Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/175

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes peri i'w fochau ymddangos yn pantio. Teneuon oeddynt ei wefusau, ac arferai eu gwasgu yn nghyd pan y byddai newydd ddyweyd rhywbeth, neu pan y parotoai at siarad. Ei enau a'i lygaid oeddynt ddelweddau mwyaf dynodiadol ei wynebpryd; ond yr oedd awdurdod, meistrolaeth, a phenderfyniad yn amlwg yn ei holl ysgogiadau. Ni bu yn Mangor ond ychydig fisoedd, oblegid cyn diwedd yr haf agorodd Rhagluniaeth y drws iddo i fyned i'r ysgol i Marton, lle yr oedd nifer o wyr ieuaingc dan addysg Mr. John Jones; a chan i ni ei ddilyn i Marton yn nechreu y flwyddyn ar ol hyny, cawsom fantais ychwanegol i ffurfio cydnabyddiaeth helaethach ag ef. Ymroddodd yno i ddysgu a'i holl egni cyfansoddi yn Saesonaeg oedd ei hyfrydwch—ysgrifenodd lawer i'r Shrewsbury Chronicle, a phregethai yn Saesonaeg yn yr holl wlad oddiamgylch. Yma y dysgodd ysgrifenu llaw fer, ar yr hon yr oedd Mr. Jones, yr athraw, yn feistr hollol. Yr oedd Ieuan, pan yn Marton, yn un o'r dynion ieuaingc puraf yn ei arferion a adnabuasom erioed ffieiddiai ei galon bob twyll a rhagrith, ac nis gallasai oddef y rhai a broffesant fod y peth y gwyddai nad oeddynt. Yr oedd yn nodedig o gynil a gofalus, a boddlonai i fod heb lawer o bethau y carasai eu cael; ond gan ei fod yn gweled fod hyny yn anmhosibl heb redeg i ddyled, boddlonai hebddynt, canys yr oedd dyled ar fyfyriwr yn beth nas gallasai mewn un modd ddygymod ag ef. Yr oedd yn dyn iawn dros sefyll at ba beth bynag a benderfynid, a chyflawni pob ymrwymiad, ac os rhoddai ei air gallesid ymddiried iddo y safai ato. Cyfrifai rhai ef yn llym a chreulawn, ac y mae yn sicr y buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch a hynawsedd ynddo yn ei wneyd yn aelod hapusach o gymdeithas; ond ni bu y rhai yno a feient, ac a achwynent ar ei orfanylwch yn hir cyn esbonio eu hunain; ac yr oedd Ieuan wedi eu hadnabod cyn iddynt gyflawn ymddadblygu. Oherwydd gwaeledd Mr. Jones, Marton, ymadawodd y myfyrwyr oddiyno o un i un; ond ceisiwyd gan Ieuan i aros yno i wasanaethu yn lle Mr. Jones, yr hwn oedd wedi ei analluogi gan afiechyd, a'r hwn yn fuan a fu farw; a buont yn daer iawn arno gymeryd ei ordeinio yno yn olynydd i'w athraw; ac er fod llawer o bethau yn ei ogwyddo i gydsynio, etto, yr oedd ei awydd am ychwaneg o ddysg y fath, fel y gwnaeth gais am fyned i athrofa Aberhonddu, a derbyniwyd ef yn nghyfarfod blynyddol Mehefin 1841; lle yr arhosodd dros bedair blynedd. Cyn ymadael a Marton ysgrifenodd fywgraffiad i'w hen athraw, yn llyfryn swllt. Rhaid ei fod wedi roddi yn galed, oblegid pan welsom ef gyntaf ddwy flynedd cyn hyny, nid oedd ei wybodaeth o'r iaith Saesonaeg, ond anmherffaith iawn. Dygodd Ieuan ei holl neillduolion llym, manwl, cynil, a gofalus gydag ef i'r athrofa; ac fel y gallesid disgwyl yn mysg cynifer, yr oedd yno rai nad oedd eu syniadau am foesoldeb mor uchel ar eiddo ef, ac fel y mae yn hawdd meddwl, nid rhyw gydfod mawr oedd rhyngddo a'r cyfryw. Ond ar y rhan fwyaf o lawer cariodd ddylanwad iachusol a daionus; a dichon, a'u cymeryd gyda'u gilydd, na throdd yr un to allan o'r athrofa uwch a gloywach eu cymmeriadau, a mwy defnyddiol a gwasanaethgar i'r weinidogaeth, na'r rhai oeddynt yn gydefrydwyr ag ef yno. Nid ydym yn priodoli hyn iddo ef yn hollol, canys gwyddom fod yno eraill o gyffelyb ysbryd yn y cyfnod hwnw; ond yr ydym yn meddwl y cyduna y rhan fwyaf o'i gyd efrydwyr a ni i ddyweyd fod rhan fawr o'r dylanwad pur ac iachusol oedd yn yr athrofa yn yr adeg hono i'w briodoli i ofal manwl—i arferion pur—i argyhoeddiadau cryfion—i uniondeb diwyrni—ac i ewyllys benderfynol Ieuan Gwynedd. Bendith anrhaethol i