Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/164

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o breswylwyr y gymydogaeth. Edrychid i fyny ato gan bawb, crefyddol a digrefydd. Ennillodd iddo ei hun radd dda fel ysgolfeistr. Iddo ef yr oedd y rhan fwyaf o blant, a dynion ieuaingc, a chanol oed y gymydogaeth yn ddyledus am eu dysgeidiaeth. Os bu cadw ysgol yn rhwystr iddo gyrhaedd llawer o gyhoeddusrwydd ac enwogrwydd fel pregethwr poblogaidd, bu yn foddion i ychwanegu peth dirfawr at ei ddylanwad yn ei ardal ei hun. Mae amryw o weinidogion Lloegr a Chymru, sydd yn awr yn fyw, yn ddyledus iddo ef am eu haddysg. Yr oedd "Athrofa Penywaun" am y deng mlynedd diweddaf o fywyd Mr. Davies, yn sefydliad enwadol; ac o herwydd fod y Saesonaeg wedi myned yn iaith gyffredin yr ardal, yr oedd y lle yn nodedig o fanteisiol i bregethwyr ieuaingc a ddygesid i fyny mewn ardaloedd hollol Gymreigaidd. Ni ddarfu i nemawr weinidog yn ei oes wasanaethu ei genhedlaeth yn well na Davies, Penywaun.

SARON, TREDEGAR.

Yn y flwyddyn 1800 y cymerwyd gweithred ar y tir gan gwmni Tredegar, er cyfodi gweithiau haiarn yn y lle. Nid oedd ond ychydig amaethdai henafol y pryd hwnw yn y gymydogaeth, a dim ond un ty bychan ar y fan y saif y dref, yr hon sydd yn awr yn cynwys tua deng mil o drigolion. Yn y flwyddyn 1802, cychwynodd y gwaith, ond yn araf iawn. Ni bu nemawr o lewyrch arno hyd y flwyddyn 1804. Daeth yno amryw bobl y pryd hwnw i gyfaneddu o wahanol siroedd Cymru, ond yn benaf o sir Gaerfyrddin. "Gwyr y wlad fawr" y galwai trigolion gwreiddiol yr ardal bobl sir Gaerfyrddin, ac yr oeddynt i fesur yn rhagfarnllyd yn eu herbyn.

Eri amryw bobl ddieithr sefydlu yma y pryd hwnw, nid ymddengys fod un Annibynwr yn eu mysg. Yr oedd ychydig o breswylwyr cyntefig y gymydogaeth yn Fedyddwyr, a chanddynt addoldy bychan ar yr ochr ddwyreiniol i'r afon, yn ymyl y brif ffordd i Gwm Ebbwy. Hwn oedd yr unig addoldy yn yr holl ardal. Gyda chynydd y boblogaeth, daeth yma ychydig bersonau o olygiadau Annibynol, a thua y flwyddyn 1807, dechreuodd Mr. Thomas, Penmain, ddyfod i bregethu atynt. Yn y flwyddyn 1808, y gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd gyntaf yn y lle gan yr Annibynwyr. Bedyddiodd Mr. Thomas dri baban yma yr un dydd, ac y mae dau o honynt yn awr yn fyw, un o ba rai yw Mr. Nicholas Rees. Byddai yr ychydig Annibynwyr a drigianent yma yn myned i gymundeb i Benmain, "Dy Solomon," yn y Blaenau, ac elai rhai o honynt weithiau cyn belled a'r Groeswen. Ond Ty Solomon yn benaf oedd eu cartref. Yr oedd Mr. Thomas, Penmain, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd yno yn rheolaidd bob mis. Yno y derbyniodd Mr. Thomas y ddau gyntaf o bobl Tredegar yn aelodau eglwysig. Bernir i dy Edmund James, yn Nhredegar, gael ei drwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol, yn y flwyddyn 1809, ac mai yn y ty hwnw y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd gyntaf tua yr amser hwnw. Yr aelodau a gyfansoddent y gymdeithas fechan oeddynt, Daniel Rees, Nicholas Rees, a William Hoskin, a'u gwragedd; Edmund James, Daniel Thomas (tad Mr. Isaac Thomas, Towyn, Meirionydd), a Sarah Watkins, ac o bosibl rai eraill nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Yr oedd yn mysg yr ychydig frodyr hyn rai lled ymchwilgar i