dyner arnat—gwylied angylion le cysegredig dy fedd, hyd y boreu y cyfnewidir dy gorff gwael di gan dy Briod a'th Brynwr i ffurf ei "gorff gogoneddus ef!"
BETHLEHEM, BLAENAFON.
Mae Blaenafon yn mhen uchaf y cwm trwy yr hwn y rhed yr Afon Lwyd, heibio Abersychan a Phontypool i lawr i'r Casnewydd. Mae pump o blwyfydd yn cyfarfod yma, sef Trefethin, Llanover, Llanwenarth, Llanffoist, ac Aberystruth. Yn mhlwyf Llanover y mae y capel presenol. Ychydig iawn oedd nifer trigolion yr ardal cyn agoriad y gweithiau haiarn yn y flwyddyn 1786, o'r pryd hwnw cynyddodd y boblogaeth yn raddol, fel y maent yn bresenol dros 7,000. Ymddengys i'r enwog Edmund Jones, Pontypool, fod yn pregethu yma yn lled gyson rai blynyddau cyn hyny, fe ddichon oddiar y pryd yr ymsefydlodd yn Mhontypool. Dywedir iddo gymeryd trwydded ar amaethdy a elwir y Persondy, at bregethu ynddo, ond nid ydym wedi cael allan pa flwyddyn y bu hyny. Shon Lewis Shon oedd enw gwr y Persondy. Yr oedd Anne ei wraig yn aelod yn Ebenezer, ac yn ei henaint gwnaeth yntau broffes gyhoeddus o grefydd, ond gan ei fod yn rhy fethiedig i fyned i Ebenezer derbyniwyd ef yn aelod yn ei dy ei hun. Mae yn debygol ei fod yn ddyn crefyddol iawn. Mae Mr. John E. Williams, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes yma, wedi cofnodi yr hanesyn canlynol am Shon Lewis Shon, o enau wyres iddo, yr hon a fagwyd yn ei dy: Pryd yr oedd hi tua saith mlwydd oed, sylwai fod ei thadcu yn myned allan o'r ty bob bore, ac yn aros cryn amser cyn dychwelyd. Cyffrowyd ei chywreinrwydd un bore i edrych ar ei ol, a chafodd mai i ganol llwyn tewfrig o gelyn yr elai, lle y byddai yn treulio yspaid o amser mewn gweddi. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1770. Nid ymddengys fod yma achos neu eglwys Annibynol o gwbl yn amser Edmund Jones, er fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn lled gyson yn y Persondy, er budd aelodau a gwrandawyr Ebenezer, a breswylient yn yr ardal hwn. Mae yn debyg i Edmund Jones yn ei flynyddau diweddaf ymddiried y gwaith o ofalu am yr ychydig ddefaid o gylch Blaenafon, yr un fath ag yn y Blaenau, i Dafydd Thomas, Nantmelyn. Byddai yr hen wr hwnw yn dyfod drosodd yn lled aml o'r Blaenau i bregethu yn y Persondy. Marchogai asen, yr hon a alwai Shoned. Nid ymddengys i'r hen wr da hwn wneyd fawr ddaioni yma trwy ei ymweliadau, oblegid mae yn debygol ei fod yn hynod o ddifedr fel pregethwr. Yr oedd yma un aelod eglwysig o'r enw William Lewis, yr hwn a fu farw ar y ffordd un bore Sabboth wrth ddychwelyd o'r cyfarfod cymundeb o Dy Solomon. Bu pregethu achlysurol am flynyddau lawer yn y Persondy. Adroddai Edward Williams iddo ef fod yn gwrandaw Mr. Davies, Llangattwg, yn pregethu yno yn 1794. Mae yn debygol fod y rhan fwyaf, os nad yr oll o hen aelodau yr Annibynwyr yn yr ardal hon wedi meirw erbyn yr amser y cychwynwyd y gwaith haiarn. Tua y flwyddyn 1789, pan yr oedd dwy ffwrnes wedi eu cynneu yma daeth amryw bobl i'r lle o wahanol ardaloedd, ac yn eu mysg rai crefyddwyr. Un o'r rhai cyntaf a ddaeth yma oedd Thomas Harry, aelod o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, a dyn ieuangc nodedig o dalentog a chrefyddol; daeth yma hefyd ddyn mewn gwth o oedran, yr hwn a elwid