Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanghofio yn fuan yw cwerylon felly. Rhaid i'r genhedlaeth hon fyned heibio cyn yr iacheir yn llwyr glwyfau y terfysg hwnw. Barnai Ieuan hyd ei fedd, mai un o anffodion mwyaf ei oes oedd iddo gael ei fagu yn swn brwydrau duwinyddol, a chael ei ddysgu o'i febyd i gredu fod y rhan fwyaf o weinidogion Gogledd Cymru yn gyfeiliornwyr peryglus. Bendith anrhaethol, yn ol ei farn ef, i fyd ac eglwys a fuasai, pe na chlywsid erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn. Heblaw hyny, yr oedd ei fod wedi tyfu i fynu yn fachgen mawr heb ymafael mewn unrhyw orchwyl, yn peri fod rhai o honynt yn teimlo yn rhagfarnllyd tuag ato; ac yr oedd hyny yn ddigon naturiol mewn cymydogaeth lle yr oedd pawb yn gorfod gweithio yn galed am ei damaid; a lle yr oedd "trwy chwys dy wyneb y bwytei fara," yn un o'r erthyglau blaenaf yn nghredo y preswylwyr. Nid oedd Ieuan ychwaith, yn y tymor hwnw yn enwedig, yn un o'r rhai mwyaf serchus ac ennillgar ei dymer; yr oedd yn rhaid ei adnabod yn drwyadl cyn ei werthfawrogi ac y mae yn fwy na thebyg fod mwy o ysbryd myned yn mlaen ynddo, nag a dybiai yr hen bobl dda oedd yn weddus i un o'i oed a'i amgylchiadau ef; ac ond odid na farnent fel y barnai hen saint arafaidd Trawsfynydd am Williams y Wern o'i flaen, fod mwy o eisiau ffrwyn a genfa i'w atal rhag myned yn rhy chwyrn, nag oedd o eisiau swmbwl i'w yru yn ei flaen. Beth bynag, hyn sydd eglur mai trwy oddefiad hen bobl dda y Brithdir y dechreuodd Ieuan siarad yn gyhoeddus; ac nid trwy eu cymhelliad, fel y gallesid yn rhesymol ddisgwyl i un o'i dalent a'i athrylith ddysglaer ef. Ond nid oedd dim atal ar y llangcyr oedd ymwybyddiaeth o'i allu o'i fewn, a'r rhwystrau ag a fuasai yn ddigon i ddigaloni meddyliau cyffredin, a wnai ein harwr yn fwy arwrol. Ymwthiai ef drwy bob rhwystrau gan gyfeirio at y nod ar ba un y sefydlodd ei lygaid, ac y gosododd ei galon; a daeth ei hen gyfeillion yn y Brithdir cyn hir i weled fod gwir fawredd ynddo, ac i deimlo yn llawen mai hwy a gafodd yr anrhydedd o'i fagu; ac wedi ei gladdu, mynasant osod maen coffadwriaeth iddo mewn man amlwg ar fur eu haddoldy. Mewn cyfarfodydd Dirwestol y dechreuodd Ieuan Gwynedd arfer ei ddawn yn gyhoeddus; a gwrando ei hylithrwydd fel areithiwr a barodd i rai cyfeillion ei annog i bregethu. Aeth yn y flwyddyn 1837 i Lanwddyn i gadw ysgol; ac yno pan yn aelod yn Sardis y dechreuodd bregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir "Ty'r hen John Breese," lle yr oedd ychydig o gyfeillion yn cydaddoli cyn codi capel Braichywaun. Ar gymhelliad Thomas Williams, yr hen brydydd "Eos Gwynfa" y pregethodd gyntaf; a phregethodd Mr. Joseph Williams, mab y dywededig Thomas Williams, ei bregeth gyntaf yr un noswaith. Mae Joseph Williams yn aros hyd yr awr hon, ac yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn Llansilin, dan ofal Mr. H. James, Llansantffraid. Wedi bod yn cadw ysgol yn Sardis a Saron, symudodd o Lanwddyn y flwyddyn ganlynol, i Benybont Fawr i gadw ysgol, lle y cafodd nawdd a chefnogaeth Mr. David Price, yr hwn oedd y pryd hwnw yn uchder ei boblogrwydd, a chylch helaeth o weinidogaeth ganddo, ac felly mewn angen cynnorthwy mynych. Teimlai Ieuan drwy ei oes ei fod yn ddyledus iawn i Mr. Price. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo ato o Gaerdydd, Mawrth 30ain, 1850, ceir a ganlyn:"Y mae llawer dydd wedi myned heibio er pan welais chwi, ac yr ydym ein dau wedi cael ein rhan o flinder y fuchedd hon. Braidd na feddyliwn mai breuddwyd yw fod un mlynedd ar ddeg er pan oeddwn gyda chwi yn Mhenybont. Yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw, rhaid i mi briodoli llawer o'm dedwyddwch i chwi. Da i mi, a