Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel yr oedd pob peth o'i eiddo yn darfod yn rhy fuan ganddo. Yr oedd yn feistr perffaith ar ystadegaeth, ac ar bob achlysur y byddai angen, gwnai y defnydd mwyaf hapus o honynt; ac o dan ei law ef yr oedd rhyw ireidd-dra ar ffigyrau sychion, ac ystwythder barddonol ar ei ffeithiau a'i ystadegau. Trwy gydsyniad cyffredinol cydnabyddid ef yn un o brif lenorion ei oes a'i wlad; ac fel bardd, rhestrir ef yn nosbarth cyntaf y Pryddestwyr, os na chyfrifir ef yn mysg "cedyrn cyntaf" yr Awdlwyr. Yr oedd yn deall cyfrinion yr awen; a llwyddai i gael ganddi draethu iddo ei dirgelion; ac ni chyflwynwyd gan ddyn erioed athrylith burach i'w gwasanaeth. Gwnaeth waith oes hir mewn tymor byr; ac y mae gweled y fath weithiwr yn nychu a dihoeni am flynyddau, ac yn marw cyn ei fod yn 32 oed, pan yr oedd cymaint o'i angen ar y byd, yn peri i ni ddywedyd, "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Ond ust! trwy y cymylau trwchus gwelwn orsedd, "a chyfiawnder a barn" yn eistedd arni.

Yr oedd ei iechyd yn ymddangos yn well yn niwedd 1851; ac yr oedd wedi uno y Gymraes a'r Tywysydd, ac wedi cymeryd gofal y Diwygiwr mewn cysylltiad a Mr. David Rees; ac y mae y rhifyn cyntaf o hwnw am 1852 yn dangos ei fod dan oruchwyliaeth newydd; a disgwylid y buasai iddo cyn hir symud i Lanelli, lle yr argraffid y Diwygiwr, a'r Gymraes, a'r Adolygydd, yr hwn hefyd a olygid ganddo. Ond siomwyd yr holl ddisgwyliadau hyn. Gyda dyfodiad oerder a gerwinder mis Chwefror, ymddangosodd arwyddion eglur fod ei ddyddiau ef i farw wedi nesau, a dydd Llun Chwefror 25ain, 1852, ehedodd ei enaid cryf o'i gorff gwan i fynwes ei Arglwydd; a'r dydd Gwener canlynol dygwyd ei weddillion marwol mewn elorgerbyd i fynwent y Groeswen, lle yr oedd nifer luosog o wyr defosiynol wedi ymgynnull i'w gladdu; a gwnaethant alar mawr am dano ef. Darllenwyd rhanau priodol o'r Ysgrythyr yn y capel gan Mr. J. Thomas, Glynnedd, (Liverpool yn awr); a gweddiodd Mr. W. Williams, Hirwain; pregethodd Meistri E. Roberts, Cwmafon, yn Saesonaeg; a W. Edwards, Aberdare, yn Gymraeg; a therfynwyd trwy weddi gan Mr. J. Thomas, Aberdare. Cymerwyd hefyd ran yn y gwasanaeth yn y capel ac wrth y bedd gan Mr. W. Williams, Tredegar, (Abercarn yn awr); Mr. N. Stephens, Sirhowy, (Liverpool yn awr); Mr. J. Davies, Llanelli, (Caerdydd yn awr); a Mr. Moses Rees, Groeswen; a gadawsom Ieuan Gwynedd yn mynwent y Groeswen "mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol."

Cyfodwyd colofn hardd ar ei fedd trwy danysgrifiadau ceiniog oddiwrth ei gyfeillion a'i edmygwyr o bob cwr o'r Dywysogaeth, ac y mae yn gerfiedig arni y llinellau canlynol o waith Gwilym Hiraethog.

"Y golofn yma gyhoedda haeddiant
Ieuan Gwynedd, i'w wlad fu'n ogeniant;
Haul oedd i'w genedl—miloedd a gwynant
Ai'n nos o'i golli—tewi nis gallant—
Llanwodd swydd llenydd a sant—sai'i weithiau
Ef i'r oloesau yn ddirfawr lesiant."

Heddwch i ti fy mrawd! Nac ymyred neb a'th esgyrn! Mae yn iawn i ti gael gorphwys, canys gweithiaist dy ddiwrnod byr yn galed. Chwythed yr awel yn esmwyth drosot—disgyned, gwlithwlaw y nefoedd yn