y Standard of Freedom, newyddiadur galluog a gyhoeddid gan John Cassell. Bu yn Llundain hyd Awst 1849, pan torodd llestr gwaed yn ei ochr aswy, fel yr ofnid y gwaedai i farwolaeth, a barnwyd gan ei feddygon fod ei ddyddiau ar ben; ond os gallai y buasai yn well iddo ddychwelyd i Gymru i farw; a symudwyd ef i Gaerdydd mewn gwely. Mewn cyfeiriad at y tymor hwnw dywed, "Gwelsom ddyddiau duon yn Llundain. Yr ydym yn cofio dydd Llun pan oedd ein clyw wedi myned; a'n holl gorff fel wedi ei falurio, ac ar y prydnhawn hwnw llifai y gwaed yn bistill o'n genau. Yr ydym yn cofio pedwar o feddygon yn ein rhifo i'r bedd cyn nos dranoeth. Yr ydym yn cofio dydd Sadwrn ar yr hwn y mynegai ein meddyg parchus nad allem fyw ond ychydig ddyddiau. Ac yr ydym yn cofio, o herwydd yr oedd ein meddwl yn hollol dawel, y boddfeydd o chwys a ffrydient yn ddiorphwys dros ein corff am y pedair awr ar hugain canlynol."
Ond bu efe fyw fwy na dwy flynedd ar ol hyny; ac adfywiodd gryn lawer yn ei iechyd a'i nerth. Yn nechreu Ionawr 1850, daeth y rhifyn cyntaf o'r Gymraes allan dan ei olygiaeth, misolyn at wasanaeth merched Cymru, a pharhaodd i'w olygu am ddwy flynedd. Yn nghanol y flwyddyn hono y daeth y rhifyn cyntaf o'r Adolygydd hefyd allan, cyhoeddiad chwarterol a fu dan ei olygiaeth hyd ei farwolaeth. Ysgrifenodd lawer yn ystod 1850 a 1851, mewn rhyddiaeth a barddoniaeth yn Gymraeg a Saesonaeg; ac ennillodd yn yr ystod hwnw lawer o wobrau. Dyma y pryd y cyfansoddodd ei bryddest odidog ar "Yr Adgyfodiad," a'i bryddest fuddugol ar "Adgyfodiad Crist," a'i awdl ar "Heddwch," yr hon a barotodd erbyn Eisteddfod Tremadog, yr hon oedd yn ail i awdl wobrwyedig Hiraethog; heblaw llawer o ddarnau llai, a lluaws o draethodau bychain a mawrion. Cyfansoddodd lawer o'r rhai hyn yn ei wely; ac yn cael ei gynal i fyny gan obenyddiau; ac mewn poenau yn aml, y fath na feddyliasai y rhan fwyaf o ddynion am wneyd dim ond ymwrando a'u dyoddefaint a chwyno iddynt eu hunain; ond yr oedd ysbryd yn Ieuan na fynai ei roddi i lawr; a bu raid ei "orchfygu ef yn dragywydd," cyn iddo roddi i fyny i farw.
Yr oedd cyfansoddi yn hollol naturiol iddo, ac nid oedd ysgrifenu mewn un modd yn faich arno. Ysgydwai ei fysedd fel heb yn wybod iddo, a thra y byddai eraill yn siarad byddai ef yn ysgrifenu. Nid ymaflai ond anfynych mewn cwestiynau dyrus ac arddansoddol; y fath ag a ofynai efrydiaeth ddwfn, a darlleniad helaeth cyn cyfansoddi arnynt; ond ymarferol neu hanesiol oedd y rhan fwyaf o'r testynau ar y rhai yr ysgrifenai. Yr oedd ei gof agos yn ddihysbydd, a'i ddirnadaeth yn eang a chwmpasog, fel yr oedd yn amgyffred yn llawn bob mater yr ysgrifenai arno; ac yr oedd trefn mor naturiol iddo, fel yr oedd pob peth oedd ganddo ar bob pwngc yn union wrth law, fel y gwyddai, heb golli amser i chwilio, pa le i gael gafael ynddynt. Fel cyfansoddwr, yr oedd yn un o'r rhai egluraf, ystwythaf, a chyflawnaf yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd ganddo yn wastad at ei alwad ddigonedd o eiriau chwaethus a detholedig, heb mewn un modd gyfranogi o'r "chwyddedig eiriau gorwagedd" sydd yn anurddo cyfansoddiadau rhai ysgrifenwyr poblogaidd. Dygai i mewn briod-ddulliau goreu pob cwr o'r Dywysogaeth; ac etto ymgadwai yn hollol rhag defnyddio geiriau sathredig, ac y mae ystyr wahanol iddynt mewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd arwedd farddonol i'w arddull, y fath ag a wnelai darllen ei waith yn bleser, a swynai y darllenydd a'i naturioldeb,