Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

us a llwyddianus iawn. Cyfansoddodd Eiriadur Tahitaidd, a chyfieithodd ranau o'r Ysgrythyrau i'r iaith hono. Dywedir iddo ar ol marwolaeth ei wraig fyned yn llwfr yn ei ysbryd, a rhoddi ei waith fel cenhadwr i fyny. Symudodd wedi hyny i America, lle y bu farw. Nid ydym wedi gallu cael allan amser ei farwolaeth.

John Daniel, oedd wr ieuangc gobeithiol iawn a ddechreuodd bregethu yma tua 1832, ond bu farw cyn iddo gael amser i arfer fawr ar ei ddoniau. Mae y rhai a'i hadwaenai yn siarad yn uchel iawn am ragoroldeb ei gymmeriad.

Lewis Lewis. Nis gwyddom yn gywir pa flwyddyn y dechreuodd ef. Yr oedd wedi cael ei dderbyn fel ymgeisydd i goleg Aberhonddu, ond cyn iddo fyned yno dechreuodd ei iechyd waelu, a bu farw.

Evan Lewis, B.A. Brawd y rhag-grybwylledig Lewis Lewis ydoedd ef. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evan Jones. Derbyniwyd ef i athrofa Airedale, ac ennillodd iddo ei hun yno radd dda fel myfyriwr diwyd. Graddiodd yn B.A. yn mhrif athrofa Llundain yn 1852, ac urddwyd ef yn Bartonon Humber yn 1853. Yn 1858, symudodd i Rothwell a bu yno bum' mlynedd. Symudodd i Accrington yn 1863, ac oddiyno i Preston. Yn 1868, symudodd i Offord Road, Llundain, a bu farw Chwefror 19eg, 1869, ar ol tua mis o gystudd, yn 44 oed. Yr oedd yn ddyn gweithgar, dysgedig, a galluog iawn. Ysgrifenodd amryw lyfrau bychain a thraethodau yn yr iaith Saesonaeg, y rhai a brofant ei ysgolheigdod a'i weithgarwch diatal.

Richard Lewis. Brawd y ddau flaenorol. Addysgwyd yntau yn athrofa Airedale, a chafodd ei urddo yn Lowestoft, Suffolk, yn 1860. Y mae wedi symud yn ddiweddar i Upper Norwood, Llundain.

Isaac Davies. Wedi gorphen ei amser yn athrofa Airedale, urddwyd ef yn Towcaster, sir Northampton, yn 1861, ac yno y mae hyd yn bresenol.

Rowland Rowlands. Yn mhen ychydig ar ol iddo ddechreu pregethu derbyniwyd ef yn fyfyriwri athrofa Caerfyrddin. Ar orpheniad ei amser yno derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bethel, Llansamlet, lle yr urddwyd ef yn y flwyddyn 1867, ac y mae yn argoeli bod yn ddefnyddiol iawn yn y cylch pwysig hwn.

Yr ydym yn ddyledus am lawer o ddefnyddiau yr hanes blaenorol am eglwys Saron i lythyrau cynwysfawr Mr. D. Hughes, B.A., a Mr. Nicholas Rees, Tredegar.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ROBERT MORRIS. Nid ydym yn gwbl sicr o amser genedigaeth Mr. Morris, oblegid yn hanes ei farwolaeth yn y Dysgedydd am 1826, dywedir ei fod yn 35 oed pan y bu farw, tra yn ol ei gof-faen ar fur capel Saron nid oedd ond 34 oed. Felly cafodd ei eni naill ai yn y flwyddyn 1790 neu 1791. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landrillo, ac yn fab i amaethwr. Yr oedd ei fam yn ferch y Brynffynon, Tre'rwiedog, ger y Bala. Daethant i fyw i Wrexham, a bu Robert Morris pan yn hogyn yn Boot yn yr Eagles a thafarndai eraill yn y dref am beth amser; ond yr oedd yn rhy ddireidus, meddai ei chwaer, yr hon sydd yn awr yn fyw yn y Rhos, ac yn 85 oed, i gadw ei le yn hir yn yr alwedigaeth hono; a darfu i'w dad ei rwymo yn egwyddorwas gyda Thomas Jones y Gôf, Aberoer, ger y Wern,