ond y mae genym sicrwydd y byddai ef a'i frawd ieuangach John Lewis Parry, yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yn East Cowes, yn arfer myned bob Sabboth i Moelfro i fwynhau gweinidogaeth Mr. Thomas Jones. Nid oedd y ddau ond egwan ac ciddil o gyrff, ac etto gwelid hwy bob Sabboth yn yr addoliad yn brydlawn, er fod ganddynt rai milldiroedd o ffordd a hono dros le uchel ac ystormus yn y gauaf. Dechreuodd Thomas Parry bregethu yn ieuangc, a phregethodd lawer yn Llansantsior, a Moelfro, a Cholwyn, a lleoedd eraill, a byddai ei frawd John yn myned gydag ef, ac yn dechreu yr oedfaon iddo. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Wymondley, Coward College wedi hyny; ac ar derfyniad ei amser yno yn 1836, derbyniodd alwad o Blackburn, lle yr urddwyd ef. Gan ei fod yn wan ei gyfansoddiad, a'i iechyd yn anmharus, barnodd ei feddygon mai gwell fuasai iddo ddychwelyd i awyr ei wlad enedigol; a chan fod capel cynnulleidfaol Saesonaeg wedi ei godi yn Rhuthin; ond a elwid yn Eglwys Rydd, derbyniodd alwad oddiyno, a symudodd i gapel Brynhyfryd, Rhuthin, yn 1839. Yn ystod arosiad Mr. Parry yn Rhuthin, cyhoeddodd Mr. Lewis Edwards, M.A., Bala, (Dr. Edwards yn awr), ei.draethawd ar Natur eglwys, yr hwn oedd y cynyg cyntaf a wnaed trwy y wasg Gymreig i amddiffyn Henaduriaeth fel ffurflywodraeth eglwysig. Cyhoeddodd Mr. Parry attebiad iddo, ac y mae yn sicr genym fod pawb a'i darllenodd neu a'i darllena yn sicr o edmygu tegwch a boneddigeiddrwydd yr ysgrifenydd, beth bynag a all eu barn fod am gywirdeb y golygiadau a amddiffyna. Nid rhyw lawer o lwyddiant a fu ar ei weinidogaeth yn Rhuthin; ac nis gallesid disgwyl llawer. Tref fechan Gymreig ydyw; ac nid oedd Mr. Parry yn feddianol ar ddawn i swyno y lluaws, pe buasai yno luaws o Saeson i'w swyno; ond dichon fod y rhwystr mwyaf yn cyfodi oddiar fod y llywodraeth yn hollol yn llaw un dyn cyfoethog, yr hwn a gododd ac a ddaliai ei afael yn y capel. Ac nid yw eglwys gynnulleidfaol byth yn llwyddo heb i'r holl bobl gael llais yn ei gweithrediadau. Symudodd Mr. Parry oddiyno i Manchester, lle y llafuriodd dros ychydig mewn gwendid mawr, yna derbyniodd alwad o Casnewydd, lle y dechreuodd ei weinidogaeth Gorphenaf 1842. Nid oedd yn meddu digon o'r elfen boblogaidd i le gwerinol fel Casnewydd. Yn ei hanes ysgrifenedig o eglwys Dock Street, dywed Mr. Thomas Jones, "Yr oedd Mr. Parry yn ysgolhaig enwog; buasai yn llenwi cadair proffeswr mewn athrofa yn gampus, ond fel pregethwr i gynnulleidfa gyffredin nid oedd yn unwedd yn effeithiol." Pan yr achwynai rywun with Dr. McHall, o Manchester, arno fel pregethwr; methodd y Doctor a goddef, a dywedodd fod Mr. Parry yn un o'r meddylwyr galluocaf a fagodd Lloegr erioed; ac y mae y rhai a gafodd y fantais i'w adnabod yn barod i ddyweyd "y dystiolaeth hon sydd wir."
Symudodd o'r Casnewydd i Dover yn Chwef. 1844, ond ni bu ei dymhor yno ond byr iawn. Bu farw Mehefin 15fed, 1844, yn 33 oed. Dyn nodedig o siriol ac anwyl ydoedd, a diau pe cawsai fyw a mwynhau iechyd y cyrhaeddasai safle uchel yn yr enwad; ond "ei haul a fachludodd a hi yn ddydd."
PENYWAUN
.
Mae yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanfihangel Llantarnam, tua haner y ffordd o'r Casnewydd i Bontypool. Yr oedd Ymneillduwyr yn yr ardal