Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAERHUN. Ni chafwyd yma ond tair pregeth yn y deuddeng mis diweddaf, a buwyd am un Sabboth heb un math o wasanaeth.

LLANBEDRYCENIN. Ni chafwyd yma ond dwy neu dair pregeth yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.

DOLYDDELEN. Nid oes yma ddim pregethu un amser.

DWYGYFYLCHI. Achwynir ar Syr Edward Jones, y Ficer, am ladd gwair ar y fynwent, a'i throi yn ydlan. Beiïir arno hefyd am gadw ei gyfrwy a chycheidiau o wenyn yn yr eglwys, ac am esgeuluso cadw cymundeb y Pasg diweddaf.

ABERDARON. Achwynir ar Syr Griffith Piers, y Ficer, am adael corph plentyn Hugh Thomas, heb ei gladdu o ddydd Sadwrn hyd ddydd Sul, a phan y daeth yno y Sul ei fod yn feddw, ac ar ol y weddi brydnhawnol aeth o'r eglwys i'r tafarndy. Cyhuddir ef hefyd o gael rhybudd ar un dydd Sadwrn i ddyfod i gladdu un marw y Sul, ond na ddaeth i gladdu y marw, nac i ddarllen y gwasanaeth arferol.

LLANGIAN. Beiïir Syr Robert Griffith, y Curad, am wrthod myned i roddi y cymun i gleifion, pan ofynid ganddo, ac hefyd am beidio myned i fedyddio plant nychlyd, a gadael iddynt farw yn ddifedydd, ac esgeuluso myned i gladdu y meirw. Dim pregethu tri-misol yma.

LLANBEBLIG. Dim pregethu tri-misol yma hefyd.

SIR FEIRIONYDD.

LLANDECWYN a LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU. Ni chafwyd ond un bregeth yn Llanfihangel-y-traethau, a dim ond dwy neu dair yn Llandecwyn, ac nid yw y person yn cyfranu dim at gynhaliaeth y tylodion.

LLANEGRYN. Dim ond dwy bregeth a gafwyd yma.

PENNAL. Anfynych y maent yn cael pregethau yma.

TRAWSFYNYDD. Y mae yn arferiad yn y plwyf hwn i osod cyrph i lawr ar y croes-ffyrdd, wrth eu cymeryd i'w claddu, a dyweyd gweddi neu ddwy uwch eu penau. Syr Robert Lloyd yw y person yma.

SIR DREFALDWYN.

LLANWNOG. Achwynir nad oes yma ddim pregethu.

Cymerwyd y difyniadau uchod o ysgrifau y diweddar Barch. J. Jones, person Llanllyfni, y rhai a gyhoeddwyd yn yr Archeologia Cambrensis, am Hydref, 1863. Mae yn debygol fod Mr. Jones wedi eu copïo o hen lawysgrifau perthynol i'r llys esgobol yn Mangor. Gellir casglu oddiwrth y difyniadau uchod, lle y sonir mor fynych am bregethu tri-misol, na ddysgwylid i'r offeiriaid draddodi ond un bregeth bob tri mis. Am esgeuluso hyny y beïid hwy. Yr oedd y gair Syr gynt yn cael ei arfer o flaen enw yr offeiriaid, yn gyfystyr a'r gair Parchedig yn yr oes hon.

Pe gellid dyfod o hyd i hen gofnodion pob un o lysoedd esgobyddol Cymru, mae yn ddiameu y tarewid wrth luaws o ffeithiau cyffelyb yn