Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fawr. Yr ydym yn colli yr hwn a garem yn wresog, ac a'n carai yn gywir. Buasai yn hyfryd genym gael ei bresenoldeb a'i wasanaeth, a chyfle i ddangos ein hymlyniad wrtho hyd ei fedd; ond gan fod yr Hwn a'i rhoddodd i ni yn ei gymeryd ymaith, dymunem sefyll yn dystion o'i gymhwysder a'i ragoroldeb fel gweinidog y Gairei ddilyn a'n gweddiau, a'i gyflwyno i ofal Ceidwad Israel, yr hwn ni huna ac ni chwsg.

Ydym, dros yr Eglwys,

LLEWELLYN WILLIAMS; WILLIAM DAVIES; Diaconiaid."
JONATHAN JONES; JOHN THOMAS;
JOHN PHILLIPS; EVAN PRICE;
ROBERT ROBERTS; WILLIAM JONES

Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Jones, sef nechreu y flwyddyn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Evans, Llanidloes. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma am bum' mlynedd ac ychydig fisoedd. Yn Mai 1854, symudodd oddi yma i gymeryd gofal yr eglwys yn Penarth, Maldwyn, lle y mae yn bresenol. Nis gwyddom am ddim nodedig a ddigwyddodd yn hanes yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, amgen nag i tua 250 gael eu hychwanegu at eu haelodau yn y flwyddyn 1849; blwyddyn "diwygiad y cholera," fel y gelwid ef. Aeth llawer o'r lluoedd a ychwanegwyd at yr eglwysi yn yr adeg sobr hono yn ol i'w hen ffyrdd pan dawelodd yr ystorm, ond glynodd canoedd yn ffyddlon, ac y mae llawer o honynt yn fyw ac yn grefyddwyr rhagorol hyd y dydd hwn.

Wedi i'r eglwys fod tua blwyddyn a haner heb weinidog sefydlog ar ol ymadawiad Mr. Evans, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Hughes, B.A., yr hwn a fuasai yn weinidog yn Llansantsior, sir Ddinbych, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf o Dachwedd 1855, ac yma y mae yn barchus a defnyddiol hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1858, tynwyd y capel i lawr, a dechreuwyd adeiladu un llawer helaethach a harddach, dan arolygiaeth Mr. Thomas, Glandwr. Agorwyd ef Mai 15fed a'r 16eg, 1859. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan y Meistriaid T. Jeffreys, Penycae; H. Jones, Caerfyrddin; T. Rees, Cendl; E. Hughes, Penmain; T. Thomas, Glandwr; W. P. Davies, Rymni; N. Stephens, Sirhowy; W. Williams, Tredegar, &c. Casglwyd yn y gwahanol oedfaon at draul yr adeiladaeth 167p. Is. 3c. Maint y capel prydferth hwn yw 64 troedfedd wrth 41 troedfedd a chwe' modfedd. Cynwysa 8 o eisteddleoedd, a chostiodd 1,500p., heblaw gwerth defnyddiau yr h gapel. Mae y ddyled a'i llogau yn awr wedi dyfod i lawr i 300p. trw lafur cyson a didwrw yr eglwys a'r gynnulleidfa. Yn ystod y mudiadau canmlwyddol talwyd 771p. o'r ddyled ar y capel, a rhoddwyd 20p. at golegdy newydd Aberhonddu.

Mae Mr. Hughes wedi bod bellach yn gweinidogaethu yn Saron am yn agos bymtheg mlynedd, a phob peth wedi myned yn mlaen trwy yr holl dymor yn hynod gysurus. Er fod yma lawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle trwy farwolaethau, ymfudiadau, &c., mae yr achos yma yn bresenol yn fwy llewyrchus a chryf o lawer nag oedd bymtheg mlynedd yn ol. Gan fod y glo a'r mwn haiarn yn Mlaenycwm agos wedi cael eu gweithio allan, mae gweithiau tanddaearol yn cael eu hagoryd yn is i lawr yn y dyffryn, a'r boblogaeth yn nesu i lawr yn raddol ar ol y gweithiau, mae pobl Saron wedi sefydlu cangen o ysgol Sabbothol mewn lle a elwir Troed-