNGYLL A LLANDYSILIO. Ni bu ond dwy bregeth yn y lleoedd hyn yn y deuddeng mis diweddaf, y rhai a draddodwyd gan y periglor, Syr John Cadwaladr.
PENMON. Ni chafwyd un bregeth yma er's pump neu chwe' blynedd.
LLANDDONA. Bob yn ail Sabboth yn unig y darllenir y gwasanaeth yma, er fod y person Syr Lewis Richards wedi cael gorchymyn i'w ddarllen bob Sabboth.
LLANDDYFNAN. Nid yw y pregethau tri—misol yn cael eu pregethu yma.
LLANGWYLLOG. Nid oes yma bregethu o gwbl.
LLANFECHELL. Achwynir ar y person yma am beidio cyfranu at gynal y tylodion, am fyw allan o'i blwyf, ac am esgeuluso pregethu.
LLANDDEUSANT a LLANFAIR-YN-NGHYNWY. Y curad yma oedd Syr John Edwards. Achwynir ei fod yn esgeuluso darllen y gwasanaeth a'r homiliau, cofrestru bedyddiadau, priodasau, a chladdedigaethau, nad oedd wedi traddodi un bregeth er y Sulgwyn blwyddyn i'r diweddaf, ei fod yn treulio llawer o'i amser yn y tafarndai, ac yn feddwyn cyhoeddus, a'i fod yn froliwr, ac yn ffraeo a'i blwyfolion, ac a dynion eraill yn fynych.
LLANFWROG a LLANFAETHLU. Ni chafwyd yn y lleoedd hyn ond dwy bregeth er's deuddeng mis.
SIR GAERNARFON.
LLANLLECHID. Achwynir fod Dr. Williams yn anfon ei geffylau i aflanhau y fynwent, ac nad oedd neb yn glanhau ar eu hol. Ni chafwyd yma ond tair pregeth yn y flwyddyn ddiweddaf.
- ↑ Penry's Exhortation. Page 31, &c. 1588.