Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mhob un o honynt. Mae desgrifiad Ficer Llanymddyfri o anfoesoldeb offeiriaid Cymru, yn ei oes ef, yn hysbys i bob darllenydd Cymreig, ac y mae yn wybyddus nad oedd yr hen Ficer mewn un radd yn gogwyddo at Ymneillduaeth, yr hon oedd wedi dechreu gwneyd ei hymddangosiad yn y Dywysogaeth tua saith neu wyth mlynedd cyn ei farwolaeth ef. Mewn deiseb a gyflwynwyd i'r Senedd Mehefin 26ain, 1641, dywedir nad oedd yn Nghymru gynifer o bregethwyr galluog a chydwybodol ag oedd ynddi o siroedd, a bod yr ychydig oedd i'w cael mewn rhai parthau yn cael eu herlid yn ddidrugaredd. Yn rhestr yr offeiriaid a fwriwyd allan o'u bywioliaethau rhwng 1642 a 1650, yr ydym yn cael i amryw gael eu diswyddo am beidio cartrefu yn eu plwyfydd, eraill am annghymwysder i waith y weinidogaeth, a llawer am feddwdod, puteindra, a phechodau cyffelyb.

Pan yr oedd yr offeiriaid—athrawon y bobl—yn gymeriadau mor lygredig ac anheilwng, nis gellir disgwyl dim amgen na bod y werin yn gorwedd mewn anwybodaeth, ac yn ymdroi yn mhob rhyw aflendid a drygioni. Yn rhagymadrodd y weithred Seneddol a basiwyd yn y flwyddyn 1563, er awdurdodi cyfieithiad y Bibl i'r Gymraeg, dywedir, "fod deiliaid hoffus ei Mawrhydi, y rhai a gyfaneddant yn Nghymru, yr hon sydd ran nid bychan o'r deyrnas hon, yn hollol amddifaid o Air sanctaidd Duw, ac yn byw mewn cyffelyb, neu yn hytrach fwy, o dywyllwch ac anwybodaeth nag yr oeddynt ynddo yn amser Pabyddiaeth." Mae Dr. Richard Davies, esgob Tyddewi, yn ei lythyr o flaen cyfieithiad Salesbury o'r Testament Newydd, yn dyweyd fod trais, lladrad, tyngu anudon, twyll, a phob math o ddrygau, yn gwarthruddo pob dosbarth o gymdeithas trwy y wlad, a bod palasdai y pendefigion yn ffauau lladron. Mae ysgrifeniadau John Penry yn cynwys y desgrifiadau mwyaf torcalonus o gyflwr moesol, anwybodaeth, a thrueni ysbrydol ei gydwladwyr. Dywed esgob Llanelwy, mewn llythyr at yr archesgob Laud, yn 1634, "Nid ydym mewn un ran o'r esgobaeth yn cael ein blino gan Anghydffurfiaeth, ond fe fyddai yn dda genyf pe gallwn ddyweyd ein bod mor rydd oddiwrth goel—grefydd ac anfoesoldeb ag yr ydym oddiwrth Anghydffurfiaeth."[1] Dywed Ficer Llanymddyfri, nad oedd un o bob cant o'i gydwladwyr yn medru darllen Gair Duw, nad oedd un copi o hono i'w gael hyd yn oed yn mhalasdai llawer o'r boneddigion, chwaithach yn anedd-dai y tylodion, a bod aflendid y Sodomiaid, lladrad y Cretiaid, meddwdod y Parthiaid, celwydd y Groegiaid, ac anffyddiaeth y Samariaid yn ffynu trwy yr holl wlad. Yn y flwyddyn 1646, cyhoeddodd John Lewis, Yswain, o'r Glasgrug, yn sir Aberteifi, lyfryn bychan a alwai "Myfyrdodau ar yr amserau presenol, neu y Senedd yn cael ei hegluro i Gymru," Yn y llyfryn hwn, dywed, "Mewn gair, gydwladwyr, mae yn rhaid i mi ddyweyd wrthych ein bod yn ein twyllo ein hunain, ac nad ydym yn deall ein cyflwr. Ni a fynwn gael ein cyfrif yn Brotestaniaid da, ond och, pa fodd y gallwn fod yn

  1. The Lambeth, MSS. Vol. 943.