hon beth bynag er dyddiau Siarl II. Fel y crybwyllasom yn hanes eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, yr oedd ty Margaret Jones, yn mhlwyf Henllys, yn lled agos i Benywaun, wedi cael ei drwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr Annibynwyr yn 1672. Nis gwyddom pa un a barhaodd y gwasanaeth i gael ei gynal yn yr ardal o'r pryd hwnw hyd nes yr adeiladwyd capel Peny waun ai peidio. Yr oedd yma le agored i'r efengyl yn 1741, ac fel yr ymddengys, wasanaeth rheolaidd yn cael ei gadw.[1] Mewn apeliad at y cyhoedd am gymorth i ddwyn traul adeiladaeth y capel presenol, yr hwn a ysgrifenwyd yn 1818, Dywedir fel y canlyn, "Y mae cymdeithas fechan o Ymneillduwyr, o'r enwad Annibynol, wedi bod yn ymgynnull i addoli yn mhlwyf Llanfihangel Llantarnam yn hir cyn cof neb sydd yn awr yn fyw. Cyfarfyddent mewn anedd-dy o'r enw Penywaun. Ty bychan ydoedd, yr hwn a roddid at eu gwasanaeth gan y perchenogion o oes i oes er's rhai cenhedlaethau." Mae yn amlwg oddiwrth hyn fod yr achos hwn yn hen iawn, ond y mae enwau y gweinidogion fuont yn gofalu am dano yn yr oesau gynt yn gwbl anhysbys yn awr. Dywedir fod Mr. Thomas Walters, tra bu yn gweinidogaethu yn y New Inn, yn rhoddi rhan o'i wasanaeth i'r achos bychan yn Mhenywaun, a dywed rhai mai cangen o'r New Inn yw Penywaun, ond yr ydym ni yn awr yn cael ein gogwyddo i dybied fod y gangen yn henach na'r cyff. Dichon i Benywaun ryw bryd gael ei gymeryd dan ofal y New Inn, a thrwy hyn gael ei gyfrif yn gangen o'r eglwys hono, ond y mae pob sail i gredu fod yma achos cyn bod un yn y New Inn.
Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma nes i'r diweddar Mr. David Davies ddyfod i'r ardal yn 1815. Agorodd ysgol yma a phregethai yn gyson i'r ddiadell fechan. Yr oedd Mr. Davies cyn hyn wedi bod tua blwyddyn yn cadw ysgol yn y New Inn, ac mae yn debygol yn golygu am gael ei urddo yno, ond o herwydd rhyw wrthwynebiad siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau, a phan yr oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i ymadael a'r ardal, bu tair o wragedd yn daer wrtho am ddyfod i Benywaun i gadw ysgol a phregethu. Addawent hwy ofalu am ei gynaliaeth, ac felly cydsyniodd a'u cais. Enwau y gwragedd da hyn oeddynt Mrs. Jenkins, o'r Siop; Mrs. Waters; o'r Ton, a Mrs. Morgans, Henllys. Wedi i Mr. Davies fod yn llafurio yno am ddwy flynedd, ymffurfiodd yr ychydig broffeswyr yn yr ardal yn eglwys Annibynol, a rhoddasant alwad iddo ef i ddyfod yn weinidog iddynt. Eu rhif oedd wyth, ond cyn pen dwy flwyddyn—yr oeddynt wedi cynyddu i 54. Mae yn debygol mai yn y New Inn yr oeddynt yn aelodau yn flaenorol. Urddwyd Mr. Davies Mai 22ain, 1817. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. R. Davies, Casnewydd; pregethodd Mr. D. Lewis, Aber, ar Natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urddweddi gan Dr. J. Lewis, Casnewydd; rhoddodd Mr. D. Peter, Caerfyrddin, y siars i'r gweinidog, oddiwrth Mat. xxiv. 45, 46; a Mr. G. Hughes, Groeswen, y siars i'r eglwys, oddiwrth 1 Tim. v. 17. Pregethwyd yn yr hwyr gan Mr. D. Thomas, Penmain, a Dr. Lewis.
Erbyn hyn yr oedd yr anedd-dy wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, a bu raid myned ar unwaith i adeiladu capel. Rhoddwyd y ty, yn yr hwn yr addolid, a darn helaeth o dir claddu gydag ef, i fod yn lle i'r capel, gan Mrs. Elizabeth Waters, o'r Ton, a'i mab Mr. William
- ↑ Beirniad cyf. ii. tudalen 316.