Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/174

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dichon mai da i eraill, mai i'ch dwylaw chwi y syrthiais yn 1838, a hyfryd i mi i'w cydnabod fy rhwymedigaethau lluosog i chwi."[1]

Yn nechreu Mai 1839, aeth Dr. Arthur Jones i urddiad Mr. John Howes i Lansantffraidd, ger Croesoswallt, lle y gwelodd Ieuan yr hoffodd ef ac y gwahoddodd ef i Fangor i gadw ysgol Dr. Daniel Williams o dano ef. Daeth Ieuan i Fangor yn mhen ychydig wythnosau, ac yno y gwelsom ef gyntaf, ac y ffurfiasom gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch ag ef. Nid anghofiwn yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i fewn i hen Gapel Ebenezer i'r oedfa ddau o'r gloch, y Sabboth cyntaf wedi ei ddyfodiad. Dyna fe, ddarllenydd yn llafn main, tal, teneu, gwledig, mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin, yn dyfod trwy ddrws y capel am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wâu yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwtagwasgod o stwff ac un res o fotymau yn cau i fynu yn glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddfllodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi a hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn heb son am gerdded ynddynt, ond yr oedd ef wedi cerdded deugain milldir ynddynt y dydd o'r blaen a'i sypyn dillad ar ei ysgwydd. Aeth rhag ei flaen i'r set fawr, gan osod ei het galed o frethyn llawban ar y bwrdd, ac edrych i fyny tua'r pwlpud lle yr oedd y Doctor yn gwneyd amnaid a'i fys ar iddo fyned i fyny ato. Edrychai y gynnulleidfa mewn syndod, oblegid yn sicr ni welsant erioed o'r blaen engraifft mor berffaith o'r gwladwr mynyddig yn esgyn i'r pwlpud. Darllenai bennod yn hyf, yn uchel, ac yn gyflym; a gweddiai yn gyffelyb heb na thôn na goslef, ond gan dywallt ffrydiau diatal o ymadroddion, heb fawr o ddefosiwn na dim tynerwch. Pregethodd oddiar y geiriau"Gwrando hyn Job, saf, ac ystyria ryfeddodau Duw." Aeth drwy weithredoedd yr anfeidrol mewn creadigaeth, rhagluniaeth, a gras, a thraethai gyda'r fath ymdywalltiad rhaiadrol nes synu pawb yn y Yr oedd yn ddawn gwahanol i ddim a glywsant erioed o'r blaen; ac yn enwedig yn wahanol i'r dawn chwareus, hamddenol, esboniadol a arferent wrando bob Sabboth; a dywedodd mewn tri chwarter awr fwy o eiriau nag a ddywedwyd gan neb erioed o'r pwlpud hwnw o'i flaen, y mae yn bur sicr genym. Teimlai pawb yn y lle, er hyny, fod rhywbeth yn y llangc gwledig a diaddurn pwy bynag ydoedd, yn wahanol i bawb arall. Tarawodd ei brydweddion naturiol ni yn gryfach y pryd hwnw nag y gwnaethant byth wedi hyny. Hwyrach fod ein cynefindra a hwy yn peri nad oeddynt yn tynu ein sylw; ond yr ydym yn meddwl hefyd eu bod i raddau yn cilio, ac yn myned yn fwy anamlwg fel yr oedd ei feddwl yn cael ei ddwyn dan ddiwylliant, ac yntau yn cael ei goethi gan arferion cymdeithas uwch na'r hon y magesid ef ynddi. Yr oedd y pryd hwnw wedi tyfu i'w lawn daldra, yn agos i ddwy lath o hydpen bychan heb gnwd trwchus o wallt arno, a'r ychydig oedd wrth ei agwedd syth ac aflerw yn dangos na wybu erioed beth oedd cael ei eneinio ag olew talcen cul oedd ganddo, y fath na buasai y penglogydd yn rhoi barn ffafriol arno, a'r croen yn crychu pan y taflai ei aeliau allan, ac yr ymgiliai ei lygaid gleision, llymion, treiddgar y tu ol iddynt i gysgod ei aelflew i lechu. Safai esgyrn ei fochgernau yn uchel,gernau yn uchel,

  1. Dysgedydd 1865, tudalen 333, Llythyr at Mr. D. Price.