Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefydliad cyhoeddus ydyw cael un dyn o feddwl grymus, arweiniol, a llywodraethol, yn meddu syniad uchel a dyrchafedig am foesoldeb a gwirionedd.

Pan y daeth ei dymor yn yr athrofa i ben, derbyniodd wahoddiadau oddi-wrth amryw eglwysi i ymsefydlu yn eu plith; ond tueddwyd ei feddwl i gydsynio a galwad Saron, Tredegar, ac urddwyd ef yno fel y crybwyllasom eisoes yn Ngorphenaf 1845. Priododd Ionawr 14eg, 1846, a Miss Cathrine Sankey, Rorington Hall, sir Amwythig, merch ieuangc hawddgar a rhinweddol, a'r hon yr oedd wedi ffurfio cydnabyddiaeth yn ystod ei arosiad yn Marton. Nid oedd Mrs. Jones, mwy nag yntau, ond gwanaidd iawn ei hiechyd, fel, er fod yr anwyldeb mwyaf rhyngddynt, mai blwyddyn drallodus iawn oedd y flwyddyn y buont yn briod. Bu Mrs. Jones farw Ebrill 28ain, 1847, yn fuan ar ol genedigaeth ei baban, a chladdwyd y fam a'r bachgen yn yr un bedd. Estynwyd y cwpanaid chwerw yma i Ieuan gan Ragluniaeth pan oedd ei gyfansoddiad yn ddadfeiliedig; ac o hyny allan gwelodd "aml a blin gystuddiau." Ond yr oedd ei ysbryd yn gryf a gwrol; ac yn nghanol ei waeledd mwyaf gwnai fwy o waith nag odid ddau ddyn iach. Tra y gorweddai ef ei hun yn glaf mewn un gwely, a'i wraig yn glaf mewn gwely arall; a'i famaeth ffyddlon, dyner, a gofalus, Sarah, yn gweini arnynt ill dau, y cyfansoddodd ei draethawd Saesonaeg gwobrwyedig "Y Rhwymedigaeth Foesol i Lwyrymataliaeth." Yn ystod tymor byr ei weinidogaeth yn Nhredegar, ymroddodd yn egniol i gyflawni dyledswyddau ei swydd. "Gweithiwr difefl" ydoedd. Tynodd iddo ei hun lawer o gynlluniau yn ol y meddylrith oedd ganddo, pa fath un ddylasai gweinidog fod. Canfyddodd er ei siomiant fod mwy o anhawsder nag a dybiasai i gario allan ei feddylrithiau, er iddo hwyrach allu eu cario allan yn llawn mor berffaith ag y gallodd yr un gweinidog mewn yspaid mor fyr; ac iddo gael cefnogaeth mor wresog gan yr eglwys dan ei ofal, ag a roddir yn gyffredin gan eglwysi i weinidogion ieuaingc, sydd ar eu cychwyniad yn llawn ysbryd ac awyddfryd am wneyd daioni. Ond yr oedd syniadau Ieuan am sancteiddrwydd a phurdeb dysgyblaeth, yn uwch nag eiddo y mwyafrif yn yr eglwysi; ac yr oedd yn ofynol iddo gael oes hir, i godi unrhyw eglwys i fyny i'w safon uchel ef. Ei berygl mwyaf ef yn nglyn a dysgyblaeth eglwysig, fel perygl dynion o'r un dymer ag ef, oedd gollwng drygau ysbrydol i'r eglwys wrth fwrw allan ddrygau cnawdol; a gorchwyl anhawdd iawn wrth fwrw y "daearol a'r anianol" allan, ydyw cadw "cythreulig" rhag dyfod i fewn. Fel pregethwr, yr oedd Ieuan yn rhy draethodol i fod yn boblogaidd gan gynnulleidfaoedd cyffredin; ac yr oedd yn traddodi yn rhy galed a llafurus i'w nerth corphorol. Er ei fod yn gwbl uniongred ac Efengylaidd yn ei olygiadau duwinyddol; etto baich ei bregethau oedd, llygredigaeth calon dyn, ysbrydolrwydd teyrnas Crist, a moesoldeb Cristionogol. Ychydig o sylw mewn cydmariaeth a dalodd i dduwinyddiaeth byngciol, a llai na hyny o gydymdeimlad oedd rhyngddo a'r dadleuon oedd yn rhanu Ymneillduwyr Protestanaidd. Nis gallasai oddef y dynion a broffesant sel fawr dros athrawiaeth iach, ond a esgeulusent dalu eu dyledion a weddient yn ddoniol yn y capel, ond na ofalent am addoliad ar yr aelwyd, ac a adawent eu plant i chwareu ar y Sabboth ar y tips a'r twyni. Yr oedd ei holl enaid yn cynhyrfu yn erbyn y bobl a honent brofiadau uchel, ac a ymgysurent "fod y cyfamod yn sound"—ar "afael gryfaf fry," ac ar yr un pryd a eisteddant i lymeitian yn y dafarn nes ymlenwi a diod gref. Barnai grefydd pobl nid wrth eu