au, ar y llaw aswy wrth fyned oddiyno i'r Bala. Saif y tŷ mewn cwm cul wrth odre Aran Fawddwy, ychydig islaw Drwsynant, ond yr ochr arall i'r afon. Enwau ei rieni oedd Evan a Catrin Jones. Bu iddynt bump o blant, tri o ba rai a fuont feirw yn eu mabandod; ac Ieuan oedd yr ieuangaf o'r pump. Yr oedd yntau mor anhebyg i fyw pan y gwnaeth ei ymddangosiad gyntaf, fel y galwyd yr hybarch Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, i'w fedyddio y dydd y ganwyd ef; ac ymdrechu ag angau y bu o'r diwrnod hwnw hyd ddydd ei farwolaeth, pan y cariodd y gelyn y frwydr arno, canys "nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw." Isel eu hamgylchiadau oedd ei rieni, ac ymladd yn galed a thrafferthion bywyd y buont trwy eu hoes. Dyn distaw, tawel, a diymyraeth oedd ei dad; diwyd iawn gyda'i oruchwylion bydol, ond heb fawr o flas nac awydd, mwy na'r rhan amlaf o'i gydoeswyr, am addysg a gwybodaeth. Ond yr oedd ei fam yn ddynes o ddeall cryf, o ysbryd uchelfrydig, o ewyllys anhyblyg, ac o ddoniau helaeth. Pa un bynag ai mewn ymddyddanion cyffredin, ai yn nghyflawniad dyledswyddau cyhoeddus crefydd y cymerai ran, yr oedd yn mhell uwchlaw y rhan fwyaf o'r meibion a'r merched a ddeuai i'r un man a hi. Yr oedd teithi meddyliol a nodweddiadol ei fam yn amlwg yn Ieuan; ond fod y diwylliant a'r addysg a dderbyniodd ef wedi ei goethi, a'i loywi, a'i ddyrchafu yn llawer uwch nag y gallesid disgwyl iddi hi fod o dan yr amgylchiadau y dygwyd hi i fyny, pa mor gryf bynag oedd ei galluoedd naturiol. Rhoddodd hi bob cefnogaeth i'w "bachgen bach," fel ei galwai, i ddarllen a chasglu gwybodaeth, er fod ei dad, a'i berthynasau, a hen bobl dda a diwyd y Brithdir yn aml yn ei beio am wasgu arni ei hun i roddi addysg i'r llangc, yn lle ei anfon allan fel yr anfonid ei gyfoedion yn'y gymydogaeth, i ymafael mewn rhyw orchwyl gonest, er ennill ei fara beunyddiol. Ac yr oedd ei dad yn enwedig pan welodd y bachgen yn dechreu rhoi ei fryd ar brydyddu, yn barnu ei bod ar ben arno; ac y buasai iddo fyned, fel y dywedid wrtho fod prydyddion yn gyffredin yn troi, i ddilyn bywyd ofer a segur, nes dwyn ei hun i dlodi a gwarth; a pheri i benwyni ei rieni ddisgyn mewn gofid i'r bedd. Ond daliai ei fam i'w gefnogi, a'i wroli, a hwylysu y ffordd iddo i gael llyfrau ac addysg, mewn gobaith y deuai ei "bachgen bach" yn rhywbeth; oblegid yr oedd uchelgais lon'd enaid Catrin Jones, er o bosibl na chododd ei huchelgais ychwaith yn ddigon uchel i gredu y deuai y peth y daeth ar ol hyny; ond dyma y pryd y rhoddwyd i lawr seiliau y cymmeriad a brofodd ar ol hyn y fath allu yn ein gwlad "y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo." Ychydig o gyfleusderau gwybodaeth gyffredinol oedd yn nhy ei rieni; ac nid oedd tai y cymydogion yn yr ystyr hono nemawr yn fwy cyfoethog. Fel hyn yr ysgrifena Ieuan Gwynedd ei hun yn ei "Adgofion am ei fam" yn y Gymraes am 1850, tudalen 323. "Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhydymain a'r Brithdir bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai Seren Gomer neu y Dysgedydd yn oracl; ac os meddai rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanacau wedi eu gwnïo yn nghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo 'lawer iawn o lyfrau.' Yr oedd presenoldeb 'Corff Duwinyddiaeth' Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ. Yr oedd ty fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynonau yr Iechawdwriaeth, (gan Mr. Jones, Pwllheli), dau
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/171
Prawfddarllenwyd y dudalen hon