Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Siams o'r hewl;" aelod o'r Mynyddbach oedd yntau. Dyn crefyddol arall o'r enw Dafydd John, o Lanelli, sir Gaerfyrddin, a ddaeth tua yr un amser i'r lle. Dilynwyd y rhai hyn gan amryw eraill yn fuan. Ond yn anffodus ni ddarfu iddynt fabwysiadu y cynllun goreu at godi achos yn y lle. Ymunodd rhai o honynt yn Ebenezer, Pontypool, eraill yn Hanover, ac eraill yn Llangattwg, Crughowell. Elent i'r lleoedd pell hyny foreuau y Sabbothau, a dychwelent adref erbyn amser cysgu, ac felly nis gallent wneyd un daioni crefyddol i'w cymydogion. Yr oedd un William Francis, Bedyddiwr, yn yr ardal, yn cadw ei dy yn agored i bregethwyr o bob enwad; ac yr oedd wedi gosod pulpud bychan i fyny yn ei dy.

Cyn gynted ag y sefydlodd Mr. Ebenezer Jones yn Mhontypool, dechreuodd dalu ymweliadau lled fynych a Blaenafon, a bu ei weinidogaeth o fendith i lawer yma.

Yn mysg eraill ennillwyd Edward Williams at yr achos tua y flwyddyn 1796, a bu yn golofn gadarn dano hyd derfyn ei oes. Efe oedd tad Mr. E. Williams, Dinasmawddwy, a Mr. John E. Williams, Blaenafon. Yr oedd E. Williams yn enedigol o ardal y Mynyddbach, Abertawy, lle yr oedd ei rieni, a'r rhan fwyaf o'i berthynasau, yn aelodau. Un diwrnod pan yn son wrth "Siams o'r hewl" am ragoriaeth Davies, Mynyddbach, fel pregethwr, dywedodd Siams wrtho, "Mae gweinidog ieuangc i bregethu prydnawn dydd Sul nesaf yn nhy Aaron Brute, yn llawn mor ddoniol a Davies. A ddewch chwi i'w wrandaw?" Addawodd fyned. Y gweinidog ieuangc oedd Ebenezer Jones. Aeth Edward Williams i'w wrandaw, a chyrhaeddodd y gwirionedd ei galon. O hyny allan ymwasgodd at yr ychydig ddysgyblion yn yr ardal. Cydgerddai a hwynt o'r cyfarfodydd, a siaradai a hwynt am y pregethau, ond ni thorodd un o honynt ato i ddyweyd un gair wrtho am ei gyflwr. O'r diwedd, gorfu iddo ef dori atynt hwy, ac agor ei fynwes iddynt. Derbyniwyd ef yn aelod yn Ebenezer yn y flwyddyn 1797. Yn fuan ar ol E. Williams derbyniwyd amryw eraill o Flaenafon, megys William a Walter Phillips, dau frawd, John Morris, yn nghyd a nifer o wragedd. Erbyn hyn yr oedd golwg obeithiol iawn ar y gymdeithas fechan. Pe buasai ty addoliad yn cael ei gyfodi yma y pryd hwnw buasai yr enwad Annibynol, wrth bob tebygolrwydd, wedi meddianu yr holl ardal. O herwydd fod Mr. Ebenezer Jones yn rhanu ei lafur rhwng Ebenezer a Brynbiga, ac o bosibl am fod pobl Ebenezer yn anfoddlon gollwng eu gafael yn yr aelodau a breswylient yn Mlaenafon, esgeuluswyd y lle pwysig hwn nes oedd yr enwadau eraill wedi ei feddianu i raddau helaeth. Y pryd hwnw (1797) nid oedd gan un enwad addoldy yn y lle, ac er fod gan yr Annibynwyr fwy o aelodau yma na neb arall, y Methodistiaid gafodd yr anrhydedd o adeiladu y capel cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd eu capel hwy yn 1799. Wrth gasglu ato, addawid y buasai yn rhydd rhwng pob enwad, ond wrth wneyd y weithred, gwnaed ef yn feddiant i'r Methodistiaid yn unig. Yr oedd Thomas Harry, un o'r prif ddynion gyda'r Annibynwyr, wedi rhoddi gini ato, a phan ddeallodd mai capel i un enwad ydoedd, mynodd ei gini yn ol. Ond rhyw fodd cyn pen blwyddyn wedi hyny, aeth Thomas Harry a'i gini yn grynswth at y Methodistiaid, a bu yn bregethwr parchus yn eu mysg hyd derfyn ei oes. Bu ei ymadawiad yn achos o lawer o ddigalondid i'r Annibynwyr, gan ei fod yn un o'r rhai galluocaf a mwyaf dylanwadol yn eu mysg.

Tua yr amser hwn hefyd bu mesur o anhwylusdod yn y gweithiau, fel y gorfu i amryw ymadael ar lle, ac yn eu plith Edward Williams, yr hwn