Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byngciau dyfnion duwinyddiaeth, a byddai yn fynych ddadleuon brwd, ond caredig rhyngddynt a'u gilydd ar Benarglwyddiaeth, gwaith yr Ysbryd, &c. Arferent fyned yn fintai tua thy Solomon, a thy Daniel a'r Caban Gwyn, ac ar ol y gwasanaeth, eisteddent yn fynych yn ymyl ffynon i fwyta eu bara a chaws ac yfed dwfr, ac wrth wneuthur hyny ailgnoent eu cil ar y gwirioneddau oeddynt wedi wrandaw. O'r flwyddyn 1809, ni buont yn myned nemawr oddicartref i addoli, am fod gwasanaeth cyson wedi cael ei osod i fyny yn eu plith eu hunain. Tua dwy flynedd cyn adeiladu y capel, dechreuwyd ysgol Sabbothol, yr hon a gynhelid yn nhy William Hoskins. Yn y bore y cynhelid yr ysgol, yna cyfeillach grefyddol am un-ar-ddeg o'r gloch, yn nhy Nicholas Rees, a phregeth neu gyfarfod gweddi yn y prydnhawn, yn nhy Daniel Rowland, Nantybwch, neu dy Nicholas Rees, ond gan amlaf yn yr olaf. O'r ty hwnw y symudwyd yr arch i Saron yn y flwyddyn 1819. Agorwyd y capel newydd Mai 5ed a'r 6ed, 1819. Dechreuwyd yr addoliad y dydd cyntaf, gan Mr. Thomas, Llanharan, a phregethodd Mr. B. Moses, oddiwrth Zeph. iii. 17, a Mr. D. Davies, Llangattwg oddiwrth Deut. vi. 3. Yr ail ddydd am 10, dechreuwyd gan Mr. Methusalem Jones, Bethesda, a phregethodd Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Salm. xxiii. 3, 4; Mr. T. B. Evans, Ynysgau, yn Saesonaeg, oddi-wrth Ioan xiv. 2; a Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth Ioan vi. 37. Am 3, gweddiodd Mr. B. Moses, a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, oddiwrth Ioan v. 25, a Mr. S. Evans, Zoar, oddiwrth Eph. ii. 7, yn Gymraeg ac yn Saesonaeg. Cydunodd y gweinidogion i gymeradwyo yr achos ieuangc hwn i'r eglwysi fel un teilwng o gymhorth i ddwyn traul yr adeiladaeth. Yr oedd pregethu wedi bod yn y capel newydd cyn dydd yr agoriad, a dywedir mai Mr. D. Stephenson, Rhymni, a draddododd y bregeth gyntaf ynddo.. Wedi cael lle cyfleus i addoli, aeth yr achos rhagddo yn ddymunol.

Cyn pen dwy flynedd wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Morris, myfyriwr yn athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef Chwefror 22ain, 1821. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn: Y nos flaenorol pregethwyd gan Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Heb. ii. 3, a Mr. J. Jones, Talgarth, oddiwrth Mat. v. 18. Am 10 yr ail ddydd, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Rhuf. vi. 5; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Thomas Powell, Aberhonddu; Pregethwyd y Siars i'r gweinidog gan Mr. E. Jones, Pontypool, oddiwrth Ezec. ii. 17; yna pregethodd Mr. T. B. Evans, Ynysgau, yn Saesonaeg, oddiwrth Heb. xii. 12; a Mr. G. Hughes, Groeswen, y Siars i'r eglwys, oddiwrth 1 Thess. v. 12, 13. Am 3 yn y prydnawn, cynhaliwyd y gwasanaeth yn nghapel y Bedyddwyr, pryd y pregethodd Mr. E. Jones, oddiwrth 2 Tim. ii. 20, 21, a Mr. J. Jones, oddiwrth Act. v. 31. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan Mr. D. Thomas, Nebo, Mr. E. Williams, Caerphili, &c. Yr oedd Mr. Morris yn anwyl iawn gan ei bobl, ac yn boblogaidd fel pregethwr. Ychwanegwyd tua chant o aelodau at yr Eglwys yn y pum' mlynedd y bu yn gweinidogaethu yma. Torwyd ef i lawr gan angau yn mlodau ei ddyddiau, yn Rhagfyr, 1825, er mawr golled a galar i bobl ei ofal a phawb o'i gydnabod.

Yn mhen tua blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Morris, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Jones, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar yr 28ain a'r 29ain o Fawrth, 1827. Dechreu-