Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd yr addoliad y nos gyntaf gan Mr. W. Phillips, Blaenafon, a phregethodd Mr. E. Price, Grosmont, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Rhuf. viii. 28; a Jer. viii. 22. Dydd Iau am 10, dechreuodd Mr. M. Jones, Bethesda, a phregethwyd a'r natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau, oddiwrth Mat. xvi. 18. Holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth, a phregethodd Dr. J. Lewis, Casnewydd, y Siars i'r gweinidog, a Mr. David Lewis, Aber, y Siars i'r eglwys, oddiwrth Heb. xiii. 17; Phil. ii. 29. Yn y prydnawn, dechreuwyd gan Mr. Joshua Thomas, Penmain, a phregethodd Mr. T. Evans, Aberhonddu, a Mr. D. Davies, New Inn. Pregethwyd drachefn yn yr hwyr gan Mr. E. James, Caerodor, a Mr. D. Stephenson, Nantyglo.

Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Saron am yn agos i ddeunaw mlynedd, ac yn nhymor ei weinidogaeth, helaethodd yr achos ei derfynau yn fawr. Ail adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1828. Nis gwyddom faint y capel cyntaf, ond yr oedd yr ail yn addoldy prydferth, ac yn cynwys tua 650 o eisteddleoedd. Yn 1830, adeiladwyd capel bychan ar y Trifil, at wasanaeth yr aelodau a gyfaneddent yn y pentref hwnw, ac y mae yno Eglwys wedi ei ffurfio er's amryw flynyddau bellach. Yn 1837, adeiladwyd Ebenezer, Sirhowy, a chorffolwyd yno eglwys gref yn uniongyrchol wedi agoriad y capel. Yn 1840, aeth cangen arall allan o Saron, ac adeiladasant gapel Adulam. Er ymadawiad y canghenau hyn oll, parhaodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn yr hen gapel yn gryf a lluosog. Yn nechreu y flwyddyn 1845, symudodd Mr. Jones o Dredegar i Gaerfyrddin, i gymeryd gofal yr eglwys yn Heol Awst, yn y dref hono.

Yn mhen ychydig ar ol ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan Jones, o goleg Aberhonddu. Urddwyd ef Gorphenaf 31ain, 1845. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. M. Jones, Farteg; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Jones, Sirhowy; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. M. Ellis, Mynyddislwyn; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Stephenson, Nanyglo; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw clasurol coleg Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Pregethwyd y dydd blaenorol, ac ar brydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan y Meistriaid W. Edwards, Aberdare; T. Pierce, Liverpool; E. Roberts, Cwmafon; E. Griffiths, Abertawy; J. Hughes, Dowlais; T. Griffiths, Blaenafon, &c. Ychydig iawn o, amser gafodd Mr. Jones i gyflawni ei weinidogaeth yn Nhredegar. Gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau fel y bu raid iddo yn niwedd y flwyddyn 1847, roddi y weinidogaeth i fyny. Gwerthfawrogai yr eglwys ei gweinidog yn fawr, a chyda theimladau gofidus iawn y gollyngodd ei gafael ynddo, fel y dengys yr hyn a ganlyn, a gyhoeddwyd yn y Diwygiwr, am Chwefror 1848: "Gyda yr ewyllysgarwch mwyaf ar y naill law, etto, gyda y gofid dwysaf ar y llall, yr ydym yn dymuno amlygu ein parodrwydd dros eglwys Annibynol Saron, Tredegar, i ddwyn y dystiolaeth gryfaf a gwresocaf am gymmeriad gwir deilwng ein diweddar weinidog, y Parch. Evan Jones, yr hwn, nes ei attal gan afiechyd, a lafuriodd yn ein plith yn ffyddlon, diwyd, a derbyniol. Gofidus iawn genym ni, a chan yr eglwys oll, fod Mr. Jones yn cael ei orfodi gan sefyllfa ei iechyd, ac yn cael ei gyfarwyddo gan y meddygon goreu, a'i gynghori gan ei gyfeillion mwyaf pwyllog, i roddi heibio y weinidogaeth, i'r dyben o symud i hinsawdd dynerach, ac ymwneyd a gwaith mwy cyfaddas i'w gyfansoddiad. Mae ein gofid a'n siomedigaeth