rhiw'rgwair, tua milldir a haner isław Tredegar, lle mae amryw o'r aelodau yn byw. Heblaw yr ysgol, cynelir yno gyfarfodydd gweddio, cyfeillachau crefyddol, &c., ac er nad oes yno etto un ty addoliad, mae yn debygol yr adeiladir un, ac y bydd yno achos blodeuog yn mhen ychydig flynyddau.
Mae amryw ddynion rhagorol wedi bod yn dal cysylltiad ag eglwys Saron, o bryd i bryd, oddiar gychwyniad yr achos hyd yn bresenol. Ychydig o eglwysi sydd wedi cael eu breintio ag olyniad o ddiaconiaid rhagorach am eu galluoedd, eu dylanwad, a'u defnyddioldeb. Mae yr ysgolion Sabbothol a cherddorol hefyd wedi cael eu dwyn yn mlaen yma mewn modd nodedig o drefnus ac effeithiol.
Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:
Thomas Jones. Ganwyd ef yn Llwynadda, yn agos i Dalybont, Ceredigion, tua y flwyddyn 1790. Pan ddechreuwyd yr achos yn Nhalybont, yn benaf trwy lafur Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yr oedd gelyniaeth ffyrnig yn yr ardal tuag at Ymneillduaeth, ac yr oedd yr hen bobl a'r rhai canol oed wrth siarad yn ddirmygus am y pregethwyr, wedi llenwi meddyliau y plant a'r ieuengetyd a rhagfarn tuag atynt. Yn mysg eraill yr oedd Thomas Jones a'i frawd John, yn elynol iawn. Ryw ddiwrnod cytunasant i lenwi eu llogellau o geryg i'w taflu at y Dr. Phillips, pan ddeuai ef yno i bregethu. Yr oedd y Dr. i ddyfod yno yn mhen diwrnod neu ddau ar ol iddynt benderfynu hyny. Yr amser hwnw yr oedd Thomas yn was yn y Gogerddan Arms, yn mhentref Talybont, ac yno y disgynai y pregethwyr a ddeuent i'r lle. Pan ddaeth y Dr. at y drws galwodd y gwas i gymeryd ei geffyl i'r ystabl, ac wrth ei fod yn disgyn estynodd swllt iddo, a dywedodd wrtho, "Da machgen i, rho di ddigon o wair i'r ceffyl." Cyn hyny byddai y llangc drygionus o elyniaeth at y pregethwyr yn tynu ymaith y gwair a roddasai o flaen eu hanifeiliaid cyn gynted ag y cawsai gyfle. Yr oedd y Dr. wedi dyfod i ddeall hyny, a thyna y rheswm iddo roddi swllt iddo. Wedi iddo ef ei hun gael ychydig ymborth, aeth i'r ystabl i weled y ceffyl, ac yno yr oedd yr anifail a digon o wair o'i flaen, a'r gwas wedi cael ei dyneru gan y swllt, yn ymroi ar ei oreu i'w lanhau. "Dyna machgen i," ebe y Dr., "paid gofalu am ei lanhau gan fod ganddo ddigon o wair o'i flaen. A ddeui di yn awr gyda mi i'r bregeth?" Ar ol ystyried am funyd, dywedodd, "Deuaf fi." Ac aeth yn y fan. Wrth fyned trwy y pentref ar ol y pregethwr, cyfarfyddodd a'i frawd John, yr hwn oedd wedi llenwi ei logellau o geryg. Ond dywedodd Thomas wrtho, "Rhaid i ni beidio gwneyd dim drwg i'r dyn hwn; dyn iawn yw efe, y mae wedi rhoddi swllt i mi, ac yr wyf fi yn myned i'w wrandaw, tyred dithau gyda mi." Aethant ill dau, a gafaelodd y bregeth yn achubol yn eu calonau, a buont yn grefyddwyr enwog hyd derfyn eu hoes. Yn fuan ar ol ymuno a chrefydd aeth Thomas Jones i weithio i Dredegar, ac arweiniodd Rhagluniaeth ef i letya i dy Nicholas Rees, un o'r ychydig broffeswyr oedd yno. Yn 1810, anogwyd ef gan y brodyr yno i ddechreu pregethu, ac yn fuan wedi hyny aeth i'r ysgol i'r Neuaddlwyd, ac oddiyno yn 1813 i'r athrofa i Lanfyllin. Wedi gorphen ei amser yno, derbyniwyd ef fel cenhadwr gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Anfonwyd ef i athrofa Dr. Bogue yn Gosport, ac wedi ei addysgu yno cafodd ei urddo yn yr Amwythig Chwefror 28ain, 1820, i fyned yn genhadwr i Tahiti. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Mr. Francis, Ludlow; Dr. Raffles, Liverpool; Mr. Weaver, Amwythig; Mr. James, Birmingham; a Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd. Hwyliodd o Lundain ar fwrdd y Tuscan ar ei fordaith i Tahiti Mai 5ed, 1820. Bu yno am rai blynyddau yn llafur-