Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/172

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechreu y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd, Yr Ysgerbwd Arminaidd, a'r Bardd Cwsg. Yn eu dyddiau plentynaidd yr oedd y mab henaf yn bysgotwr campus, a'r ieuangaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu oreu y ffawd, yr oedd teulu caredig yn yr Esgairwen, lle y derbynid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megys Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr, gan Titus Lewis. Drwy gael benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllenydd ieuangc. Daeth hefyd ar draws y Blodeugerdd, Gorchestion Beirdd Mon, Drych y Prif Oesoedd, a Helyntion y Byd a'r Amseroedd. Darllenodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreuol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth i'r awydd hwn am ddarllen."

Dyna engraifft deg o lafurio am wybodaeth dan anhawsderau; a bendith ar goffadwriaeth y fam a gefnogai awyddfryd anniwalladwy y llangc. Mabwysiadodd y ffug enw Ieuan Gwynedd pan yn ieuangc iawn; ac ysgrifenodd lawer mewn rhyddiaeth a barddoniaeth o dan yr enw hwnw i'r Dysgedydd pan nad oedd ond bachgenyn o 15 i 18 oed. Poenodd lawer ar yr Hen Olygydd gyda'i gyfansoddiadau amrwd ac anaddfed, a phoenodd yr Hen Olygydd lawer arno yntau trwy droi yn fynych yr hyn a ysgrifenai o'r neilldu, a thrwy gyfnewid a chwtogi cryn lawer ar yr hyn a gyhoeddid; ac nid bob amser y diangai heb sen yr Hen Olygydd yn ei sylwadau at ei ohebwyr, pan y tybiai fod ei gyfaill ieuangc braidd a gormod o ysfa ysgrifiaw arno. Ond derbyniai Ieuan y cwbl heb ddigio na brochi, ond gan benderfynu dyfod yn gyfryw ysgrifenwr ryw ddiwrnod ag y teimlai ei hen athraw yn llawen i dderbyn ffrwyth ei ysgrifell. Yr oedd ganddo barch diderfyn i'w hen weinidog; a gwyddai o'r goreu mai "gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid;" er i hono fod yn gân o glod a chymeradwyaeth. Fel rheol y dynion senir, a hyny yn lled chwerw hefyd weithiau, gan y doeth, yw y dynion sydd yn gosod eu hargraff ar y byd; tra y mae y rhai y gwenieithir iddynt gan ffyliaid fynychaf yn ymchwyddo, ac yn syrthio i ddinystr. "Ffyddlawn yw archollion y caredig."

Derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir pan yn ieuangc; ac er ei fod yn fwy meddylgar na'r cyffredin o'i gyfoedion, ac o ran ei fuchedd o'i febyd yn hollol ddiargyhoedd, ac heb ddim drwg gan neb i'w ddywedyd am dano; etto, araf iawn y bu hen bobl dda y Brithdir i'w gymhell a'i gefnogi i bregethu, ar yr hyn yr oedd yn ddigon amlwg fod ei feddylfryd. Gellir cyfrif am hyny heb mewn un modd roddi barn galed yn erbyn neb. Dichon, ac yr ydym yn sicr, fod gwaith ei rieni yn ymddeol o'r Eglwys yn y Brithdir, yn adeg y terfysg yn Llanuwchllyn, ac yn myned saith milldir o ffordd at yr "Hen bobl," fel y gelwid gwrthwynebwyr Mr. Michael Jones; a'r ffaith fod ei fam yn arbenig, yn cymeryd rhan flaenllaw yn y terfysg a'r ddadl, yn peri nad oedd yr anwyldeb a'r cynhesrwydd hwnw rhwng pobl Brithdir ag Ieuan ag a fuasai dan amgylchiadau gwahanol. Mae wir nad oedd dim a wnelai y bachgen a'r terfysg; ac na bu ef erioed yn cyrchu i'r "Hen gapel" at yr "Hen bobl," ond y parhai ef i fyned i'r Brithdir pan oedd ei rieni yn myned i Lanuwchllyn; ac y mae yn wir hefyd fod ei rieni bellach wedi rhoddi i fyny er's blynyddau fyned i Lanuwchllyn, ac wedi ailuno a'u hen gyfeillion yn y Brithdir; ond er y cwbl, nid pethau i'w