Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am bedair blynedd. Parhai Robert Morris i wneyd castiau diniwaid i ddychryn hen bobl a phlant, hyd nes daeth at grefydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Wern, gan yr anfarwol W. Williams, pan oedd yn brentis yn Aberoer. Bu yn gweithio am rai blynyddau wedi hyny yn Penygelli, ger Adwy'rclawdd, gydag un John Gittins. Yr adeg hono y dechreuodd bregethu. Cafodd anogaeth i ddechreu pregethu gan Mr. Williams ac eglwys y Wern, a dechreuodd yr un noson a Mr. Moses Ellis, Mynyddislwyn. Y mae yn ymddangos mai pur wanaidd a diddawn oedd ar y dechreu, er hyny, yr oedd yr hyn a ddywedai yn llawn synwyr a doethineb. Yr oedd gan Mr. Williams feddwl mawr iawn o hono, a chredai y daethai yn rhywbeth; ac felly y daeth. Yn bur fuan wedi iddo dechreu aeth i'r ysgol i Lanfyllin, ac oddiyno i Dredegar. Gan na feddwn ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad i Mr. Morris, nis gallwn wneyd yn well na rhoddi copi o'r hyn a gyhoeddwyd am ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn y Dysgedydd am Mai 1826. "Y Parch. R. Morris. Y gwas defnyddiol ac anrhydeddus hwn i Grist a'i eglwys, a orphenodd ei yrfa ddaearol Rhagfyr 23ain, 1825, yn 35 oed. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn athrofa Gwynedd, dan ofal y Parch. Dr. Lewis. Bu yn gweinidogaethu yn ddiwyd a llafurus, dros bum' mlynedd yn eglwys yr Annibynwyr yn Nhredegar, Mynwy. Cynnaliwyd ei angladd gyda'r difrifoldeb mwyaf, a chydag amlygiadau cyffredinol o barch i'w goffadwriaeth. Ar yr achlysur pregethodd y brodyr D. Thomas, Penmain, yn Gymraeg, oddiwrth 2 Cor. i. 9; a W. Lewis, Tredwstan, yn Saesonaeg, oddiwrth yr un testyn. Terfynwyd y cyfarfod trwy araeth fer a gwresog gan y brawd D. Lewis, Aber. Er fod yno o leiaf fil o bobl wedi ymgynnull ar yr achlysur, braidd y gallesid canfod wyneb sych yn mhlith yr holl gynnulleidfa. Bu gweinidogaeth Mr. Morris o fawr fendith yn y lle, yn neillduol er adeiladaeth a chwanegiad at yr eglwys, yr hon a gynyddodd yn ei dymor byr ef, yn agos i 100 mewn rhifedi. Efe a fu farw o'r clefyd a elwir enyniad yr ysgyfaint,' yr hwn a achoswyd trwy anwyd llym. Ei amynedd trwy ei hir gystudd oedd hynodol, ac yn teilyngu efelychiad gan bob gwir Gristion. Gadawodd weddw alarus, a baban amddifad i gwyno'r golled ar ei ol. Nis gall yr eglwys a'r gynnulleidfa lai na theimlo'r golled am un ag oedd mor fuddiol yn ei areithfa, yn ei gyfeillach, yn ei deulu, ac yn ei gymydogaeth yn gyffredinol. Ond yr Arglwydd a ofala."

Gellir ychwanegu i'w weddw a'i faban ei ganlyn yn fuan i'r bedd. Yr oedd Mrs. Morris yn chwaer i Mr. Henry Lewis, Gelligynes, gerllaw Penmain, a Mr. John Lewis, Tredegar.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
ar Wicipedia

EVAN JONES, (Ieuan Gwynedd). Nid oes odid, enw yn Nghymru yn fwy adnabyddus nag enw Ieuan Gwynedd. Mae miloedd wedi clywed ei enw, ac wedi darllen ei ysgrifeniadau na welsant erioed ei wyneb; a chan fod mwy na 18 mlynedd bellach wedi rhedeg er y dodwyd ef yn ei "argel wely," y mae cenhedlaeth gyfan wedi ei geni, ac wedi tyfu i fyny. Dichon nad ymddangosodd yr un dyn yn Nghymru yn y ganrif bresenol; yr hwn mewn cyfnod mor fyr a ymddyrchafodd i'r fath enwogrwydd cenhedlaethol; canys sefydlodd iddo ei hun, cyn ei fod yn 32 oed, fel bardd a llenor, diwygiwr a gwladgarwr, dyngarwr a phregethwr, enw a bery cyhyd a pharhad yr iaith Gymraeg.

Ganwyd Evan Jones, Medi 20fed, 1820, mewn lle a elwir Bryntynoriad, neu feallai yn fwy priodol Brynpynoriad, o fewn wyth milldir i Ddolgell-